Ymhlith plant dynion, ni cheir un

Oll fel yr wyf, heb ddadl i'w dwyn Ymhlith plant dynion, ni cheir un

gan William Williams, Pantycelyn

O! na allwn garu'r Iesu
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

219[1] Cariad Crist.
888. 6. D.

1 YMHLITH plant dynion, ni cheir un
Yn ffyddlon fyth fel Iesu'i Hun,
Nid yw ei gariad, megis dyn,
Yn gŵyro yma a thraw;
Ond rhad anfeidrol yw ei ras,
I bechaduriaid cyndyn cas;
A garodd Ef, fe'u dwg i maes
O'u pechod ac o'u braw.

2 Wel dyma'r cariad sydd yn awr
Yn curo pob cariadau i lawr,
Yn llyncu enwau gwael y llawr
Oll yn ei enw'i hun:
O! fflam angerddol gadarn gref
O dân enynnwyd yn y nef;
Tragwyddol gariad ydyw ef
Wnaeth Dduw a minnau'n un.

William Williams, Pantycelyn


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 219, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930