Oriau yn y Wlad/Bedd y Bardd

Rhwng y Mynydd a'r Mor Oriau yn y Wlad

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Eglwys Dwynwen

Eglwys Llanrhyddlad

BEDD Y BARDD.

Bro deg o burdeb ar daen,
Bro ddedwydd—beirdd a'i hadwaen.
—ISLWYN.

I.

AR foreu tyner, ond cawodog, yn Medi, aethum ar bererindod i Lanrhyddlad yn Mon, i ymweled â man beddrod Nicander. Cychwynais o Glwchdernog, cartref yr hynod William Pritchard, Ymneillduwr cyntaf Mon, gŵr a yrwyd gan erlidiau o'i breswylfod yn y Lasfryn Fawr, yn Eifionydd, ac a ymlidiwyd o le i le yn Ynys Mon, nes o'r diwedd y cafodd ffafr yn ngolwg ysgweiar y Brynddu, a llonyddwch i dreulio hwyrddydd ei oes, ac i wasanaethu yr efengyl, yn y Clwchdernog. Y mae yn demtasiwn i aros gyda hanes yr amaethdy adnabyddus hwnw, ac yn enwedig y Clwch Hen, lle y bu John Wesley, ac amryw o'r Tadau Methodistaidd yn pregethu efengyl y deyrnas. Nid oes yno ond carnedd yn aros erbyn heddyw, ond y mae yr adfeilion yn gysegredig, a'r ddaear yn sanctaidd.

Ond ar y boreu a nodwyd troais fy nghamrau tua. Llanrhyddlad. Nid oes dim yn hynod yn yr olygfa am encyd o ffordd, ond wedi dringo y gelltydd yn nghyfeiriad mynydd y Garn, y mae y dyddordeb yn cynyddu bob cam. Gorwedda pentref gwledig Llanddeusant ar y gwaelodion o'r tu cefn; ar yr aswy y mae Llanfaethlu, gyda'i adgofion am Ioan Maethlu a Glasynys. Saif pentref Llanrhyddlad mewn lle amlwg ar ysgwydd y bryn, ac y mae yr olygfa o ymyl yr ysgoldy, ar y groesffordd gerllaw, yn wir ardderchog. Ar ddiwrnod clir, digymylau, gellir canfod mynyddau Arfon, o'r Penmaenmawr i gopa yr Eifl, a gellir gweled rhandir Lleyn, ac Ynys Enlli yn ymgodi o fynwes y môr. Anaml y gellir sefyll ar lecyn mor fanteisiol i weled arddunedd anian,—y tir pell. Camsyniad dybryd ydyw meddwl mai gwastadedd unffurf, dôf, fel "ceiniog fawr" ydyw gwlad Mon. O honi hi, mewn gwirionedd, y gwelir mawredd y Wyddfa, a'i chwiorydd, yn eu gogoniant. Hawdd genyf gredu ddarfod i Nicander sefyll ar y groesffordd hon lawer pryd ar ei ymdaith, i syllu ar gyrau yr hen wlad, ei anwyl Eifionydd.

Y mae eglwys y plwyf a phentref Llanrhyddlad yn sefyll mewn pellder lled fawr oddiwrth eu gilydd. Yn yr ystyr hwn, y mae mesur o "ddadgysylltiad" wedi cymeryd lle rhyngddynt. Yr oll ellir weled o'r eglwys o ymyl y pentref ydyw darn o'r clochdy pigfain ar gwr ystlys mynydd y Garn. Awn ar hyd ffordd gul, droellog, i gyfeiriad y môr. Yr ydym yn pasio amryw fwthynod a mân ffermdai. Ar y chwith y mae melin wynt—un o neillduolion Mon—a phentref Rhydwyn. Lle neillduedig iawn ydyw hwn, wedi troi ei gefn ar y byd, ond dywedir fod dosbarth arbenig o "deithwyr yn gwybod yn dda am dano, ac yn dod iddo gyda chysondeb os bydd y "gyllideb " yn caniatau. Wedi gado gefail ar ochr y ffordd, yr ydym yn d'od i ymyl y mynydd. Y mae blodau'r grug yn porffori ei lethrau, ac y mae y rhedyn, hwythau, yn dechreu newid eu lliw. Ar lethr craig gwelais ddau lafurwr yn bwyta eu cinio, ac nid oedd argoel diffyg treuliad ar eu galluoedd.

