Oriau Gydag Enwogion/John Bunyan

Thomas Carlyle Oriau Gydag Enwogion

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Y Tadau Pererinol

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
John Bunyan
ar Wicipedia





JOHN BUNYAN.

"A mi yn tramwy trwy anialwch y byd hwn,
daethum i fan yr oedd ffau ynddo; ac ynddo y
gorweddais, a phan y cysgais y breuddwydiais
freuddwyd."

DYNA eiriau cyntaf y breuddwyd rhyfedd sydd, bellach, yn fydadnabyddus, breuddwyd sydd wedi defnynnu cysur a dyddanwch i filoedd,breuddwyd a gyfrifir fel darn o lenyddiaeth ym mysg y ceinion,―breuddwyd John Bunyan.

Y mae breuddwydio, ynddo ei hun, yn beth eithaf cyffredin. Y mae pawb ohonom yn treulio llawer awr ym mro breuddwydion. Yn yr adegau hyny byddwn yn rhodio'n rhydd yng ngwlad hud a lledrith; weithiau yn mwynhau gwynfyd pur, a phryd arall yng nghanol golygfeydd brawychus ac anaearol. Ond, fel rheol, nid ydyw breuddwydion namyn cysgodau disylwedd a diflanedig. Erbyn deffro bydd y weledigaeth wedi ffoi, ac y mae hanes dynion, ym mhob oes, yn bur debyg i'r eiddo brenhin Babilon gynt,—wedi anghofio y breuddwyd a'i ddehongliad.

Ond y mae ambell freuddwyd yn aros, ac yn dod, mewn rhyw wedd neu gilydd, yn un o ddinasyddion y byd hwn. Cafodd gair ei ddweud yn lled gynnar yn hanes y byd, am un o gymeriadau prydferthaf yr Hen Destament, "Wele y breuddwydiwr yn dyfod." Cafodd ei lefaru mewn gwawd, ond yr oedd ynddo elfen o wirionedd, gwirionedd cudd ar y pryd. Yr hyn a brofai hyny ydoedd y ffaith syml, fod y breuddwydion oll wedi dod i ben. Dyna hanes pob drychfeddwl, pob athrylith, pob arweinydd newydd. Dedfryd gyntaf ei oes am dano ydyw yr eiddo brodyr Joseph,—" Wele y breuddwydiwr." Ac ond odid na theflir ef i'r pydew, ac y gwerthir ef i'r Ismaeliaid. Ond nis gall pydew camwri na charchar atal ei hynt. Fe ddaw cyn bo hir yn llywydd y wlad, a gwelir ei frodyr diffydd yn ymgrymu, fel ysgubau, ger ei fron.

Fel yna yn hollol y bu gyda Breuddwyd Bunyan. Ar y cyntaf, tybid nad oedd yn ddim amgen na chynyrch meddwl amrwd, gwyllt, ac aniwylliedig. Nid oedd yr awdwr wedi cael manteision dysg. Ni fu yn aelod o unrhyw Brifysgol yn y deyrnas. Nid ydoedd ond eurych o ran ei grefft, a Phiwritan o ran ei olygiadau crefyddol. Pa fodd y medr hwn ddysgeidiaeth? Gallai y Breuddwyd daro chwaeth y werin, ond prin y gellid disgwyl iddo gael ei ddarllen a'i fawrygu gan y penaethiaid llenyddol. Ond erbyn heddyw dyna ydyw ei safle gydnabyddedig. Y mae'r prif feirniaid, o ddyddiau Dr. Johnson i ddyddiau Macaulay, Carlyle, a Froude, wedi cyduno i osod y gwaith a ysgrifenwyd mewn cell fechan yng ngharchar Bedford, yn gyfochrog o ran athrylith greadigol â Choll Gwynfa Milton, ac yn rhestru ei awdwr yn un o feddylwyr disgleiriaf, ffrwythlonaf, yr eilfed-ganrif-ar-bymtheg.

