O! Deffro, deffro, gwisg dy nerth

Tyrd, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw O! Deffro, deffro, gwisg dy nerth

gan John Hughes, Pontrobert

O! Arglwydd Dduw, 'r Hwn biau'r gwaith
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


247[1] Deffro, Fraich yr Arglwydd.
M. S.

O! DEFFRO, deffro, gwisg dy nerth,
O! brydferth fraich yr Arglwydd;
Fel yn y dyddiau gynt a fu,
Amlyga d'alluogrwydd.

2 I ennyn ynom nefol dân,
Duw, anfon dy Lân Ysbryd ;
Aed gyda'th eiriau sanctaidd Di
Nerth, a goleuni hefyd.

3 O! Arglwydd, dyro inni'n glau
Y tywalltiadau nerthol
O weithrediadau'r Ysbryd Glân,
A'u grym fel tân angerddol.

John Hughes, Pontrobert



Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 247, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930