Nansi'r Dditectif/Wyneb yn Wyneb
← Yr Ewyllys | Nansi'r Dditectif gan Owain Llew Rowlands |
Mewn Storm → |
PENNOD II
WYNEB YN WYNEB
PEIDIWCH anghofio pwy sydd i ginio gyda chwi heddiw, atgoffai Nansi wrth y bwrdd brecwast bore trannoeth.
"Fe'i galwaf ar y teliffon pan gyrhaeddaf fy swyddfa," atebai Mr. Puw, "ond cofiwch, peidiwch disgwyl gormod oddi wrth yr ymweliad."
"Wna i ddim, 'nhad," chwarddai Nansi, "ond os clywaf air am ewyllys goll, bydd yn fwy na digon gennyf." "Beth ydych am wneud heddiw tra byddaf yn y swyddfa, Nansi?"
"Dim neilltuol iawn heddiw. Mae gennyf dipyn o waith siopio. Byddaf yn mynd i wersyll yr Urdd yn Awst. Rhaid i mi baratoi ar gyfer hynny. Pnawn, 'rwy'n mynd i barti un o enethod fy nosbarth."
"Felly, 'rydych yn rhy brysur i ddod i ginio efo mi?" "O, nhad, a chwithau yn gwybod fy mod bron marw eisiau i chwi fy ngwahôdd," ebe Nansi. "Yr wyf mor awyddus i wybod rhywbeth ynghylch yr ewyllys yna."
"Olreit, os bydd gennych amser, dowch i'r swyddfa erbyn hanner awr wedi hanner dydd. Efallai na fedr Mr. Walters ddyfod; ond os medr, fe geisiwn gael allan rywbeth ynglŷn â Joseff Dafis. Nid oes raid i mi ddweud wrthych am beidio dangos eich bod yn orawyddus."
Cewch chwi siarad y cwbl, nhad. Cadwaf innau fy nghlustiau yn agored."
"Byddaf yn eich disgwyl erbyn hanner awr wedi hanner dydd, ynteu."
Gwthiodd Mr. Puw ei gadair yn ôl ac edrychodd ar ei oriawr. "Rhaid i mi frysio neu byddaf yn hwyr yn y swyddfa."
Ar ôl i'w thad adael y tŷ gorffennodd Nansi Puw ei brecwast, ac yna aeth i'r gegin at Hannah, y forwyn, i drefnu gwaith y dydd. Er mai un ar bymtheg oedd Nansi, yr oedd yn bur fedrus, a llwyddai hi a Hannah i gyd-dynnu yn ardderchog i edrych ar ôl y tŷ. Ar ôl marw ei mam flwyddyn cyn hynny penderfynodd Nansi edrych ar ôl y cartref gyda Hannah Parri, y forwyn fu gyda hwy fel teulu ers llawer blwyddyn.
Yr oedd Nansi yn boblogaidd yn yr ysgol, a chanddi ddigon o ffrindiau. Dywedai pobl Trefaes amdani bod iddi'r gallu o gymryd bywyd o ddifrif heb fod yn ddifrifol ei hunan.
Ffrind gorau Nansi yn yr ysgol oedd Eurona Lloyd. Y ddwy eneth fwyaf atgas ganddi yn y lle oedd Gwen a Phegi Morus. Beth bynnag ddigwyddai o'i le yn y dosbarth, ceisiai'r ddwy chwaer feio Nansi. Un dydd collwyd ffon hoci ar y cae chwarae. Yn ôl eu harfer, ceisiai'r ddwy chwaer feio Nansi. Ond yn ffodus, yr oedd rhai o gyfeillion Nansi wedi canfod Pegi yn cipio'r ffon i fyny a'i thaflu dros y gwrych. Daeth Rona ac un neu ddwy arall o gyfeillesau Nansi i ateb dros ei gonestrwydd at yr athrawes. Byth ar ôl hynny yr oedd yn gas gan y chwiorydd Nansi.
"Ni fyddaf yn ôl i ginio heddiw," ebe Nansi wrth Hannah. "Mae popeth yn barod ar gyfer swper heno, pan ddaw nhad adref."
Ymhen y stryd bu Nansi'n disgwyl ennyd am y 'bus,, ac yna ni bu'n hir cyn cyrraedd strydoedd prysur y dref. Aeth ar ei hunion i un o'r masnachdai mawrion a phrynodd amryw fân bethau ar y llawr isaf. Yna aeth i'r lifft ac esgynnodd i'r llawr cyntaf lle y gwerthid dilladau merched, gan feddwl prynu ffrog newydd ac un neu ddau o bethau eraill a dybiai yn angenrheidiol gogyfer â gwersyll yr Urdd. Pur brysur oedd hi yn y rhan honno o'r siop, a rhaid oedd iddi ddisgwyl ei thro. Eisteddodd i lawr yn hamddenol. Cyn hir tynnwyd ei sylw at ddwy eneth debyg iddi ei hun yn disgwyl eu tro, ond nid mor amyneddgar â hi. Gwelodd ar unwaith mai Gwen a Phegi Morus oeddynt.
