Oriau yn y Wlad/Bardd y Gwanwyn

Yn Mrig yr Hwyr Oriau yn y Wlad

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Mis Mai

BARDD Y GWANWYN.

DYWEDIR fod adeg priodol i ddarllen pob gwir fardd. Y mae ganddynt eu tymhorau, a dylid adnabod yr awr sydd yn gydnaws ag ysbrydoliaeth yr awen. Mae rhai fel yr eos, yn feirdd yr hwyr, pan fo yr awel yn falmaidd, â'r lloer yn llawn. Eraill, fel Islwyn, yn fwy cydnaws a'r hydref, pan fo swn y gwynt yn cyffroi tanau hiraeth yn y fynwes. Y mae dosbarth arall y gellir eu galw yn feirdd y gwanwyn. Y mae arogl blodau ar eu meddyliau, a swn gobaith yn eu halawon. Perthyn i'r cwmni yna y mae Elfed. "Carol Blodau'r Gwanwyn ydyw testyn un o'r caneuon, ac y mae yn ddangoseg o'r llyfr— o'r awdwr. Bu'm yn ei ddarllen am oriau yn nghesail bryn, lle yr oedd adar yn canu, coed yn deilio, afon yn trydar yn y gwaelodion, a'r briallu yn haner ymguddio dan y perthi. Agorais y llyfr, a chyn pen nemawr dyna fi yn canfod portread ffyddlon o'r olygfa:—

Gwelais lif y loew nant
Yn prysuro drwy y pant;
Gwelais wyneb blodyn bach
Ar ei glan yn fyw ac iach;
Rhedeg, rhedeg, mae'r afonydd,
Gwell gan flodau fywyd llonydd.

*****
Y mae pobpeth yn ei le
Pan yn dilyn goleu'r ne';
Aros di, a bydd yn fawr,
Brysia dithau, ddydd ac awr;
Llifo at Dduw y mae'r afonydd,
Tyfu at Dduw mae'r blodau llonydd."

Yn mha le y gorwedd arbenigrwydd Elfed fel bardd? Yr wyf yn petruso i gynyg ateb y fath ymholion, ond y mae y pethau a ganlyn wedi fy nharo tra yn nghyfeillach y "Caniadau" hyn.

1. Gwaith glan. Y mae gan awen Elfed wardrobe gyfoethog, gwisgoedd sidan a phorphor, a gŵyr y bardd pa fodd, a pha bryd i'w defnyddio. Dygwch allan y wisg oreu" ydyw ei arwyddair. Chwiliodd am eiriau detholedig, ac y mae y rhan fwyaf o'i frawddegau wedi eu caboli fel mynor yr Eidal. William Watson a ddywed yn un o'i ddarnau byrion:—

"Often ornateness
Goes with greatness;
Oftener felicity
Comes with simplicity;
Life is rough,
Sing smoothly, O Bard."

Dealla Elfed y gyfrinach ddedwydd hon. Y mae ei ganiadau yn ornate, ac yn syml yr un pryd. Beth yn fwy syml na'r llinellau i'r "Llanw" tawel:—

Mae'r llanw yn dod i fyny'r afon
Ac anadl y don yn lleithio'r awelon.
'Mae'n dod, mae'n dod—a blodau'r ewyn
Megis briallu y môr yn ei ddilyn.
Mae'n llifo ar led o geulan i geulan
A'i wynion fanerau yw edyn y wylan.
Mae'r llanw'n dod; a swn y Werydd
Yn murmur heibio'r pentrefi llonydd."

Da fyddai i'n beirdd ieuainc gofio cynghor Watson, ac astudio caneuon Elfed,—

"Life is rough,
Sing smoothly, O Bard."

Pa le y ceir y llyfnder a'r melodi os nad mewn cân?

2. Gallu i bortreadu. Dywed rhywun mai ystyr y gair "darfelydd" ydyw—y ddawn i weled y fel, y tebyg, a'i ddarlunio. Yr oedd y gallu hwn yn gryf yn Longfellow. Desgrifia adlewyrchiad y lleuad lawn ar lanw y môr,—

"Like a golden goblet falling
And sinking into the sea."