Toc, dyma ni wrth y fynedfa i'r persondy; ar yr ochr gyferbyn y mae yr eglwys a'r fynwent, mewn congl enciliedig, wrth odre y bryn, ac yn ngolwg y môr. Y mae golwg gadarn, lanwedd, ar yr adeilad, ac nid oes brydferthach clochdy yn Ynys Mon. Ac ar fin y fynedfa i'r eglwys, ar y llaw dde, y mae yr hyn y daethom yn un pwrpas i'w weled—bedd Nicander.

Yma y gorwedd ei lwch, o "swn y boen sy yn y byd." Llecyn tawel, distaw; a phell yw y dydd, gallem farnu, pan y daw trybestod rheilffyrdd neu law-weithfeydd i dori ar heddwch y fro. Ac yma, yn ymyl y glasfor byth-newidiol, a chan ddilyn ymdaith y llongau, mawr a bychain, yn colli o'r golwg y tu hwnt i fau Caergybi, cefais fy hun yn synfyfyrio am yrfa daearol y bardd a brofodd y llanerch hon yn "borthladd tawel, clyd, o swn y storm a'i chlyw." Ehedodd fy myfyr—dodau i Eifionydd,—

"Brodir iach, lle bu hir drig
Ein hen dadau nodedig;
Dillynaf gwmwd llonydd,
Fu'n Athen yr awen rydd.

I'm gŵydd deuai afonydd gloewon ac encilion prydferth y wlad sydd wedi ei chysegru gan adgofion am feirdd gorchestol y dyddiau a fu. Dyna Dewi Wyn,—

"A'i ddawn ddihysbydd, enwyllt,
Hydrawg oedd fel rhaiadr gwyllt,
Neu daran ffroch, a'i chroch ru
Yn enfawr ymgynhyrfu."

Athrylith ffrwydrol, ryfedd, ac ofnadwy; nid oedd rheolau a mesurau, sydd yn gymaint blinder i gyfansoddwyr cyffredin, ond pethau hawdd plentynaidd o hawdd—i awen Dewi Wyn. Gwnai efe dawdd—lestr o'r gynghanedd gaethaf, a thywalltai iddi feddylddrych anfarwol. Yr oedd ei allu mor aruthrol fel y rhodiai'n rhydd yn llyffetheiriau pobl eraill. Nid honiad ffol oedd ei ddywediad na welodd efe odid linell gynghaneddol nas gallai ei gwella a'i chryfhau. Ond heblaw nerth yr oedd yn perthyn i awen Y Gwyn dynerwch a theimlad dwfn. Nid oes angen profi hyn i unrhyw berchen calon sydd wedi ymgydnabyddu âg Awdl Elusengarwch. Pwy a roddodd y fath fynegiad i adfyd a chyni y llafurwr tlawd?—

"Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi angen un rhwng y naw!"


Pwy, mewn oes wasaidd, fammon—addolgar a ddygodd ein cenedl i synied mai

"Brodyr o'r un bru ydym
Un cnawd ac anadl, ac un Duw genym,"

Gresyn o'r mwyaf ydoedd i athrylith Dewi gael ei thywyllu yn nghanolddydd ei grym. Ond er hyn oll, gadawodd argraff anileadwy ar lenyddiaeth Cymru,—

"Oeswr a phen seraff oedd,—pencampwr,
Ac ymherawdwr beirdd Cymru ydoedd."

Yn ei ymyl yr oedd Robert ap Gwilym—Y Bardd Du. Amaethwr oedd yntau, a'i breswyl am flynyddau lawer yn y Bettws Fawr. Gwahanol iawn oedd teithi awen y Gwyn a'r Du Yr oedd bardd y Gaerwen fel y rhaiadr mawreddog,—

Uchelgadr raiadr, dŵr ewyn
Yn synu, pensyfrdanu dyn."

