O'r holl fendithion gadd y byd

O Iesu mawr, y Meddyg gwell O'r holl fendithion gadd y byd

gan William Williams, Pantycelyn

Wrth droi fy ngolwg yma i lawr
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

130[1] Yr Iesu yn ei roddi ei Hun.
M. H.

1 O'R holl fendithion gadd y byd,
Wel dyma'r fwyaf un i gyd;
I'm Iesu ei Hun
Dros aflan ddyn roi'i fywyd pur.

2 Wel, f'enaid, bellach dos ymlaen,
Nac ofna ddŵr, nac ofna dân;
Aeth dan y groes,
Ac angau loes, ei Hun o'm blaen.

3 Boed iddo mwy ganiadau clod,
Tra fyddo daer a nef mewn bod;
Ac na foed sôn
Ond am yr Oen a'i farwol glwyf.

4 O! dweded pawb am rin y gwaed,
Maddeuant llawn, maddeuant rhad;
Dim achwyn mwy,
Ond canu am glwy' Calfaria fryn.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 130 Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930