Canrif ryfedd, eithriadol oedd honno; canrif ydoedd yn rhoddi bôd i hanes, ac nid yn byw ar adgofion y gorffennol. Gwelwyd ynddi amseroedd blinion, chwyldroadol; teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun. Clywid sŵn brwydrau a chelanedd, a chafodd llawer maes a dôl eu troi yn faes y gwaed. Ond yn y blynyddau enbyd a chyffrous hyny y rhoddwyd i lawr sylfeini rhyddid gwladol a chrefyddol. Dyna'r pryd yr hauwyd hâd gwerthfawr sydd yn dal i dyfu hyd y dydd hwn. Ac mewn amseroedd o'r fath,—amseroedd enbyd y blynyddau chwyldroadol,—y cynhyrchir ac y meithrinir cymeriadau cryfion, a dynion mawr. Plant haf-ddydd ydyw y blodau a'r helyg, plentyn yr ystorm ydyw y dderwen. Ac yr oedd yr ail ganrif-ar-bymtheg, mewn ystyr arbenig, yn ganrif y derw. Yr oedd cewri ar y ddaear. Ond o fysg y goedwig oll,—coedwig y derw preiffion a thalgryf, dichon mai y tri brenhinbren mwyaf adnabyddus erbyn heddyw ydyw Oliver Cromwell, John Milton, a John Bunyan. Gwasanaethodd un ei oes fel milwr, cadlywydd, a rheolwr gwladol. Daeth y ddau arall yn enwog fel awdwyr,—y naill fel bardd,—bardd Paradwys; a'r llall fel creawdwr y Breuddwyd anfarwol,—" Taith y Pererin."

Ganwyd John Bunyan yn y flwyddyn 1628, 275 o flynyddau yn ol,—mewn annedd ddiaddurn ym mhentref Elstow, ar bwys Bedford. Eurych oedd ei dad, a chafodd yntau ei ddwyn i fyny gyda'r un grefft. Treuliodd foreuddydd ei oes yn eithaf difeddwl ac anystyriol. Yr oedd ystor o nwyf ac ynni yn ei natur, a'i ddewisbethau oedd chwareuon poblogaidd y dydd. "Lle y bydd camp bydd rhemp," ebai dihareb. Lle y byddo meddwl byw, llawn o wefr a dyfais, rhaid iddo gael rhoddi vent i'w adnoddau cyforiog ei hun. Dyna hanes Bunyan yn nyddiau maboed. Yr oedd yn arwr y chwareufa, yn flaenaf ym mhob afiaeth, a'i hoff orchwyl ar y Sabboth oedd ymuno â'i gyfoedion yn y gorchwyl swnfawr o ganu clych y llan.

Pan yn bur ieuanc, efe a ymunodd â'r fyddin. Yr oedd y rhyfel cartrefol, y rhyfel gwaedlyd hwnnw rhwng y brenin a'r senedd, yn ei anterth ar y pryd. Bu llawer o ddadleu yn mysg yr haneswyr ar ba ochr yr oedd Bunyan. Ond y mae lle cryf i dybied mai golygiad Macaulay sydd yn iawn; fod Bunyan wedi bwrw ei goelbren gyda byddin Cromwell, ac y mae yn dra phosibl mai o fysg y milwyr glewion hyny,—yr Ironsides, y cafodd efe yr anelwig ddefnydd i rai o'r cymeriadau sydd wedi eu cyd-blethu yn ei "Freuddwyd."

Y mae un ffaith, fodd bynnag, yn cael ei chrybwyll ganddo ef ei hun am yr adeg hon yn ei fywyd. Yr oeddynt yn gwarchae tref Leicester. Un noson, yr oedd efe i fod yn un o'r gwyliedyddion, ond am ryw reswm, dymunodd cyfaill iddo gyfnewid âg ef, ac felly y bu. Ym mhen ychydig oriau wedi hyny cafodd ei gynrychiolydd ei saethu yn farwol yn ei ben. Pe digwyddasai Bunyan fod ar y wylfa y noswaith honno, buasai y byd heb "Daith y Pererin," ac ni fuasid yn gwybod dim am ei enw. Ond yr oedd Bunyan yn "llestr etholedig" gan Ragluniaeth, ac yr oedd ei ben ef i wasanaethu pwrpas amgenach na bod yn nôd i fwledi y gelyn.

