Oriau Gydag Enwogion/Y Tadau Pererinol
← John Bunyan | Oriau Gydag Enwogion gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Doethion Groeg → |
Y TADAU PERERINOL
YMHLITH dyddiau hynod, yn ystod y canrifoedd diweddaf, y mae dau ddyddiad na ddylai un hanesydd eu hanwybyddu. Er fod dros gan' mlynedd yn gorwedd rhyng ddynt, y maent yn dal perthynas agos a dibynol ar eu gilydd. Un ydyw Hydref 12, 1492, dydd glaniad Columbus ar draeth y Gorllewin, pan y daeth cyfandir Amerig yn ffaith brofedig. Y mae hanes ymdrechion y darganfyddwr hwn yn darllen fel rhamant. Cafodd brofi nerth anwybodaeth ac ofergoeledd yn ei wlad ei hun. A phan yn croesi'r Werydd, bygythid ef yn feunyddiol gan lwfrdra y morwyr; ond yn nerth ei ysbryd, a chyda swyn ei hyawdledd, hwyliodd rhagddo am 70 o ddyddiau nes dyfod i olwg y tir pell,—y Byd Newydd,—yr oedd ei ddychymyg gwyddonol wedi ei linellu er ys llawer dydd.
Y dyddiad arall ydyw Tachwedd 9, 1620. Dyna'r adeg y glaniodd y Mayflower, gyda'r fintai gyntaf o'r "Tadau Pererinol" ar gyffiniau Plymouth Rock, yn y rhandir hwnnw ddaeth i gael ei adnabod fel Lloegr Newydd. Yr oedd y dydd hwn yn ddechreu cyfnod. Cafodd yr ymfudwyr hyny, a'u holynwyr, eu defnyddio gan Ragluniaeth i osod i lawr sylfeini cymdeithas, llywodraeth, a chrefydd yn y Gorllewin. Eu bywyd a'u hegwyddorion hwy oedd haenau isaf cyfansoddiad y Weriniaeth fawr, gyfluniol, sydd bellach yn ymestyn o'r Werydd i'r Tawelfor, ac yn rhifo ei myrddiynau. Yr oedd cryn wahaniaeth rhwng neges Columbus a neges y Mayflower. Anturiaethwr oedd y naill, a'i fryd ar estyn terfynau gwyddor, a therfynau llywodraeth Hispaen yr un pryd; ond pererinion oedd yn y Mayflower, pobl yn ceisio gwlad, nid er mwyn concwest na chlôd, eithr er mwyn rhyddid cydwybod,ac oblegid eu hargyhoeddiadau crefyddol. Hyn yn unig a barodd iddynt wynebu peryglon y cefnfor, a chyrchu i fro bell, estronol, lle nad oedd ganddynt un hawlfraint na dylanwad,— dim ond eu diwydrwydd eu hunain, ac amddiffyn eu Duw. Ond yr oeddynt yn etifeddion ffydd, ac yn olynwyr yn yr addewid,—" Dos allan o'th wlad, ac oddiwrth dy genedl, a thŷ dy dad, i'r wlad a ddangoswyf i ti. A mi a'th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a'th fendithiaf; mawrygaf, hefyd, dy enw, a thi a fyddi yn fendith." Cafodd hyn ei wirio yn eu hanes a'u dyfodol hwythau. Daeth eu bywyd a'u llafur yn allu ac yn fendith yn y Byd Newydd. Rhodder i Columbus yr anrhydedd o'i ddarganfod; ond i'r Tadau Pererinol y perthyn y clôd o osod i lawr sylfeini crefydd a llywodraeth, crefydd rydd, ddilyffethair, llywodraeth ddemocrataidd, a'i hanfod yn ewyllys gyfunol yr holl bobl.
