O! Iesu mawr, pwy ond Tydi

Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau O! Iesu mawr, pwy ond Tydi

gan William Ambrose (Emrys)

Oll fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

217[1] Ar Fythgofiadwy Fryn
888. 6.

O! IESU mawr, pwy ond Tydi
Allasai farw drosom ni,
A'n dwyn o warth i fythol fri?—
Pwy all anghofio hyn?


2 Doed myrdd ar fyrdd o bob rhyw ddawn
I gydfawrhau d'anfeidrol Iawn-
Y gwaith gyflawnaist un prynhawn
Ar fythgofiadwy fryn.

3 Nid yw y greadigaeth faith,
Na'th holl arwyddion gwyrthiol chwaith,
Yn gytbwys â'th achubol waith-
Yn marw i ni gael byw.

4 Rhyfeddod heb heneiddio mwy
Fydd hanes mawr dy farwol glwy';
Ni threiddia tragwyddoldeb trwy
Ddyfnderau cariad Duw.

William Ambrose (Emrys)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 217, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930