Naw Mis yn Nghymru/Parlwr Rose Cottage
← Dau Gymeriad Cenedlaethol | Naw Mis yn Nghymru gan Owen Griffith (Giraldus) |
O Dowlais i Gaerdydd → |
PENOD XXV.
Parlwr Rose Cottage.
Mae parlyrau yn dweyd llawer am bobl. Maent yn dweyd am eu chwaeth at y dillyn a'r prydferth, ac am eu hamgylchiadau bydol. Y gwrthddrychau arwyddol ynddynt, fel rheol, fydd darluniau heirdd a dodrefn costfawr. Adnabyddir yn gyffredin oddiwrth olygfa y parlwr beth fydd diwylliaeth a safle dymorol y teulu.
Yn Ionawr, 1886, cartrefais am wythnos yn Rose Cottage, Aberdar, cartref cysurus y Parch. Thomas Price, Ph. D. Y mae parlwr yr annedd-dy hwn yn llefaru pethau gwell am ei breswylydd nag y mae parlyrau yn gyffredin yn ddatgan am eu preswylyddion.
Mae y parlwr neillduol hwn fel amgueddfa llawn o arddangosion coffadwriaethol o barch, a gyflwynwyd o bryd i bryd, i'r Dr. Price gan ei eglwys ei hun, eglwysi amgylchynol, a chan wahanol gymdeithasau a chorphoriaethau, am ei lafur a'i wasanaethgarwch cysylltiedig a hwynt. Y mae muriau y parlwr eang hardd yn orchuddiedig a'r arwyddnodau addurniedig hyn. Wedi'r cwbl, nid y cof-dlysau ydynt y sylweddau, er mor hardded a gwerthfawr. Llefarant am bethau cysylltiedig (lawer o honynt), mewn ffordd o dystebau— symiau mawrion-weithiau o arian, y lleill a gyfeirient at roddion tlysog, a llestri o aur ac o arian. Cyfeiria rhai o'r cofnodau at gyrddau poblogaidd a gadwyd i ddathlu adegau neillduol yn mywyd cyhoeddus y Dr. Y mae rhai yn cyfeirio at ei wasanaeth cysylltiedig a gwelliantau yn nhref Aberdar. Mae y cymdeithasau dyngarol wedi gwlawio arno roddion a thystebau dirif yn mron.
Ac wedi'r cyfan, diau nad yw yr arddangosion hyn ond bychain a diystyr yn gyferbyniol i fawredd y gwaith a'r gwasanaeth a wnaeth efe i'w teilyngu. Y mae ei fywyd ef am ddeugain mlynedd wedi bod yn llawn o weithgarwch ac o ddefnyddioldeb. Ei yni ef fu agerdd pob symudiad o bwys yn Aberdar a'r cyffiniau am feithion gyfnodau. Bu llawer brwydr boeth rhyngddo a'r parsoniaid, ac a gwyr pwysig eraill a feiddient ei wrthwynebu. Ardderchog fyddai ei amddiffyn i'r tlawd a'r gorthrymedig. Cyrhaeddai ei ddylanwad i reolaeth y gweithfeydd haiarn a glo. Byddai y meistriaid yn weision iddo ef yn aml. Ysbryd Dr. Price oedd prif ysbryd y dref a'r cymydogaethau. Pan y byddai anghydfodau mewn byd neu eglwys, ceid ef yn brif dangnefeddwr. A pha mor nerthol bynag y gwrthwynebiadau, dygai ef farn i fuddugoliaeth bron yn ddieithriad. Rhyw Vesuvius tanllyd o ddyn ydoedd; angerdd gwres yr hwn a deimlai pawb, yn mhell ac yn agos.
O'r diwedd effeithiodd y fath fywyd gweithgar ac ymdrechiadol yn fawr arno, yn gorphorol a meddyliol, fel erbyn iddo fod yn driugain oed, cafodd ei hun yn wr methiedig, er mor gryf a bywydus ydoedd, yn mhob ystyr. Mae ei oedran yn awr tua thriugain a saith. Pan oeddwn i yno yr oedd yn parhau fel gweinidog Calfaria, ond wedi hyny y mae llesgedd wedi gafaelyd yn gryfach ynddo.
