Naw Mis yn Nghymru/Dau Gymeriad Cenedlaethol
← Ymdrechu am Swyddi | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
Parlwr Rose Cottage → |
PENOD XXIV.
Dau Gymeriad Cenedlaethol
Y Parchn. William Rees, D. D. (Gwilym Hiraethog), a Roger Edwards, y Wyddgrug, yn ddiau oeddynt ddau wron cenedlaethol nodedig. Tra yr oedd y ddau yn mhlith gweinidogion blaenaf eu henwad, rhestrent hefyd yn mhlith cymeriadau dysgleiriaf y genedl. Y mae y ddau, er wedi marw, yn llefaru eto. Oblegid y safle oedd ac y sydd iddynt yn mhlith enwogion eu gwlad, ac oblegid fy edmygedd personol, yn neillduol o'r blaenaf, y defnyddiaf y cyfleustra hwn i'w portreadu, trwy eu darluniau a thrwy nodion byrion adgoffaol.
Ganwyd Dr. Rees, Tachwedd, 18, 1802, mewn amaethdy o'r enw Chwibren Isaf, yn mhlwyf Llansannan, Sir Ddinbych. Bu farw Tachwedd 8, 1883, yn Nghaerlleon. Mab ydoedd i Dafydd Rees, o'r lle hwnw; ac enw morwynol ei fam ydoedd Ann Williams, o Gefnfforest. Ei daid ydoedd Henry Rees, gwr genedigol o Llandeilo Fawr, Sir Gaerfyrddin; daeth i Lansannan ar y cyntaf fel exciseman, a phriododd yno Miss Gwen Llwyd, merch ac etifeddes Chwibren Isaf. Yr oedd y Llwydiaid hyn yn deulu henafol a pharchus yn y wlad, ac yn disgyn mewn llinach unionsyth o Hedd Molwyn- og, pen un o bymtheg llwyth Gwynedd, yr hwn a gyfaneddai yn Henllys, Llanfairtalhaiarn. Cafodd Ymneillduaeth
Y PARCH. WILLIAM REES, D. D (Gwilym Hiraethog)
afael yn y teulu hwn yn gynar. Dyn difrifol dwysfyfyrgar a chrefyddol oedd Dafydd Rees (y tad), ac un o'r gweddiwyr hynotaf yn yr holl ardaloedd.
Dywedai ei gymydogion fod cystal ganddynt glywed Dafydd Rees yn gweddio a chlywed John Elias yn pregethu. Yr oedd Anne Rees, ei wraig, hefyd, yn ddynes llygad-graff, ddarbodus a synwyrol. O tan aden y rhieni hyn, mewn cwm anghysbell, yn nghanol golygfeydd gwledig amaethyddol, wrth odreu gogleddol mynydd Hiraethog, yn ngolwg dyffryn swynol Aled y magwyd y tywysog hwn yn mhlith enwogion ei genedl.
Mae genyf amryw adgofion o hono ef yn pregethu ac yn darlithio mewn gwahanol fanau yn ystod ugain mlynedd neu ychwaneg. Y tro cyntaf i mi wrando arno yn pregethu ydoedd yn nghapel Mr. Ambrose, Porthmadog. Y pryd hwnw pregethai ar y testyn, "Dywedwch wrth y cyfiawn mai da fydd iddo." Chwiliai am y cyfiawn, ond methai ddyfod o hyd iddo. Aethai i'r deml, ond yr hunan-gyfiawn oedd yno. Gwnai amryw gynygion i gael allan gyfiawn y testyn, ond yn aflwyddianus. O'r diwedd cawsai afael arno yn Dafydd yn cael ei eneinio yn frenin ar Israel. Wedi i Samuel, ar ei ymweliad a thy Jesse, wneyd adolygiad ar bob un o'r meibion, y rhai oeddynt yn saith mewn rhifedi, efe a ddywedodd wrth Jesse, "Ai dyma dy holl blant ?" Yntau a ddywedodd, "Yr ieuengaf sydd eto yn ol, wele y mae efe yn bugeilio. Nid ydych am ei weled ef, mae'n debyg." "O na, byddai yn well i mi gael golwg arno," ebe y prophwyd. Yna erchid i'r forwyn fyned i alw arno. Hithau, yn ufudd i'r gorchymyn, a redai i ben bryn bychan gerllaw, ac a wnelai udgorn o'i dwylaw, ac a lefai yn egniol, gan ddyweyd, "Dio, Dio, tyr'd i'r ty yn y mynyd, mae yma ryw ddyn dyeithr eisio dy weled di." Yntau a ddeuai, ac a chwn defaid mawrion yn ei ganlyn, ei wyneb yn llwchiog ac yn chwyslyd, a'i wallt yn annhrefnus. Y gwr dyeithr, prophwyd Duw, a nesai yn mlaen ato yn sylwgar, gan ddodi ei law ar ei dalcen, ac a edrychai i'w wyneb, gan ddyweyd, "Dyma y gwr a ddewisodd yr Arglwydd." "Nid edrych Duw fel yr edrych dyn. Dyn a edrych ar y golygiad, ond yr Arglwydd ar y galon." "Dywedwch wrth y cyfiawn mai da fydd iddo;" da mewn amser, da yn angeu, da yn y farn, da i dragwyddoldeb.
