Dy faith drugaredd, O! Dduw byw
← O! Arglwydd erglyw fy llais i | Dy faith drugaredd, O! Dduw byw gan Edmwnd Prys |
Bendigaid fyth fo'r Arglwydd mau → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
10[1] SALM LXIII. 3, 4, 5, 7.
M. S.
1 DY faith drugaredd, O! Dduw byw,
Llawer gwell yw na'r bywyd ;
Ac â'm gwefusau rhof it fawl,
A cherdd ogonawl hyfryd.
2 Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,
Ac felly y'th folaf eto,
Ac yn dy enw Di, sydd gu,
Y caf ddyrchafu 'nwylo.
3 Digonir f'enaid fel â mêr,
A chyflawn fraster hefyd,
A'm genau a gân dy foliant tau,
 phur wefusau hyfryd.
4 Ac am dy fod yn gymorth ym,
Drwy fawr rym dy drugaredd,
Fy holl orfoledd a gais fod
Dan gysgod dy adanedd.
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 10, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930