Ymgecru yr oeddynt â'r gŵr oedd yn gyfrifol am y rhan honno o'r siop, ac ni fedrai Nansi beidio clywed eu geiriau.
"Dyma ni wedi bod yn disgwyl yma am dros ddeng munud,” meddai Gwen yn haerllug. "Anfonwch rywun i'n gwasanaethu ar unwaith, os gwelwch yn dda."
"Ofnaf na fedraf wenud hynny, madam," meddai'r gŵr, yn ofidus, "y mae eraill yma o'ch blaen."
"Wyddoch chwi pwy ydym ni?" gofynnai Gwen drachefn, yn goeglyd.
"Gwn, madam," ebe'r gŵr yn wylaidd, a sŵn blinderus yn ei lais,
"Anfonaf eneth atoch os arhoswch am funud neu ddau."
"Nid ydym yn arfer disgwyl wrth neb," oedd atebiad sych Pegi.
"Mae yn ddrwg gennyf," meddai'r gŵr drachefn, "ond rheol y siop hon yw i bob cwsmer aros ei dro."
Ffromodd Gwen. Fflachiai ei llygaid yn wyllt. Gwisgai ddillad drudfawr, ond nid oedd dim yn ddeniadol ynddi. Yr oedd mor dal fel bron y gellid dweud ei bod yn "denau." Wrth edrych arni'n awr, wedi colli ei thymer, gellid dweud gyda sicrwydd ei bod yn hyll.
Ar y llaw arall, yr oedd Pegi, eilun y teulu, yn dlws o un safbwynt, ond teimlai Nansi Puw nad oedd cryfder cymeriad yn ei hwyneb. Gellid dweud ar unwaith mai ychydig o benderfyniad oedd ganddi. Siaradai yn wahanol i'r genethod eraill, gyda rhyw lediaith Seisnigaidd dianghenraid oedd yn boenus a chwerthinllyd. Yr oedd Pegi fel blodeuyn o dŷ gwydr, ac uchelgais Mrs. Morus oedd iddi briodi rhywun cyfoethog rhyw ddiwrnod.
Yr oedd y ddwy yn hŷn na Nansi, er eu bod yn yr un dosbarth yn yr ysgol. Nid oedd gronyn o ddysgu ynddynt. Yr oeddynt uwchlaw dysgu oddi wrth neb, ac am eu bod mor ffroenuchel nid oedd iddynt ffrindiau.
Yn awr, wrth iddynt droi a'i gweled am y tro cyntaf, amneidiodd Nansi arnynt. Cydnabu Pegi'r amnaid, ond ni ddywedodd air. Ni chymerodd Gwen yr un sylw o'r cyfarchiad.
"Y snobiaid," ebe Nansi rhwng ei dannedd, “y tro nesaf ni chymeraf arnaf eu gweld.
Ar hynny dyna eneth yn prysuro at y ddwy chwaer. Edrychai Nansi arnynt gyda diddordeb yn gafael yn y naill ddilledyn ar ôl y llall. Yr oedd yn amlwg nad oedd dim a'u boddhâi, gan y taflent o'r neilltu ddillad prydferth a drudfawr bron heb edrych arnynt. Yr oedd rhyw fai ar bopeth ganddynt.
"Dyma i chwi ffrog hardd," ebe'r eneth gwrtais, gan ddangos dilledyn ystyriai Nansi yn rhyfeddol o brydferth, "newydd gyrraedd o Baris y bore yma.”
Cipiodd Gwen y ffrog yn ddiamynedd o'i dwylo. Edrychodd ar y dilledyn yn ddifater am ennyd, a thaflodd ef ar y gadair wrth ei hochr. Llithrodd y ffrog sidan yn swp i'r llawr, ac er braw i'r eneth, rhoddodd Pegi ei throed arni.
Trodd Nansi ymaith rhag gweled mwy, ac edrychodd ar amryw o bethau diddorol o'i chwmpas.
Daeth yn ôl ymhen ysbaid, a gwelodd Gwen a Phegi yn gadael y masnachdy heb brynu'r un nwydd, ac wrth fyned heibio i Nansi prin yr edrychent arni.
"Nid yw fawr ryfedd fod pobl yn dweud pethau cas amdanynt," ebe Nansi wrthi ei hun.
Torrwyd ar draws ei meddyliau gan eneth yn dod i'w gwasanaethu. Yr un eneth a fu gyda'r chwiorydd.
