Newyddion braf a ddaeth i'n bro
← Duw ymddangosodd yn y cnawd | Newyddion braf a ddaeth i'n bro gan John Dafydd, Caio |
Y mae hapusrwydd pawb o'r byd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
127[1] Newyddion Braf.
M. H.
1 NEWYDDION braf a ddaeth i'n bro,
Hwy haeddent gael eu dwyn ar go'—
Mae'r Iesu wedi cario'r dydd,
Caiff carcharorion fynd yn rhydd.
2 Mae Iesu Grist o'n hochor ni,
Fe gollodd Ef ei waed yn lli;
Trwy rinwedd hwn fe'n dwg yn iach
I'r ochor draw 'mhen gronyn bach.
3 Wel, f'enaid, weithian cod dy ben,
Mae'r ffordd yn rhydd i'r nefoedd wen;
Mae'n holl elynion ni yn awr
Mewn cadwyn gan y Brenin mawr.
John Dafydd, Caio
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 127, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930