Nansi'r Dditectif/Mewn Storm
← Wyneb yn Wyneb | Nansi'r Dditectif gan Owain Llew Rowlands |
Stori Ddiddorol → |
PENNOD III
MEWN STORM
NANSI, os nad ydych yn brysur, fuasech chwi'n mynd ar neges i mi?" gofynnai Edward Puw un bore wrth y bwrdd brecwast.
"Ar unwaith, nhad," atebai Nansi. "Beth yw y neges?"
"Mae gennyf bapurau pwysig i'w hanfon i Mr. John Stephens, Penyberem, cyn hanner dydd. Buaswn yn mynd yno fy hunan, ond mae gennyf lawer iawn o waith o'm blaen heddiw.'
"Byddaf yn falch o'r cyfle, nhad. Ni fyddaf fawr o dro yn mynd hefo'r 'bus. Gallaf gerdded adref oddi yno; nid yw ond pedair milltir."
"Bydd yn gaffaeliad mawr i mi, Nansi, ac fe arbed lawer o'r amser prysur sydd o'm blaen."
Yr oedd yr eneth beunydd yn barod i roi hynny o gynorthwy a fedrai i'w thad, ac yr oedd yn awyddus iawn i gario allan ei orchmynion yn llwyr.
Edrychodd Mr. Puw allan drwy'r ffenestr. "Y mae'n ddiwrnod braf iawn, ond mae'r cymylau acw yn bygwth glaw cyn nos."
Byddai'n well i mi, felly, gychwyn, cyn gynted ag y gallaf. P'le mae'r papurau?"
"Yn y swyddfa. Awn i lawr gyda'n gilydd."
Ar y ffordd i lawr i'r swyddfa gofynnodd ei thad i Nansi, "Chlywais i mohonot yn sôn am fusnes Joseff Dafis yn ddiweddar yma. Wyt ti wedi anghofio amdano bellach?"
"Na, nid yw'r mater wedi mynd o'm cof, ond ychydig iawn o gynnydd a wneuthum hyd yma; ofnaf mai ditectif go wael ydwyf."
"Paid digaloni, Nansi; nid yw mor hawdd ag y tybiem.' "Nid wyf am ildio, nhad. Efallai y dof ar draws rhywbeth un o'r dyddiau nesaf yma."
Wedi iddynt gyrraedd y swyddfa rhoddodd ei thad amlen seiliedig hir yn ei llaw: "Rhowch hwn i Mr. Stephens; gwyddoch lle i'w gael."
Ni bu Nansi'n hir cyn cael 'bus. Wrth deithio yn y modur esmwyth mwynhai'r olygfa brydferth. Dolydd gwyrddion a choedydd deiliog, caeau yn llawn grawn yn dechrau aeddfedu. Tywynnai'r haul a disgleiriai'n danbaid ar y ffordd, ond draw, ar y gorwel, casglai cymylau duon, bygythiol. Er hynny credai Nansi fod glaw yn annhebyg am ysbaid.
Yr oedd wedi un ar ddeg o'r gloch pan gyrhaeddodd Nansi Benyberem. Yr oedd ychydig o waith cerdded o'r 'bus, i swyddfa Mr. Stephens. Cafodd Nansi ef i mewn a rhoddodd iddo yr amlen oddi wrth ei thad.
"Diolch yn fawr i chwi, Nansi," meddai Mr. Stephens, "ac yn awr gaf fi wahôdd merch fy hen gyfaill i ginio gyda mi. Byddaf yn barod ymhen ychydig funudau."
Gan nad oedd dim neilltuol yn galw amdani, derbyniodd Nansi'r gwahoddiad ar unwaith.
Ar ôl cinio mynegodd Nansi ei bwriad i gerdded adref ar hyd yr hen ffordd o Benyberem i Drefaes. "Cymer fwy amser nag ar hyd y ffordd newydd, ond gobeithio y deil y glaw i ffwrdd," meddai.
