O Arglwydd Dduw rhagluniaeth

Pa dduw ymhlith y duwiau O Arglwydd Dduw rhagluniaeth

gan Ann Griffiths

Ollalluog! nodda ni


71[1] Duw Rhagluniaeth.

76. 76. D.

1 O! ARGLWYDD Dduw rhagluniaeth,
Ac iechydwriaeth dyn,
Tydi sy'n llywodraethu
Y byd a'r nef dy Hun;
Yn wyneb pob caledi
Y sydd neu eto ddaw,
Dod gadarn gymorth imi
I lechu yn dy law.

2 Er cryfed ydyw'r gwyntoedd
A chedyrn donnau'r môr,
Doethineb ydyw'r Llywydd,
A'i enw'n gadarn Iôr ;
Er gwaethaf dilyw pechod
A llygredd o bob rhyw,
Dihangol byth heb soddi,
Am fod yr arch yn Dduw.

P1 Anadnabyddus
P2 Ann Griffiths (1776-1805)

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 71, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930