Pa dduw ymhlith y duwiau
← Fy Nuw, uwch law fy neall | Pa dduw ymhlith y duwiau gan David Saunders |
O Arglwydd Dduw rhagluniaeth → |
70[1] Duw yn hoffi Trugarhau.
76. 76. D.
1 PA dduw ymhlith y duwiau
Sydd debyg i'n Duw ni?
Mae'n hoffi maddau'n beiau,
Mae'n hoffi gwrando'n cri;
Nid byth y deil eiddigedd,
Gwell ganddo drugarhau;
Er maint ein hannheilyngdod,
Mae'i gariad E'n parhau.
Y Parch David Saunders, Merthyr
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 70, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930