"Wna hi ddim glawio heddiw," ebe Mr. Stephens, yn obeithiol, "fe gilia'r cwmwl du acw yn y man."
Hen ffordd adeiladwyd gan y Rhufeiniaid oedd hon, yn dirwyn drwy'r bryniau. Rhedai drwy goed tewfrig allan o Benyberem, ac yn fuan äi ar dro tua'r mynydd. Synnai Nansi mor dywyll ydoedd wedi gadael y coed. Nid oedd olwg o dŷ yn unman, a gwyddai Nansi'n dda nad oedd yr un o fewn tri chwarter milltir. Cyflymodd ei cherddediad wrth weld yr awyr mor ddu. Yr oedd rhyw reddf yn dweud wrthi fod storm gerllaw. Yr oedd yr awyrgylch mor drymaidd, a phopeth mor ddistaw. Yn sydyn, dyna fflach mellten, a tharan fygythiol wrth ei sawdl.
"Yn awr amdani," meddai Nansi, gan syllu'n syth o'i blaen drwy'r gwyll. "Mae'r storm yn bur agos."
Gwelai'r colofnau glaw yn cyflymu tuag ati. Daeth i dro sydyn yn y ffordd, a gwelai adeilad draw. Dechreuodd redeg am ei hoedl, a thorrodd y glaw yn genlli'. Llwyddodd i gyrraedd at yr adeilad. Gwelodd ddrws agored, ac i mewn a hi â'i gwynt yn ei dwrn. Safodd wrth gil y drws â'i chalon yn curo.
"I'r dim," meddai llais mwyn o'i hôl.
Nid oedd Nansi wedi sylweddoli y gallasai neb arall fod yn y lle, a throdd mewn braw. Gwelai eneth tua'r un oedran â'i hunan. Fel y siaradai'r eneth boddwyd ei geiriau gan sŵn byddarol taran arall, a griddfannodd y gwynt drwy ddrysau'r ysgubor.
"O," meddai Nansi'n bryderus, "maddeuwch i mi am ruthro i mewn fel hyn.
"Can croeso," ebe'r llais mwyn drachefn, "nid oes gennym fawr fwy na chysgod i gynnig i chwi."
Nid oedd yn hawdd gweled dim yn eglur yn yr ysgubor, ond syllodd Nansi ar y siaradwr. Yr oedd y llais yn llawn o sŵn diwylliant, ond sylwai fod dillad yr eneth yn ddigon cyffredin. Yr oedd yn naturiol i Nansi ddisgwyl gweled merch ffermwr cyffredin, ond rhywfodd nid oedd yr eneth hon yn ffitio'r darlun.
"Mae'n edrych yn debyg fel pe baem am storm iawn y tro hwn," meddai'r eneth â gwên dirion ar ei hwyneb, 'ofnaf bydd raid i chwi aros yma am ysbaid."
"Nid yw hynny wahaniaeth o gwbl," ebe Nansi, "os caf ymochel rhag y glaw. A ydyw rhyw wahaniaeth i mi aros hyd nes y cilia'r ystorm?"
"Dim o gwbl," ebe'r eneth ar unwaith. "Chredech chwi ddim mor falch ydym o gael ymwelwyr. Anaml iawn y caiff Besi a minnau y fraint o siarad â genethod cyffelyb i ni ein hunain. A wythnos heibio weithiau heb i ni weld neb ond y llythyrgludydd."
Anghofiodd Nansi yr ystorm. Cododd geiriau'r eneth ei hawch am rywbeth â sawyr dirgelwch arno. Ar unwaith deffrôdd ei diddordeb yn yr eneth â'r llais mwyn, a dyfalai y rheswm am ei hunigrwydd.
"Diolch yn fawr i chwi am eich caredigrwydd," ebe Nansi, gyda gwên gyfeillgar, "efallai, wedi'r cwbl, bod y storm wedi gwneud cymwynas â ni'n dwy, drwy ddod â ni at ein gilydd fel hyn."
Prin y breuddwydiai Nansi mor wir oedd ei geiriau.