Ar ddydd Calan, Ionawr 1, 1886, cynaliwyd cyfarfod poblogaidd yn Calfaria, er dathlu y ddeugeinfed flwyddyn o dymor ei weinidogaeth yn y lle.
Cyhoeddasai Dr. Price bamphled yn cynwys hanes yr eglwys, a'i gysylltiad ef a hi yn ystod y tymor maith a nodwyd. Dywedir yn hwn iddo fedyddio 1,596 yn y deugain mlynedd, ac iddo ffurfio 21 o eglwysi o'r fam eglwys yn Calfaria.
Credwyf fod pob eglwys o'r un-ar-hugain a hanodd o'r fam eglwys, yn cael ei chynrychioli yn nghof-arwyddion addurniedig parlwr Rose Cottage. Yn mhlith y rhai hyn mae y Gadlys, Heol-y-felin, Hirwaen, Ynys-lwyd, Cwm-bach, Gwawr, Aberaman; Rhos, Mountain Ash. Bum ar ymweliad a phob un o'r rhai hyn.
Yn Hirwaen, y Parch. E. C. Evans yw y gweinidog. Bu ef ar ymweliad ag America, am wellhad iechyd, ychydig flynyddau yn ol. Y mae efe wedi llafurio yma am flynyddau, gyda derbyniad mawr.
Noson waith y bum yn Heol-y-felin. Rhyfedd mor boblogaidd y mae Mr. Harris, y gweinidog, yn parhau yma. Y mae efe yn dal i edrych yn gryf a heinyf, ac yn pregethu, meddir, yn well nag erioed.
Y Gadlys sydd agosaf i fynwes y fam eglwys. Y gweinidog yma ydyw y Parch. B. Evans. Y mae efe yn tebygoli i Dr. Price mewn gweithgarwch. Mae yr hen frawd parchusol Mr. James, tad y Parch. Iago W. James, yn ddiacon yn yr eglwys hon.
Eglwys Ynys-lwyd sydd a'i theml yn nghwr isaf Aberdar. Bugeilir yma gan y Parch. R. E. Williams, o barabliad croew, gwynebpryd hawddgar, ac o nodau meddyliol a chymeriadol rhagorol.
Treuliais Sabboth yn Cwm-bach. Mae yma gapel eang, a chynulleidfa fawr. Amryw a'm holent yno am berthynasau a ffryndiau yn America.
Tra yr oeddwn yn y gymydogaeth, cynaliodd Cymanfa Ddwyreiniol Morganwg ei chwrdd haner blynyddol, yn Gwawr, Aberaman. Y cwrdd haner blynyddol sydd yn lle y cyrddau chwarterol. Cefais yn y cwrdd hwn fantais i ddod i adnabyddiaeth a llawer o'r gweinidogion, a gwrando ar amryw o honynt yn pregethu. Yr oedd y pregethau yn dda oll, ond yr oedd rhai yn rhagori. Pregethodd y brodyr T. T. Jones, Salem, Caerdydd, a J. R. Jones, Llwynpia, yn dra derbyniol. Un o'r eglwysi mwyaf llewyrchus, os nad y fwyaf felly, yn nghwm Aberdar yn awr, yw eglwys Rhos, Mountain Ash. Cefais oedfa gysurus yno ar nos Lun, a chymdeithas hapus dranoeth â'r gweinidog serchus, y Parch. W. Williams.
Yn unol a gwahoddiad caredig Dr. Price, gwasanaethais Sabboth yn Calfaria.
Yn mhlith dyddorion fy ymweliad ag Aberdar a'r cyffiniau, erys ar fy nghof yn arbenig, gof-arwyddion eglwysi amgylchynol, ac eraill, a geir yn mharlwr y Rose Cottage, fel sel o'u gwerthfawrogiad o lafur a gwasanaeth y Parch. Dr. Price.