Ni fu Nansi'n hir cyn dewis ffrog,—un sidan las,—yr un lliw a'i llygaid. Aeth drwodd i ystafell i'w rhoi amdani.
"Y mae'n bleser dangos rhywbeth i chwi, Miss Puw," ebe'r eneth pan oeddynt eu hunain, "ond am y ddwy Miss Morus, mae'n gas gennyf weld eu hwynebau yn y lle. Y maent mor afresymol. Nid ydynt yn boblogaidd iawn."
"Nac ydynt," ebe Nansi. Credant fod eu gair yn ddeddf i bawb arall."
"Hm," ebe'r eneth, "ofnaf y byddant yn waeth os cânt eiddo Joseff Dafis i gyd." Gostyngodd ei llais. "Nid oes dim wedi ei setlo eto, ond y maent yn sicr yn eu meddwl eu hun eu bod i gael y cwbl ar ei ôl." Rhoddodd ei genau wrth glust Nansi: "Clywais Miss Gwen yn dweud wrth ei chwaer, 'O, bydd gennym ddigon i brynu'r holl siop os mynnwn, wedi i'r twrneiod orffen ffraeo.' Ond fy nghred i yw bod y Morusiaid yn bryderus rhag ofn i rywun ddod ag ewyllys arall i'r golwg fydd yn gadael dim iddynt hwy.'
Yr oedd Nansi yn rhy gall o lawer i gyfnewid clebar efo'r eneth. Yr oedd ei thad wedi ei dysgu i wylio ei thafod. Ond yr oedd hysbysrwydd yr eneth o ddiddordeb iddi. Casglodd ar unwaith fod pryder y Morusiaid yn profi y credent bod ewyllys arall.
Ar ôl trefnu i anfon ei negesau adref, gwelodd Nansi ei bod wedi troi hanner dydd.
"Rhaid imi frysio neu byddaf yn rhy hwyr i fynd gyda'm tad," meddyliai wrth adael y siop.
Cyrhaeddodd swyddfa'i thad i'r funud, a chafodd ef ar fin cychwyn allan i gyfarfod Mr. Walters. Yr oedd Mr. Puw wedi trefnu popeth yn ei ffordd ofalus ei hun.
Nid oedd ond gwaith ychydig funudau o'r swyddfa i Westy Gwalia. Tu fewn i'r porth gwelent Mr. Walters yn eu haros. Cyflwynodd Mr. Puw ei ferch iddo, ac aethant drwodd i'r ystafell fwyta'n ddiymdroi, at fwrdd oedd wedi ei arlwy ar eu cyfair.
Ar y cychwyn troai'r sgwrs o gwmpas llu o wahanol bethau, ac fel yr äi'r cinio ymlaen soniai'r ddau dwrne am ddyddiau'r coleg ac am wahanol faterion ynglŷn â'u galwedigaeth. Ofnai Nansi na ddeuai Joseff Dafis a'i eiddo byth yn destun yr ymddiddan, a hithau yn disgwyl mor bryderus amdano.
Yna, wrth yfed coffi ar ôl y cinio, trodd Edward Puw yr ymgom yn fedrus iawn at rai o'r achosion rhyfedd oedd wedi disgyn i'w ran i'w datrys o dro i dro.
"Gyda llaw, ni chlywais erioed y manylion am eiddo Joseff Dafis. Beth sy'n digwydd i'r Morusiaid? A ydyw yn wir fod y perthynasau eraill yn ceisio torri'r ewyllys?"
Am eiliad petrusodd Mr. Walters. Ni ddywedodd air, a suddodd gobaith Nansi. Ond petruster am foment yn unig ydoedd.
"Ni dducpwyd yr achos i mi," ebe Mr. Walters yn dawel, "ond rhaid cyfaddef imi ei ddilyn yn fanwl gan fod imi ddiddordeb arbennig yn Joseff Dafis. Fel y saif yr ewyllys bresennol, credaf yn gryf nas gellir ei gwrthbrofi."
"Felly, caiff y Morusiaid yr eiddo i gyd?" awgrymai Mr. Puw.
"Cânt, yn siwr, os na ddaw ewyllys arall i'r golwg." "Ewyllys arall?" gofynnai Mr. Puw, yn ddiniwed. "Credwch felly i Joseff Dafis wneud ewyllys arall?"
Arhosodd Mr. Walters am ychydig cyn ateb, fel pe'n methu penderfynu a ddylai ddweud yr hyn a wyddai. Yna, wedi taflu golwg dros ei ysgwydd i edrych a oedd rhywun yn agos iddynt, closiodd ei gadair at y bwrdd, ac meddai mewn tôn isel, "Fuaswn i ddim yn hoffi i air o hyn fynd ymhellach."
