Ollalluog! nodda ni

O Arglwydd Dduw rhagluniaeth O Arglwydd Dduw rhagluniaeth

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Enaid gwan, paham yr ofni?


72[1] Noddfa a Nerth.

77. 77. D.

OLLALLUOG! nodda ni,
Cymorth hawdd ei gael wyt Ti;
Er i'n beiau dy bellhau,
Agos wyt i drugarhau;

Cadw ni o fewn dy law,
Ac nid ofnwn ddim a ddaw :
Nid oes nodded fel yr Iôr,
Gorfoledded tir a môr!

2.Hollalluog! nodda ni,
Trech na gwaethaf dyn wyt Ti ;
Oni fuost inni'n blaid
Ym mhob oes ac ym mhob rhaid?
Cofia'r tywys arnom fu,
Cofia'r enw arnom sy :
Nid oes nodded fel yr Iôr,
Gorfoledded tir a môr !

3.Hollalluog! nodda ni,
Nerth ein bywyd ydwyt Ti;
Cadw gymod yn ein tir,
Cadw gariad at y gwir;
Cadarn fo dy law o'n tu,
Cryfach na banerog lu :
Nid oes nodded fel yr Iôr,
Gorfoledded tir a môr !
—Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 72, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930