Peth arall a wnaeth pan yn dra ieuanc ydoedd priodi. Nid oedd ganddo nemawr ddim at "ddechreu byw," ac unig gynysgaeth ei briod ydoedd dau lyfr o waith y Piwritaniaid. Ond yr oedd Bunyan yn ŵr ieuanc diwyd, gonest, a medrus gyda'i orchwyl beunyddiol. Er yn ddieithr hyd yma i ddylanwadau crefyddol, nid oedd yn afradloni ei amser a'i dda yn y gyfeddach, ac yr oedd ei dymher fywiog, serchog, yn ei wneyd yn boblogaidd ym mysg ei gym'dogion. Bu y ferch ieuanc a briododd yn gynorthwy gwerthfawr iddo ym mhob ystyr. Drwy ei hofferynoliaeth hi y dysgodd efe ddarllen ac ysgrifennu, a daeth i fynychu y gwasanaeth crefyddol ar y Sabboth. Ond er yn ddyn arall, nid oedd yn ddyn newydd. Glynai wrth arferion bore oes, ond nid gyda'r un blas. Yr oedd cydwybod wedi deffro o'i fewn, a dychrynfeydd barn a byd arall yn ymruthro ger ei fron, nes ei yrru ar adegau i ymylon gwallgofrwydd. Profodd ingoedd argyhoeddiad yn ei enaid. Gwelwyd yntau, fel y Pererin a ddarlunir ganddo, yn ceisio ffoi o Ddinas Distryw. Gwyddai am Gors Anobaith, a bu yn rhodio Glyn Cysgod Angau. Dyna sydd yn gwneyd y Breuddwyd yn llyfr mor werthfawr i bererinion pob oes a gwlad. Y mae yn ddelweddiad byw, ffyddlawn o brofiad ei awdwr. Daeth allan, fel yntau, o'r cystudd mawr. Ond yn araf, yn raddol, torrodd y wawr ar ei feddwl, a throes cysgod angau yn foreu ddydd.

Ymunodd â'r eglwys fechan Ymneillduol yn Bedford, a chyn hir cafodd ei alw ganddi i bregethu yr Efengyl. A phrofodd ei weinidogaeth ymroddedig ei fod wedi ei alw gan yr "Hwn sydd yn ben uwchlaw pob peth i' eglwys;" ei fod yntau, megis Saul o Tarsus, yn apostol nid o ddynion, na thrwy ddynion, ond trwy ewyllys Iesu Grist." A pha beth bynnag oedd ei fedr i drwsio crochanau, ac i ymgeleddu llestri alcan, yr oedd ganddo allu diamheuol i drin llestri y cysegr, ac i ddarparu i'r Arglwydd bobl barod, i fod yn llestri aur ei deml Ef.

Ond yng nghanol ei ddefnyddioldeb fel pregethwr, cafodd ei lafur gwerthfawr ei atal, a bu yntau am flynyddoedd yn gennad mewn cadwyn. Yr oedd hyny yn ystod teyrnasiad Siarl yr Ail. Yr oedd hen ddeddfau gorthrwm wedi eu hadgyfodi. Un ohonynt oedd Deddf y Tŷ Cwrdd, deddf yn gwahardd cyd-gynulliad o Ymneillduwyr. Cauid eu haddoldai, a gorfodid y gweinidogion a'u cynulleidfaoedd i gyfarfod yn ddirgelaidd mewn coedwigoedd a thai annedd neillduedig ar hyd y wlad. Tra yn pregethu yn un o'r cyrddau gwaharddedig hyn, ym mis Tachwedd, 1660, cafodd Bunyan ei ddal gan y swyddogion gwladol. Gwysiwyd ef o flaen y Frawdlys, a chynygiwyd ei ryddhau ar yr amod iddo beidio pregethu a chynnal cyfarfodydd crefyddol. Ond nis gallai Bunyan gydsynio â'r cyfryw gais. Anghenrhaid a osodwyd arno i bregethu Efengyl Crist. Dedfrydwyd ef i garchar Bedford. Am beth? Am wrthod ufuddhau i gyfraith ormesol ac anghyfiawn. Gwell oedd ganddo wynebu carchar ac adfyd gyda chydwybod ddirwystr na mwynhau rhyddid ar draul sarnu yr ymddiriedaeth oedd wedi ei gosod ynddo.

Ond nid peth hawdd iddo oedd mynd i garchar, heb un rhagolwg am ryddhad. Nid oedd ond 32 mlwydd oed, a'i galon yn llosgi gan awydd i wneyd gwaith ei Feistr. Pryderai yn nghylch ei deulu. Pwy gymerai eu gofal hwy, ac, yn enwedig, yr eneth fechan ddall? " Ond ni chafodd achos i edifarhau. Bu yr Hwn sydd yn gofalu am aderyn llwyd y tô, a chywion y gigfran pan lefant, yn dyner wrtho ef a'r eiddo drwy gydol blwyddi ei garchariad. Treuliai ran o'i amser i geisio ennill ychydig tuagat gynnal ei dylwyth. Ei orchwyl, meddir, oedd gwneyd pwynteli ar garai esgidiau. Buasem yn mynd ym mhell i weld un ohonynt. Ond yn fwy na'r oll, cafodd hamdden i feddwl,—i edrych i mewn iddo ei hun; a thra yn myfyrio, enynnodd tân. Cynyrch y tân sanctaidd hwnnw, —tân athrylith gysegredig,—ydyw Breuddwyd Bunyan.