"Gellwch ymddiried yn hollol yn Nansi, na ddywed hi air wrth neb," ebe Mr. Puw, yn deall beth redai drwy feddwl y cyfreithiwr.
"Yna gallaf ddweud cymaint â hyn. Synnwn i ddim pe deuai ewyllys arall i'r amlwg. Ni bu'r Morusiaid yn rhy garedig wrth Joseff Dafis, ar ôl iddo wneud ei ewyllys yn eu ffafr. Rhyw flwyddyn yn ôl daeth Joseff i'm swyddfa, ac yr oedd yn selog am wneud ewyllys newydd. Awgrymai ei fod yn bwriadu torri'r Morusiaid allan ohoni heb yr un ddimai. Yr oedd am ysgrifennu'r ewyllys ei hun, a gofynnai amryw gwestiynau imi. Dywedais wrtho sut i fynd o'i chwmpas. Wrth ymadael â'r swyddfa addawodd ddod â'r ewyllys i mi i'w harchwilio wedi iddo ei hysgrifennu."
"Felly, gwelsoch chwi'r ewyllys newydd?" gofynnai Mr. Puw mewn syndod. Gafaelai Nansi'n dynn ym mreichiau ei chadair.
"Yn rhyfedd iawn, naddo. Ni ddaeth Joseff Dafis yn ôl. Ni allaf ddweud a wnaeth ef ewyllys arall ai peidio."
"Ac os gwnaeth un arall pur debyg na byddai'n hollol gyfreithiol?"
"Pur debyg. Peth anodd yw gwneud ewyllys na ellir ei thorri rywfodd neu'i gilydd. Ond, cofiwch hyn: yr oedd Joseff Dafis yn ŵr gofalus a gochelgar iawn."
"Er hynny, gallasai'r camgymeriad lleiaf roddi eu cyfle i'r Morusiaid ddwyn y mater i'r llys?"
"Gallasai. Gŵyr pawb bod y Morusiaid am gadw'r ffortiwn, doed a ddelo. Y mae ganddynt arian, chwi wyddoch. Dëellaf fod y perthynasau eraill wedi rhoi eu hawl i mewn, ond nid oes prawf fod ewyllys arall yn bod, ac heb arian ni allant obeithio ymladd yn erbyn y Morusiaid."
Yn ystod yr ymddiddan cadwodd Nansi yn berffaith ddistaw, ond ni chollodd yr un sill. Cynhyrfid hi drwyddi gan sylwadau Mr. Walters, ond yr oedd yn ofalus iawn i gadw ei theimladau iddi ei hun, a gwrandawai ar yr oll gan ymddangos yn hollol ddifater.
Ymhen ysbaid galwodd Mr. Puw am y bil, a thalodd ef. Ymwahanodd y cwmni bychan wrth ddrws y gwesty.
"Wel, Nansi, gefaist ti'r hyn oeddit eisiau?" gofynnai ei thad yn gellweirus, wedi i Mr. Walters eu gadael.
"O, nhad," atebai Nansi'n gynhyrfus, "yn union fel y tybiwn, fe wnaeth Joseff Dafis ewyllys arall."
"Peidiwch bod yn rhy sicr," cynghorai ei thad. "Efallai na wnaeth yr hen ŵr ewyllys arall o gwbl, neu, os gwnaeth un, fe'i dinistriodd."
"Eitha posibl, wrth gwrs, ond nid oedd yn hoffi'r Morusiaid, a'm teimlad i yw iddo guddio'r ewyllys yn rhywle. O, na fedrem ddod o hyd iddi!"
"Buasai mor hawdd a chael hyd i nodwydd mewn tas wair," atebai Mr. Puw. "Pe bawn i chwi, Nansi, ni fuaswn yn pendroni ynghylch y peth."
"Ni allaf beidio â phendroni heb sicrwydd im i fy hun nad oes ewyllys arall ar gael," atebai Nansi'n ystyfnig. "Rhowch ychydig amser i mi a mi a'ch synnaf i gyd."
Ond yn y 'bus, wrth fynd adref, ni theimlai mor sicr ohoni ei hun. Deuai amheuon i'w meddwl. Gwelai anhawsterau'r dasg oedd o'i blaen. Yr oedd yn benderfynol canfod ewyllys Joseff Dafis, ond nid oedd ganddi yr un syniad yn y byd mawr sut i ddechrau ar y gwaith.
"Ceffyl da yw 'wyllys," meddai Nansi wrthi ei hun drachefn a thrachefn. "Mae'r hen ddihareb yn hollol wir. Os gwnaeth yr hen Joseff ewyllys arall, ac os ydyw ar gael yn rhywle af ar ei thrywydd. Ac os caf hyd iddi gobeithiaf nad yn ffafr y Morusiaid y bydd."