Yn canlyn rhoddaf amlinelliad o bregeth y gwrandewais ef yn ei thraddodi yn nghapel Caledfryn. Cymerodd yn destyn Salm 73: 28—"Minau, nesau at Dduw sydd dda i mi." Pwy a ddengys i ni ddaioni? Da yw, a theg, i ddyn fwyta ac yfed, a chymeryd byd da o'i holl lafur, a lafuria dan yr haul holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo. Dyna beth da. Wel ie, y mae yn beth da, ac yn dda penaf yr anifail, oblegid ar ol iddo gael digon i fwyta a digon i yfed, y mae ef wedi cael ei ddiwallu. Cnoa yr anifail glân ei gil yn ymfoddlongar pan y byddo wedi cael digon i fwyta a digon i yfed. Bydd prif angenrheidiau ei fodolaeth wedi eu cyflenwi. Ond ar ol i ddyn gael digon i fwyta a digon i yfed, y mae ynddo ef rywbeth a frefa ac a rua am rywbeth uwch a gwell. Da yw i ddyn fyw yn onest ac yn garedig tuag at ei gyd-ddyn. Wel, y mae hwn yn well da na'r llall, ac yn nes i fod yn dda penaf i ddyn; ac eto, nid yw hwn, er ei ragoriaeth, yn meddu y gwerth dyladwy i fod yn dda penaf dyn. "A minau, nesau at Dduw sydd dda i mi." Wel dyma rywbeth teilwng o ddyn. Ar adeg cyfansoddiad y Salm hon, yr ydoedd. yr awdwr yn isel ei feddwl. Gwelai ddynion annuwiol yn llwyddianus yn y byd, a gwelai ddynion duwiol yn aflwyddianus. Methai weled pa fodd yr oedd crefydd yn talu ei ffordd os felly oedd y canlyniadau. Modd bynag, un diwrnod ymlusgodd y Salmydd i'r cysegr; a dyna lle yr ydoedd yn ddigalon a phruddaidd, a'i ben yn pwyso ar ymyl y sêt. Elai yr offeiriaid yn mlaen a'r gwasanaeth, a gwrandawai yntau, ac yn y man gwelid ei lygaid yn ymloewi heibio ymyl y sêt, ac ymsythai ar ei eisteddle, a dywedai ynddo ei hun, "Y mae ynddi hi rywbeth, er hyny." Daethai yno i olwg byd arall, ac yn y cysegr fe welai megys oddiar ben bryn uchel, gyfandir mawr tragwyddoldeb, ac y byddai i Dduw yno ymddwyn tuag at bawb yn ol eu gweithredoedd. A dyna a sibrydai wrtho ei hun wrth fyned adref, "A minau, nesau at Dduw sydd dda i mi." 1. Mae nesau at Dduw yn waith anhawdd iawn. Mae profiad y gweddiwr yn dwyn tystiolaeth o hyny. Pan y ceisia efe draethu ei neges ger bron Duw, y mae y meddwl yn dianc oddiarno ei hunan, 'ac, o dan angenrheidrwydd i redeg ar ol ei hunan i gael ei hunan yn ol drachefn at Dduw. mae fod y meddwl felly mor wibiog ac afreolus, yn gwneyd nesau at Dduw yn waith tra anhawdd. Heblaw hyn, y mae fod gwrthddrych mawr gweddi yn anweledig, yn ychwanegu at yr anhawsder hwn. Yr ydym, yn ymddangosiadol, mor ddibynol ar y gweledig, ac yn byw yn ei bresenoldeb yn wastadol, ac yn ymdrafod cymaint ag ef, fel y mae yn anhawdd cael gan y meddwl i fyned oddiwrth y gweledig at yr anweledig. Y mae nesau at Dduw yn waith tra anhawdd. 