Ysgrifennodd lawer yn ystod ei oes. Yr oedd yn awdwr tra chynyrchiol. Y mae rhif ei lyfrau, mawr a bach, yn driugain, un ar gyfer pob blwyddyn o'i oes. Ond ei Freuddwyd a'i gwnaeth yn fyd-hysbys. Dyna'r gwaith sydd yn aros yn newydd, yn ieuanc, ac yn iraidd,

"Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy."

Mewn poblogrwydd a dylanwad, nid oes ond Llyfr y Llyfrau wedi cael y fath ledaeniad mewn gwledydd gwareiddiedig. A'r hyn sydd yn rhyfedd ar un olwg ydyw, nad oedd yr awdwr ei hun yn ymwybodol o neillduolrwydd y gwaith. Yr oedd ar ganol ysgrifenu llyfrau ereill, ar bynciau athrawiaethol; ond er mwyn adloni ei feddwl, a thorri ychydig ar undonaeth y carchar, dechreuodd ysgrifennu hanes y Pererin. Ac, er ei syndod, dyna'r meddyliau a'r golygfeydd yn dechreu crowdio o'i gwmpas. Yr oeddynt yn ymryson â'u gilydd am le ar y papur. Prin yr oedd yn medru ysgrifennu yn ddigon cyflym. Onid dyna gyfrinach y Breuddwyd? Yroedd yn gynyrch oriau ysbrydoledig, oriau euraidd. Yr oedd yr awdwr fel un wedi cael ysglyfaeth lawer, ac yn mynd rhagddo wrth ei fodd. Nid gwaith gosodedig ydoedd, ond gweledigaeth nefol yn ymdorri ar ei feddwl, gan ei dywys ymlaen at byrth y ddinas sydd a'i heolydd o aur pur.

Yroedd carchar Bedford, lle y cedwid Bunyan, wedi ei leoli ar ganol y bont oedd yn croesi yr afon Ouse. Benthyciwn ei gerbyd ef ei hun am eiliad, —cerbyd chwim, distaw—olwynol, dychymyg. Dyma ni ar lan yr afon. Y mae llenni'r nos yn ymestyn dros y dref. Y mae'r carcharor newydd ffarwelio â'i deulu, ac wedi bod yn sibrwd gweddi, â'i law ar ben cyrliog yr enethig ddall. Clywir porth trystiog y carchar yn rhugl-droi ar ei golyn, a'r ceidwad yn mynd a'r agoriadau i'w ystafell ei hun. Daeth awr hûn a gorffwys.

Ond welwch chwi y gell gul acw uwchben yr afon? Y mae yna lusern fechan ar y bwrdd, ac yn ei hymyl y mae dau lyfr agored,—y Bibl ydyw un, a Hanes y Merthyron ydyw y llall. Dyna holl lyfrgell Bunyan; ond уг oedd ynddi bob cyflenwad ar gyfer ei feddwl a'i fryd. Sylwch ar y gŵr sydd yn eistedd yn y gadair acw. Y mae ysgrifell yn ei law, a thân athrylith yn ei lygaid. A ydyw efe yn meddwl am ei gell, ac yn teimlo ei fod yng ngharchar? Dim o'r fath! Y mae ei draed yn y Mynyddoedd Hyfryd. Y mae yn syllu ar swynion y Palas Prydferth, ac y mae yr afon ddu, bruddglwyfus, sydd yn rhedeg heibio ei gell wedi ei gweddnewid am afon y Bywyd, disglaer fel y grisial, ac yn dyfod allan dan orseddfainc Duw a'r Oen. Ac y mae llef ddistaw, nefolaidd, yn sibrwd yn ei glust,"Ysgrifenna! yr hyn a welaist ac a glywaist; yr hyn a brofaist yn eigion dy galon dy hun,". ac yn y per-lewyg hwnnw y rhoddwyd bôd i Daith y Pererin! "Felly y deffroais, ac wele, breuddwyd oedd."

Nodiadau

golygu