Nid fy nef yw ar y ddaear
← Iesu, Ti yw ffynnon bywyd | Nid fy nef yw ar y ddaear gan William Williams, Pantycelyn |
O! Llefara, addfwyn Iesu → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
204[1] Gras a Dedwyddwch yng Nghrist
87. 87. D.
1 NID fy nef yw ar y ddaear,
Pe gorau man dan gwmpas haul:
Fy nef yw tawel bresenoldeb
Wyneb siriol Adda'r Ail;
Gwena arnaf, Arglwydd grasol,
Gwaeddaf innau, Digon yw;
Yna 'nghanol cyfyngderau
Byth yn llawen byddaf byw.
2 Môr sydd ynot o fendithion.
Heb waelodion iddo'n bod;
Y mae'n llanw 'mlaen bob munud,
Nid oes diwedd ar dy glod;
D'enw beunydd sy'n helaethu-
Beunydd yn ymdaenu i maes;
Bydd telynau'n canu iddo
Fel rhifedi gwellt y maes.
3 Yno boed fy mwyd a'm diod,
Dan ganghennau gwych y pren
Sydd â'i wreiddyn ar y ddaear,
Ei frigau yn y nefoedd wen;
Dyn â'r Duwdod ynddo'n trigo,
Ffrwythau arno'n tyfu'n llawn;
Cysgod dano i'r ffyddloniaid
O foreddydd hyd brynhawn.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 204, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930