2. Y mae agoshau at Dduw, er hyny, yn bosibl. Wrth wneyd y rheilffordd gyntaf o Lerpwl i Manchester, yr ydoedd, yn un man, ryw wagle mawr yn gwrthod cymeryd ei lenwi, a buwyd yn cario ac yn cario iddo ef, ond y cwbl a lyncid yn fuan o'r golwg. O'r diwedd penderfynwyd cario darn o fynydd iddo, a thrwy gario o hwnw fe'i llanwyd. O dan yr hen oruchwyliaeth yr oedd rhyw wagle mawr rhyngom ni a'r cysegr sancteiddiolaf yn gwrthod cymeryd ei lenwi. Buwyd yn cario iddo trwy oesau meithion aberthau ac offrymau. Nifer o wyn yn myned tua Jerusalem; i ba le yr ydych yn myned? O! yn myned yn aberthau dros bechodau y dyn yna. Yr oedd angen ysbrydol a moesol y dyn y fath fel ag yr oedd bron a thynu bywyd y Duwdod iddo ei hunan. Yn ngwyneb diffyg y cyfan i lenwi y gwagle, wele Iesu, ei hunan mawr, yn myned i'r gwagle, ac fe'i llanwodd yn gyflawn, ac yn awr mae ffordd newydd a bywjol wedi ei chysegru trwy y llen, sef cnawd ei anwyl Fab. Mae nesau at Dduw yn bosibl. Daeth Iesu unwaith oddiwrth yr anweledig i'r gweledig, ac a "drigodd yn ein plith ni," ac aeth yn ol drachefn at yr anweledig, er gallu denu myfyr dyn gydag ef yn ol at yr anweledig; a'r dysgyblion "oeddynt yn edrych yn ddyfal tua'r nef." 3. Y mae nesau at Dduw yn waith da iawn. Pan y mae dyn yn sychedig, a'i dafod yn ddu yn ei enau gan syched, rhodder iddo ddyferyn o ddwfr oer, ac O! y mae yn dda !—mae yn dda! Felly yr enaid sychedig am Dduw yn nghanol anialwch y byd hwn, ac yn nghanol gau-ffynonau, y mae agoshau at Dduw yn dda iawn iddo.
Ystyrir Gwilym Hiraethog yn un o'r talentau dysgleiriaf a welodd Cymru erioed. Yr oedd ganddo natur ddynol o'r fath oreu a chyflawnaf. Yn ei gymeriad cyhoeddus ymddangosai fel archoffeiriad mawr, yn meddu cymwysderau meddyliol a chymeriadol a'i galluogai i fyned i mewn i gysegr sancteiddiolaf crefydd a natur. Medrai ddarllen cyfrinion calon dyn. Gwyddai i berffeithrwydd pa fodd yr ymddygai dyn mewn gwahanol amgylchiadau. Gwyddai anianawd y greadigaeth israddol, i lawr oddiwrth yr uchelaf ynddi hyd ddrychfilyn distadlaf y llwch. Gwyddai hefyd ddirgeledigaethau y byd ysbrydol. Yr oedd gartref yn yr Hen Destament. Yr oedd enwau personau a lleoedd yn ngwlad yr addewid gynt yn beroriaeth iddo. Nid gormod dweyd fod rhai o brif ragoriaethau yr enwogion, Christmas Evans, John Elias, Williams o'r Wern, wedi cydgyfarfod ynddo. Meddai ddychymyg darfelyddol byw, doniau areithyddol nerthol, a theimladau greddfol nodedig. Bum yn teimlo wrth ei wrando lawer tro, na wrandawswn neb erioed tebyg iddo. Gwelais bregethwr dewisedig yn gwaseiddio, yn wylaidd ger ei fron. Gwelais gynulleidfaoedd mawrion, deallgar, mewn perlewygedd a llesmair ysbrydol wrth ei wrando. ngrym ei ddylanwad ac ysbrydolrwydd ei araethyddiaeth, ymddangosai fel yn gwlawio hyawdledd dwyfol ar y bobl. Yr oedd ei ddrychfeddyliau a'i draddodiad yn argraffu eu hunain ar y meddwl am byth.
Y Parch. Roger Edwards, D. D., ydoedd un o'r gweinidogion hynaf a mwyaf dylanwadol yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd. Bu yn pregethu am yr ysbaid maith o bymtheg a deugain o flynyddau. Ganwyd ef yn y Bala, Ionawr 10, 1811. Bu farw Gorphenaf, 1886. Ychydig o amser cyn ei farwolaeth anrhydeddwyd ef a'r gradd o D. D., gan ymddiriedolwyr Coleg Hamilton, N. Y.
Y PARCH. ROGER EDWARDS, D. D., WYDDGRUG.
