Oll fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn
← O! Iesu mawr, pwy ond Tydi | Oll fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn gan Charlotte Elliot wedi'i gyfieithu gan John Morris-Jones |
Ymhlith plant dynion, ni cheir un → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
218[1] Oll fel yr wyf
888. 6.
1 OLL fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn
Ond iti farw er fy mwyn,
A'th fod yn galw arna'i'n fwyn,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.
2 Oll fel yr wyf, dan hyrddiau llu
O frwydrau ac amheuon du,
Ymladdau, ofnau, ar bob tu,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.
3 Oll fel yr wyf, tlawd, dall a gwael,
Iechyd a golwg im i'w cael,
Ac i'm diwallu o'th olud hael,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.
4 Oll fel yr wyf, Ti ni'm nacái—
Croesewi fi, maddeui 'mai;
Gan gredu yn dy air y gwnai,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.
5 Oll fel yr wyf (dy gariad fu'n
Symud y rhwystrau bob yr un)
I fod yn eiddot Ti dy Hun,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.
6 Oll fel yr wyf, tra fwy'n y byd,
Ac yna fry, i brofi " hyd,
Lled, dyfnder, uchder" cariad drud,
'R wy'n dyfod, addfwyn Oen.
- Charlotte Elliot,
cyf. John Morris-Jones.
- Charlotte Elliot,
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 218, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930