Yn yr olwg ar eu gwaith a'u dylanwad, y mae yn naturiol i ni deimlo dyddordeb yn eu hanes a'u helyntion. Yr hyn a'u dygodd i sylw ydoedd eu golygiadau crefyddol. Yr oeddent yn meddwl yn wahanol ar bynciau Cred i'r hyn oedd yn cael ei orchymyn gan lysoedd eglwysig a gwladol eu hoes. Yr oedd eu barn am eglwys y Testament Newydd yn peri iddynt ymwrthod âg offeiriadaeth ddynol. Credent yn offeiriadaeth gyffredinol yr holl saint; ac mai hanfod eglwys ydyw cynulleidfa o Gristionogion yn 'cyfarfod i ddibenion crefyddol, gan sefyll yn y rhyddid â'r hwn y rhyddhaodd Crist hwy. Lle bynag y mae Ysbryd yr Arglwydd Iesu, yno y mae rhyddid, —rhyddid cydwybod, rhyddid barn. Nid oedd hyn yn cael ei gydnabod na'i ganiatau yn yr Eglwys Wladol,—yr Eglwys oedd wedi ei sefydlu yng ngrym cyfraith, ac yn cael ei hamddiffyn gan ddeddfau o osodiad dyn. Am hyny yr oedd y sawl nas gallent gydffurfio â defodau ac â seremoniau yr Eglwys Wladol dan orfod i ymwahanu,—bod yn Anghydffurfwyr. Wrth wneyd felly yr oeddynt yn dyfod dan ŵg yr awdurdodau, a nerth y gyfraith yn cael ei droi yn eu herbyn. Ond yr oedd ysbryd y Diwygiad Protestanaidd yn ymledu, a'r gwirionedd am ryddid yn prysur lefeinio meddyliau. Y mae cymdeithasau crefyddol yn cael eu cychwyn yma a thraw, ac er fod llaw drom y gallu gwladol yn disgyn arnynt yn fynych, eto y maent yn lliosogi, fel cenedl Israel yn amser y gorthrwm, er gwaethaf llid y gelyn. Mewn cymdeithas fechan o'r fath, yr hon a gynhelid mewn pentref ar dueddau dwyreiniol Lloegr, y tarddodd y mudiad a gysylltir â'r Tadau Pererinol. Dyna eu cartref gwreiddiol, er fod amryw wedi ymuno â hwy o barthau ereill o'r deyrnas.
Dichon mai yr olwg gyntaf a gawn ar y Tadau ydyw yn Gainsborough, pentref tawel ar lan y Trent, oddeutu ugain milldir o'r môr. Lle neillduedig, allan o lwybr trafnidiaeth, ond yn gyrchfan adnabyddus i'r Piwritaniaid. Yno, yn yr Henblas, y preswyliai William Hickman, boneddwr a Phrotestant, ac efe a sefydlodd Gymdeithas Ymneillduol yn ei dŷ. Y gweinidog cyntaf ydoedd John Smyth, M.A. Deuai pobl o'r pentrefi cylchynol, ac yn enwedig o Scrooby, i'r cyfarfodydd crefyddol yn yr Henblas, er fod ganddynt dros ddeuddeng milldir o ffordd. Yn eu plith yr oedd William Brewster a William Bradford; a chan ystyried pellder y siwrnai Sabbothol, y maent yn meddwl am sefydlu cymdeithas gyffelyb yn Scrooby, lle yr oeddynt ill dau yn trigiannu. Desgrifi ef fel pentref digyffro, yng nghanol doldir ffrwythlon a ffrydiau gloewon. Y mae tair o siroedd yn cyfarfod yn y fangre,—Nottingham, York, a Lincoln. Y mae Scrooby ei hun yn Swydd Nottingham. Yn oes y Tadau yr ydoedd yn lle mwy adnabyddus nag ydyw heddyw. Safai ar y brif-ffordd oedd yn arwain i Berwick ac i Ysgotland. Yr hyn sydd yn meddu dyddordeb i'r hanesydd crefyddol ydyw yr Hen Faenordy. Mewn blynyddau diweddar, y mae llawer wedi dyfod ar bererindod o'r Gorllewin i weld annedd lle bu y Tadau yn y ymgynnull, ac yn cydaddoli cyn gorfod gadael eu gwlad. Yn y Maenordy y preswyliai William Brewster, gŵr ag y mae ei enw yn gysegredig, arweinydd y fintai fechan aethant dros y Werydd yn y Mayflower. Cafodd ei addysgu yn Nghaergrawnt, ac ym more ei oes daeth i gysylltiad â'r Llys. Bu am yspaid yn Holland. Ond nid yn y Llys a'i ysgafnder yr oedd i dreulio ei fywyd. Dewisodd yntau adfyd pobl Dduw yn hytrach na mwyniant ac anrhydedd daearol. Dychwelodd i Scrooby. Cafodd y swydd o "Post" fel olynydd i'w dad. Nid oedd llythyrdy, na son am dano, yn y cyfnod hwn. Ond yr oedd negeseuon y Llys yn cael eu cludo i wahanol ranau y deyrnas. Yr oedd pedair prif-ffordd yn cael eu cadw i'r amcan hwn,—o Lundain i Beaumaris, i Plymouth, i Dover, ac i Berwick. Ar y ffyrdd hyn yr oedd gwestai, lle y cedwid meirch a chysuron ar gyfer y llythyrgludwyr. Gelwid y sawl oedd yn gofalu am y cyfryw yn "Post," ac yr ydoedd yn swydd a gydnabyddid yn lled dda. Un o'r gwŷr hyn ydoedd William Brewster; a dyna ar y pryd oedd y Maenordy, gwesty i genhadau y Goron, &c. Ymddengys fod cryn hanes i'r hen Faenordy. Ar un adeg yr oedd yn balas i Archesgob York. Ynddo y bu Cardinal Wolsey am fisoedd, ynghyd â Bonner, yr erlidiwr dihafal, yn ceisio llethu y Lutheriaid yn y wlad. Ond ym mhen ychydig flynyddau, gwelwyd eglwys Anghydffurfiol wedi ymgynnull yn y lle y bu'r Cardinal yn taranu ei anathema yn erbyn rhyddid barn a llafar. Tybir mai yn yr hyn sydd yn awr yn ystabl y cynhelid y cyfarfodydd. Gweinidogion cyntaf yr eglwys oedd Richard Clyfton a John Robinson. Y mae'r olaf, yn arbenig, yn cael ei gyfrif yn dad a chynghorwr i'r Pererinion. Bu am gyfnod yn offeiriad, ond methodd a chartrefu yn Eglwys Loegr. Bwriodd ei goelbren gyda'r Anghydffurfwyr.