Ac y mae caniadau Elfed wedi eu britho â'r un peth. Y mae ei ddarfelydd yn fywiog a ffyddlon i Natur. Dyma rai llinellau a geir yn y bryddest benigamp "Gorsedd Gras:"—

"Fel y don yn troi yn flodau arian yn ngoleuni'r lloer.
Fel mae cusan gwyn y wawr yn agor llygaid blodau'r byd.
Fel y mellt yn troi yn wlith yn nghlir dawelwch hafaidd nos,
Felly pob ddrychfeddwl ieuanc dry'n y nef yn emyn dlos. "

3. Craffder gwelediad. Y mae y bardd yn medru gweled drychfeddwl mewn lleoedd annisgwyliadwy. Daw awgrymiadau iddo o agos a phell. A defnyddio syniad Watson unwaith yn rhagor; dywed efe mai un gwahaniaeth cydrhwng y cerflunydd a'r bardd ydyw hyn—Y mae y cerflunydd yn cyfarch yr angel yn y mynor diffurf, ac yn dyweyd—"Yn awr, mi a'th ollyngaf yn rhydd." Ond am y bardd, y mae yntau yn canfod angel o ddrychfeddwl yn crwydro drwy y gwagle, ac yn dyweyd wrtho—" Tyred i mewn a gorphwys. Gwnaf i ti gartref, a chei weini cysur i bererinion.

Llwyddodd Elfed i letya angylion yn y caniadau hyn. Gwelodd un o honynt yn ngeiriau olaf Golyddan—"Peidiwch holi heddyw," un arall mewn mabinogi henafol, ac un wed'yn yn ymguddio yn mhlygion breuddwyd Bunyan,—"Yr awr euraidd." Ond un o'r engyl tlysaf oedd hwnw a ymrithiodd iddo mewn angladd ddiwrnod cynauaf"—un o'r caniadau mwyaf tyner yn y llyfr:—

"Yn y glas y mae'r ehedydd
A'i flodeuog gerdd,
Ar ei ffordd i'r nef, fel salmydd
Daear werdd.

Nes na ni at fyd angylion
Yw'r caniedydd bach;
Nes at fyd y pethau gwynion—
Y byd iach!

Caned yn yr angladd, caned—
Cariad uwch y bedd!
Yn y gwenith heddyw sued
Awel hedd!"

4. Diwylliant eang. Anhawdd darllen tudalen o'r brydyddiaeth hon heb deimlo fod yr awdwr yn gyfarwydd iawn â llenyddiaeth—mewn gair, fod cylch ei efrydiaeth a'i ddiwylliad yn dra eang. Y mae amrywiaeth ei fesurau, cyfoeth ei gymhariaethau, a chyffyrddiadau ysgafn, gorphenol, ei waith, yn profi mai nid gŵr wedi byw mewn un heol ydyw, ond cosmopolitan— rhydd—ddinesydd y byd llenyddol. Ceir profion eglur o hyn yn y bryddest ar "Orsedd Gras," ac yn enwedig y rhiangerdd felusber, Llyn y Morwynion." Y mae cynghor Elfed i'r Cymro ieuanc, yn y cyfnod hwn, wedi ei wirio eisoes yn ei hanes ef ei hun:—

"Mae dy wyneb weithion
At y llydan fyd;
Cadw wres dy galon.
Yr un pryd.

"Dante—dos i'w ddilyn;
Shakespeare—tro i'w fyd;
Cofia Bantycelyn
Yr un pryd."

Ie, dyna sydd eisiau ar feirdd ieuainc ein cyrddau llenyddol—cydnabyddiaeth eangach â llenyddiaeth fawr yr oesau, a chariad at bethau goreu Cymru—"yr un pryd."

Ond gofod a balla i mi fanylu ar y caneuon gloewon hyn. Hawdd fuasai dyfynu llinellau rhagorol o "Adnodau'r Mor," "Olion Hanes," a'r gân nodedig hono—"Rhagor fraint y Gweithiwr." Dylai hon gael ei darllen neu ei hadrodd yn nghyrddau mawr Undeb y Gweithwyr. Byddai cystal a "Salm Bywyd" Longfellow ar ddechreu y gwasanaeth. Dylai pob gweithiwr Cymreig yfed beunydd o ysbrydoliaeth y gan hon. Y mae yn iachus, ac yn gogoneddu pob gwaith gonest, lle bynag y bo—yn y chwarel, yn y pwll glo, ar y meusydd wrth y ffwrn dân,—

"Rhoddwch i'r gweithiwr ei le,
Ni cheisia ond lle i weithio;
Mae hyny ar lyfrau y ne
Yn hawl ddigyfnewid iddo."

Ac y mae hyn yn wir am y meddyliwr, am draethawd y llenor ac am gân y bardd :—

"Cana dy gân, fy mrawd;
Cana—a doed a ddelo;
Bu Milton unwaith yn dlawd
A "Pharadwys" dan ei ddwylo!"



Nodiadau golygu