O Iesu mawr, y Meddyg gwell
← Y mae hapusrwydd pawb o'r byd | O Iesu mawr, y Meddyg gwell gan William Williams, Pantycelyn |
O'r holl fendithion gadd y byd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
129[1] Rhinwedd y Groes.
M. H.
1 O IESU mawr, y Meddyg gwell,
Gobaith yr holl ynysoedd pell,
Dysg imi seinio i maes dy glod,
Mai digyfnewid wyt erioed.
2 O! hoelia 'meddwl, ddydd a nos,
Crwydredig, wrth dy nefol groes;
A phlanna f'ysbryd yn y tir
Sy'n llifo o lawenydd pur:
3 Fel bo fy nwydau drwg yn lân
Yn cael eu difa â'r nefol dân;
A chariad yn melysu'r groes,
Trwy olwg ar dy farwol loes.
4 Ti fuost farw, rhyfedd yw!
Er mwyn cael o'th elynion fyw;
Derbyn i'th gôl, a rho ryddhad
I'r sawl a brynaist Ti â'th waed.
5 Fe gaiff dy enw annwyl glod
Pan ddarffo i'r ddaer a'r nefoedd fod,
Am achub un mor wael ei lun
Na allsai'i achub ond dy Hun.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 129, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930