O! Llefara, addfwyn Iesu

Nid fy nef yw ar y ddaear O! Llefara, addfwyn Iesu

gan William Williams, Pantycelyn

Golau a nerthol yw ei eiriau
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

205[1] Geiriau'r Iesu
87. 87. D.

1 O! LLEFARA, addfwyn Iesu:
Mae dy eiriau fel y gwin,
Oll yn dwyn i mewn dangnefedd
Ag sydd o anfeidrol rin;
Mae holl leisiau'r greadigaeth,
Holl ddeniadau cnawd a byd,
Wrth dy lais hyfrytaf tawel,
Yn distewi a mynd yn fud.


2 Ni all holl hyfrydwch natur,
A'i melystra penna' i maes,
Fyth gymharu â lleferydd
Hyfryd pur maddeuol ras:
Gad im glywed sŵn dy eiriau,
Awdurdodol eiriau'r nef,
Oddi mewn yn creu hyfrydwch
Nad oes mo'i gyffelyb ef.

3 Dwed dy fod yn eiddo imi,
Mewn llythrennau eglur clir;
Tor amheuaeth sych, digysur,
Tywyll, dyrys, cyn bo hir;
'R wy'n hiraethu am gael clywed
Un o eiriau pur y ne',
Nes bod ofon du a thristwch
Yn tragwyddol golli eu lle.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 205, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930