Ond nid oedd y gymdeithas grefyddol yn y Maenordy i gael dianc rhag ysbryd erlidiol yr oes. Cafodd Brewster ei ddirwyo yn drwm am roi nawdd i'r cyfarfodydd, a chafodd amryw o'i aelodau eu bwrw i garchar. Dan yr amgylchiadau, penderfynasant groesi y môr i Holland, lle y gobeithient gael llonyddwch i ddilyn eu hargyhoeddiadau. Yn yr adeg honno, fodd bynnag, nid oedd rhyddid i ymfudo heb drwydded, ac nid oedd y drwydded honno i'w chael i'r bobl hyn; felly yr oedd yn rhaid gwneyd hebddi, rywfodd. Yn Hydref, 1667, rhoddasant eu bryd ar gychwyn yn ddirgelaidd o Boston, hen dref hynod ar fin y môr, yn Swydd Lincoln. Ond, druain, cawsant eu bradychu gan gadben y llong. Cymerodd yr adyn hwn eu harian, a gwerthodd hwy i swyddogion y Llywodraeth yr un pryd. Gyda'u bod ar y bwrdd, dyna yr erlynwyr ar eu gwarthaf, a chawsant eu cymeryd yn ol i'r dref i aros eu prawf. Bu yr ynadon yn dirion wrthynt, ond nis gallent eu rhyddhau heb orchymyn oddiwrth y Cynghor yn Llundain. Buont yng ngharchar am dymor, ond nid oeddent wedi colli golwg ar eu hamcan. Gwnaethant ymdrech i ymfudo drachefn. Wedi cytuno ar lecyn neillduedig, ar lan y môr, cyrhaeddasant yno gyda'u teuluoedd. Ond cyn i'r oll fynd i'r llong oedd yn eu haros, daeth y milwyr ar eu gwarthaf. Cychwynodd y llestr gyda rhan o'r ymfudwyr, a'r lleill yn cael eu gyrru yn ol gan yr erlynwyr. Mawr oedd eu trallod a'u helbulon, ond nid oedd pall ar eu dewrder; ac ym mhen yspaid o amser llwyddasant hwythau i ddianc, a chafodd yr holl gwmni gyfarfod eilwaith ar ddaear estronol.
Gwyddis fod Holland, yn y blynyddau y cyfeiriwn atynt, wedi bod yn dra charedig tuag at y sawl a erlidid o achos cyfiawnder. Yr oedd y wlad wedi bod mewn rhyfel maith gyda'r Hispaen, ac wedi sefyll yn bur i achos Protestaniaeth. Dan deyrnasiad William y Tawel yr oedd rhyddid crefyddol yn cael ei estyn i bawb yn ddiwahardd. Yn yr adeg hon aeth lliaws o Anghydffurfwyr gore Lloegr drosodd i Holland am gysgod a nodded, hyd nes yr elai yr aflwydd heibio. Un o'r rhai cyntaf i alw eu sylw at hyny oedd John Penri, y Merthyr Cymreig. Ychydig cyn cael ei ddienyddio, ysgrifenodd lythyr i ffarwelio â'i frodyr yn y ffydd; ac yn wyneb y creulonderau oedd yn ymosod arnynt, y mae yn eu hannog i ymfudo i wlad lle y cawsent ryddid a llonyddwch i addoli Duw. Y mae, hefyd, yn deisyf arnynt fod yn dyner wrth ei weddw a'i blant. I'r sawl sydd wedi talu sylw i hanes Penri, y mae'r cwestiwn wedi ymgynnyg,—Beth a ddaeth o'i deulu ar ol ei farwolaeth gynarol ef? Y mae'r cwestiwn yn cael ei ateb yn hanes y Pererinion. Cafodd gwraig a dwy ferch John Penri eu cymeryd drosodd ganddynt i Holland, a thrachefn, o bosibl, i wlad y Gorllewin.
