Bendigaid fyth fo'r Arglwydd mau

Dy faith drugaredd, O! Dduw byw Bendigaid fyth fo'r Arglwydd mau

gan Edmwnd Prys

Mi ymddiriedais ynot, Ner
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

10[1] SALM LXIII. 3, 4, 5, 7.
M. S.

1 DY faith drugaredd, O! Dduw byw,
Llawer gwell yw na'r bywyd ;
Ac â'm gwefusau rhof it fawl,
A cherdd ogonawl hyfryd.

2 Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,
Ac felly y'th folaf eto,
Ac yn dy enw Di, sydd gu,
Y caf ddyrchafu 'nwylo.

3 Digonir f'enaid fel â mêr,
A chyflawn fraster hefyd,
A'm genau a gân dy foliant tau,
 phur wefusau hyfryd.

4 Ac am dy fod yn gymorth ym,
Drwy fawr rym dy drugaredd,
Fy holl orfoledd a gais fod
Dan gysgod dy adanedd.

Ffynhonnell golygu

  1. Emyn rhif 10, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930