O! Arglwydd erglyw fy llais i

Clodforaf fi fy Arglwydd Iôn O! Arglwydd erglyw fy llais i

gan Edmwnd Prys

Dy faith drugaredd, O! Dduw byw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

9[1] SALM XXVIII. 2, 6, 7.
M. S.

1 O! ARGLWYDD, erglyw fy llais i,
A derbyn weddi bruddaidd,
Pan godwyf fy nwy law o bell,
Duw, tua'th gafell sanctaidd.

2 Bendigaid fyddo'r Arglwydd nef,
Fe glybu lef fy ngweddi;
Yr Arglwydd yw fy nerth a'm rhan,
A'm tarian, a'm daioni.

3 Mi ymddiriedais iddo am borth,
A chefais gymorth ganddo ;
Minnau, o'm calon, drwy fawr chwant,
A ganaf foliant iddo.

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 9, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930