Yn y modd hwn, daeth Amsterdam yn gyrchfan yr erlidiedig o Brydain a manau ereill. Bu y ddinas honno ar ei mantais o'u plegid. Yr oedd y ffoaduriaid yn cynrychioli goreuon cymdeithas; pobl rinweddol, fedrus, a diwyd gyda'u goruchwylion. Bu eu harhosiad yn Amsterdam yn foddion i ddyrchafu y ddinas ac i helaethu ei dylanwad. Wedi aros yno flwyddyn, symudodd y Pererinion i dref arall,—Leyden.
Safai Leyden ar oddeutu hanner cant o ynysoedd bychain wedi eu ffurfio gan yr afon Rhine, oddeutu deng milldir ar hugain o Rotterdam. Yr oedd poblogaeth y lle, yn nechreu yr ail ganrif ar bymtheg, yn gan' mil.
Yr oedd yn ddinas dêg a dymunol. Cysgodid ei heolydd gan goed deiliog, a phontydd heirdd yn croesi yr afon. Yr oedd yr adeiladau cyhoeddus yn fawreddog, a'r holl ddinas yn delweddu darbodaeth, cynildeb, a chysuron. Ei phrif addurn oedd y Brifysgol, yn yr hon yr oedd dros ddwy fil o efrydwyr. Cafodd y Pererinion nodded yn y ddinas hon, ond yr oedd eu hanhawsderau yn lliosog. Gorfu iddynt ddysgu crefftau newyddion, mewn trefn i allu cynnal eu hunain a'u teuluoedd. Ond nid pobl yn llwfrhau yn amser cyfyngder oeddent hwy. Daeth rhai yn seiri meini, ereill yn wehyddion, yn argraffwyr, &c. Ac er fod eu byd yn galed, llwyddasant i ennill eu bara beunyddiol heb ofyn elusen na chardod i neb. Eu gweinidog yn Leyden oedd John Robinson. Ymhen amser llwyddasant i brynu tŷ a gardd yn agos i eglwys gadeiriol y ddinas. Yn y tŷ hwnnw yr oedd y gweinidog yn trigiannu, ac yn un o'r ystafelloedd y cynnelid y gwasanaeth crefyddol. Bu y Pererinion yn Leyden am ddeuddeng mlynedd; ac yn ystod yr holl amser ni pharasant unrhyw ofid na thramgwydd. Ni ddygwyd cwyn yn eu herbyn; a rhoddwyd llawer tystiolaeth i'w rhagoriaeth fel dinasyddion.
Ond nid oedd iddynt yno "ddinas barhaus." Rhyw lety a chysgod dros amser oedd Leyden, ond yr oedd y Pererinion yn chwilio am gartref. Pa le yr oedd hwnnw? Nid yn yr hen wlad, er mor anwyl ydoedd i'w serchiadau. Gorthrwm oedd yn oruchaf yno. Pa le, ynte? Ai yn y Byd Newydd, yn y Gorllewin pell? Ai yno yr oedd eu ffydd i gael lle i roddi ei throed i lawr? Ai yno yr oeddent i weithio allan yr ymddiriedaeth grefyddol oedd wedi ei rhoddi iddynt? Y mae y syniad hwn yn cryfhau yn eu mynwesau. Fel y gwelir yr adar ar ddiwedd haf yn ymdyru at eu gilydd, yn ngrym rhyw ddirgel reddf, felly yr oedd y Pererinion ymfudol hyn. Y maent yn penderfynu gadael Holland, a chroesi y Werydd gyda'u gilydd.