Er na chefais gyfleustra i wrando ar Roger Edwards yn pregethu, na chwaith i ffurfio adnabyddiaeth bersonol erioed ag ef, eto fe'm dygwyd yn foreu i barchu ei enw, ac i edrych arno fel dyn ysplenydd, ac o nodau meddyliol a chymeriadol uwchraddol. Bu clywed amryw o brif weinidogion y Bedyddwyr droion yn siarad yn uchel am Roger Edwards, y Wyddgrug, yn foddion mewn rhan, i fy nwyn i goleddu syniadau parchusol ac anwyl am dano.
Er mai yn y Bala y ganwyd y dyn rhagorol hwn, yn Dolgellau y dygwyd ef i fyny, gan i'w rieni symud yno i fyw pan nad oedd efe eto ond tair blwydd oed. Credwyf fod Dolgellau yn lle mwy ffafriol i'w ddadblygiad meddyliol nag a fuasai y Bala, oblegid mae y golygfeydd amgylchynol mor ramantus. Ai tybed na fu cyfeiriad gogleddol Dolgellau yn meddu dylanwad ffafriol arno. I'r dehau mae Cader Idris a mynyddoedd uchel eraill yn cysgodi. I'r gogledd-orllewin o'r lle mae mynyddoedd dyrchafedig Sir Gaernarfon, a golygfeydd dwyreiniol swynol ac aruchel i'w canfod. Y môr, yntau a'i rochfawr ru, a raid fod yn cyffwrdd a'i enaid. Yma, gan hyny, rhaid ei fod yn fyfyriwr mawr ar natur. Ac nid oes un astudiaeth ragorach na natur i eangu efrydwr. Yntau, tra yn meddu cyneddfau a greddfau eneidiol cryfion, a wnaethai, yn ddiau, gynydd dirfawr yn mhlith "clogwyni coleg anian.”
Yr oedd iddo ef le mawr yn ei enwad. Edrychid arno ef fel blaenor. Llenwai amryw swyddau a chylchoedd o bwys. Yr oedd yn ysgrifenwr poblogaidd, fel y dengys chwedl y "Tri Brawd," a ymddangosodd yn y Drysorfa flynyddoedd yn ol. Ac y mae amryw emynau tlws a threfnus o'i waith yn y Salmydd Cymreig (o'i gasgliad ei hun), yn gystal ag yn llyfrau emynau y gwahanol enwadau. Ymddangosodd llawer o erthyglau duwinyddol o'i eiddo, o bryd i bryd, yn dangos gwreiddjoldeb meddwl a gallu ymresymiadol gwych.
Efe a Dr. Edwards, Bala, a gychwynasant y Traethodydd, yn 1845, a bu y ddau yn ei gyd-olygu am ddeng mlynedd, a pharhaodd efe yn mlaen, gyd ag eraill. Felly efe a wasanaethodd ei genedlaeth yn dda fel llenor yn gystal ag fel pregethwr.
Fel eglurhad ar ei ddoniau fel emynwr tlws, rhoddaf yr engreifftiau canlynol o'i waith o'r Llawlyfr Moliant:
TYRED GYDA NI.
Ymdeithio 'r y'm wrth arch ein Tad,
I'r Ganaan nefol fry;
A ddeui dithau i'r un wlad?
O! tyred gyda ni.
Gwlad ydyw hon sy'n llifo'n hael
O laeth a mêl yn lli':
'Does ynddi neb yn glat na gwael—
O! tyred gyda ni.
Cei ar dy daith ymgeledd glau,
O ffrydiau Calfari,
A'th geidw'n llon rhag llwfrhau—
O! tyred gyda ni.
HELAETHIAD TEYRNAS CRIST.
O doed teyrnasoedd byd yn rhwydd
Yn eiddo 'n Harglwydd ni;
Trwy'r ddaear caner heb nacau,
Am angau Calfari.
Gwregysa 'th gleddyf ar dy glun
O gadarn Un! yn awr;
Mewn llwyddiant marchog is y rhod,
Ti wyt i fod yn fawr.
CLOD AM Y GWAED.
Y gwaed, y gwaed a lifodd,
Ar groesbren un prydnawn;
Haeddianau hwnw roddodd
I'r gyfraith daliad llawn:
Y gwaed, y gwaed a olcha
Bechadur du yn wyn;
Dadseinwn Haleliwia
Am waed Calfaria fryn.
Y gwaed, y gwaed a egyr,
Holl ddorau'r nefoedd lon;
Y gwaed, y gwaed rydd gysur
Dan holl gurfeydd y fron:
Ar fryniau anfarwoldeb,
Pan yno sang fy nhraed,
Fy nghan i dragwyddoldeb
Gaiff fod y gwaed, y gwaed!