Y mae hapusrwydd pawb o'r byd

Newyddion braf a ddaeth i'n bro Y mae hapusrwydd pawb o'r byd

gan William Williams, Pantycelyn

O Iesu mawr, y Meddyg gwell
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

128[1] Angau'r Groes.
M. H.

1 Y MAE hapusrwydd pawb o'r byd
Yn gorffwys yn dy angau drud;
Hyfrytaf waith angylion fry
Yw canu am fynydd Calfari.


2 O holl weithredoedd nef yn un,
Y bennaf oll oedd prynu dyn;
Rhyfeddod mwyaf o bob oes
Yw Iesu'n marw ar y groes.

3 Darfydded canmol neb rhyw un,
Darfydded sôn am haeddiant dyn;
Darfydded ymffrost o bob rhyw—
'D oes ymffrost ond yng ngwaed fy Nuw.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 128, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930