Yr oedd yna resymau cymdeithasol dros iddynt adael Leyden. Yr oeddent mewn perygl o ymgolli yn y bywyd oedd o'u hamgylch, bywyd y Cyfandir. Nis gallent ddygymod â hyny. Peth arall, yr oedd sefyllfa wladol Holland yn ansicr. Yr oedd arwyddion rhyfel ar y gorwel, a buasai hyny yn creu chwyldroad yn y deyrnas. Yr oedd y rhesymau hyn yn bod, ond yr oedd llaw anweledig y tu ol i'r llen, yn eu harwain ar hyd ffordd nis gwyddent. Rhaid oedd ymado, er fod y dyfodol yn dywyll ac aneglur. Yr oedd eu bryd ar y Gorllewin. Meddylient am Virginia. Yr oedd trefedigaeth Brydeinig wedi ei chychwyn yno dan awdurdod y Brenin Iago. Ond deallasant fod deddfau caethiwus Lloegr yn ymestyn i Virginia. Nis gallent wladychu yno heb wadu eu hegwyddorion. O'r diwedd, cawsant ganiatad i ymsefydlu ar lan yr afon Hudson. Cwrddasant âg anhawsderau mawrion ynglŷn â chael llong, a rhyw ddarpariaeth ar gyfer y daith. Wedi dyfod i gytundeb â chwmni masnachol yn Llundain, ar delerau eithaf celyd, cawsant addewid am ddwy long i'w cludo drosodd,—y Speedwell a'r Mayflower. Aeth y Speedwell i'w cyrchu o Holland i Southampton. Yr oeddent yn gadael gwlad y camlesydd yn haf y flwyddyn 1620, ac yn gobeithio gallu croesi y cefnfor yn ddiymdroi fel y byddai eu ffoedigaeth cyn y gaeaf. Ond yr oedd y merchants yn cellwair gyda'r mater, ac yn oedi arwyddo y cytundeb. Wedi eu cadw mewn pryder am wythnosau, cawsant ar ddeall o'r diwedd fod y llongau yn barod. Rhif y Pererinion oedd ugain a chant. Aeth 90 ar fwrdd y Mayflower, a 30 ar fwrdd y Speedwell, ac felly y cychwynasant. Wedi hwylio am rai dyddiau, gwelwyd fod y Speedwell yn gwbl wahanol i'w henw. Ffrydiai y dwfr drwy ei hystlysau, a gorfu iddynt ddychwelyd i dir. Wedi cyrraedd Plymouth, gwelid yn eglur nas gallai y Speedwell wynebu'r fordaith. Erbyn hyn yr oedd deunaw o'r ymfudwyr wedi digaloni, a gwrthodasant ymuno â'r anturiaeth. Trosglwyddwyd deuddeg i'r Mayflower, yr hon oedd eisoes yn rhy lawn. Aethant allan i'r môr drachefn, a chawsant hindda am enyd. Ond yn bur fuan daeth gwyntoedd yr Hydref i guro arnynt. Ysgytid y llong fel pluen ar frig y dòn. Hyrddid hwy o flaen yr ystorm. Toddai eu calon gan flinder, a'u doethineb a ballodd. Buont am naw wythnos ar y cefnfor garw; ond ar y nawfed o fis Tachwedd y maent yn gweld y tir. Nid y tir y disgwylient am dano, ond y bau mawr a adwaenir fel Cape Cod Bay. Yr oedd eu rhagolygon yn dywyll i'r eithaf. Nid oedd tŷ na chysgod yn eu haros,—dim ond arfordir noeth a llwm. Yr oedd yr hin yn aeafol, ac afiechyd wedi tori allan ar fwrdd y llong. Ond y maent yn glanio, ac yn syrthio ar eu gliniau ar y traeth i gydnabod Duw y nefoedd am eu gwaredu o beryglon y môr, a'u dwyn yn y diwedd i gilfach a glan. Ni chawn ddilyn eu hanes ymhellach. Caiff yr aralleiriad a ganlyn o gân Mrs. Hemans wasanaethu i ddangos eu sefyllfa, eu gwroldeb, a'r neges odidog oedd i'w hanturiaeth,
Ymdorai'r tonau brigwyn, erch,
Ar fynwes oer y graig;
A sŵn y storom ar y traeth
Adseiniai yn yr aig.
Mor ddu a phruddaidd oedd y nos
Deyrnasai dros y tir,
Pan laniai'r Pererinion llesg
Ar ol eu mordaith hir!
"'R oedd yno rai â'u gwallt yn wyn,
A rhai mewn mebyd mad;
Paham crwydrasant hwy mor bell
O'u genedigol wlad?
"Beth geisient hwy ar estron dir?
Ai perlau teg eu gwawr?
Na, ceisio'r oeddent le i'w ffydd
I roi ei throed i lawr.
"Byth galwer hwn yn sanctaidd dir,
Lle cysegredig yw;
Pwrcaswyd yno ryddid dyn
I wasanaethu Duw."