Tyrd, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw
← Tyrd, Ysbryd Glân, i'n clonnau ni | Tyrd, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw gan Anhysbys |
O! Deffro, deffro, gwisg dy nerth → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
246[1] Tyrd, Ysbryd Glân
M. S.
1 TYRD, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw,
Yr unrhyw â'r Tad nefol,
Yr unrhyw hefyd â'r Mab Rhad;
Duw cariad tangnefeddol.
2 Llewyrcha i'n clonnau ni â'th ras,
Fel y bo gas in bechu,
Ac inni, mewn sancteiddrwydd rhydd,
Bob dydd dy wasanaethu.
3 Tydi addewaist ddysgu, Iôn,
Dy weision i lefaru,
Fel ym mhob man y caffo'n rhwydd
Yr Arglwydd ei foliannu.
4 O! Ysbryd Glân, i'n clonnau ni,
Y gwir oleuni danfon;
A hefyd sêl, tra fôm ni byw,
I garu Duw yn ffyddlon.
5 Dod fesur mawr o'th ras yn rhwydd,
O! Arglwydd Dduw Goruchaf:
Diddanwch inni felly bydd
Yn y brawd-ddydd diweddaf.
O'r Lladin,
Llyfr Gweddi Gyffredin.
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 246, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930