Ond am fardd y Bettws,—

"Ei ddawn ydoedd ddeniadol
Fel afon dirion, mewn dôl,
Yn eirian lithro'n araf,
O dan heirdd gysgodion haf;
Dolenai, a delw anian,
Yn glŵs, ar ei gwyneb glân."

Cyfansoddodd y Bardd Du lawer o farddoniaeth nad a byth i dir angof. Gellir dweyd am dani, yn ngeiriau Ioan Madog,—

"A deil hon tra byddo'n bod,
Iaith Eifion ar ei thafod."

Cafodd Robert ap Gwilym oes faith, a bu yn gyfaill a noddwr i lu mawr o feirdd a llenorion. Yr oedd y Bettws Fawr yn goleg da i gyfansoddwyr ieuainc. Ar nawngwaith o haf, neu yn min nos gauaf, gellid gwel'd llawer pererin llengar yn ymlwybro tua'r amaethdy hynafol. Ymddengys fod y Bardd Du yn agored i un gwendid "ddibechod,"—yr oedd yn lled hoff o ganmoliaeth. Gwnaeth rhai pobl gyfrwys, gnafaidd, ddefnydd anheilwng o'r gwendid hwn, mewn trefn i gael mwynhau moethau materol y Bettws, ond yr oedd ei wir ddisgyblion yn myn'd yno gydag amcan llawer purach. Wrth feddwl am yr ymweliadau dyddorol hyn y mae dynsawd ambell ddisgybl yn ymrithio ger fy mron.

Dacw ŵr ieuanc bochgoch, heinyf, llygadlon, llawn asbri a gwladgarwch, yn cyrchu at y ty. Craffwn arno; daw yn adnabyddus ar lwyfan yr Eisteddfod, daw yn ŵr eglwysig, yn fardd a llenor mirain. Dyna Morus——

Ond yr wyf wedi rhagflaenu yr amseroedd a'r prydiau yn hanes y bardd. Un o wir blant Eifionydd ydoedd Nicander, neu, a defnyddio ei enw bedydd—Morus William. Ganwyd ef ddechreu y ganrif hon, mewn bwthyn o'r enw y Coety, ar dir y Gaerwen—etifeddiaeth Dewi Wyn. Gallesid disgwyl iddo ddod yn brydydd. Gofynwyd i ryw ddyn a ydoedd yn medru German? Atebodd y dylasai wybod rhywbeth am y pwnc,—fod ganddo gefnder oedd yn arfer chwareu y German flute. Wel, yr oedd mam Nicander wedi bod yn forwyn gyda'r Bardd Du, a'i dad yn was gyda'r Bardd Gwyn, ac oni ddylasai y plentyn fod yn brydydd? Adwaenid ef gan gyfoedion ei febyd fel "Morus bach y Coety." Cafodd ychydig ysgol ddyddiol o'r fath ag ydoedd mewn gwlad yn y dyddiau hyny. Caled oedd ei fyd. Elai i'r ysgol yn y boreu gyda ychydig fara sych, a phiser gwag. Efe oedd i lanw y piser trwy gardota llaeth ar ei ffordd at ei wersi. Dyna lwybr athrylith ar hyd yr oesau, llwybr garw, cul, noethlwm, ond "ffordd unionaf er mor arw, i ddinas gyfaneddol yw." Profodd y llaeth enwyn a'r bara sych yn dra chydnaws â chylla Morus y Coety. Daeth yn fachgen byr-gorff, cydnerth; ac ni chiliodd y gwrid oddiar ei foch hyd ei fedd. Pan yn lled ieuanc, cafodd ei brentisio yn llifiwr yn ardal ei febyd. Ymddengys iddo ragori yn y grefft, os gwir ydyw yr englyn a wnaed am dano yn y cyfnod hwn,—

"Ni chafwyd bachgen amgenach—na llaw,
I drin llif yn hoewach;
Nid oes un llifiwr siwrach,
Yn y byd, na Morus bach."

Ond nid yn y pwll llif yr ydoedd i dreulio ei fywyd. Aeth am dymor i'r ysgol i Gaer. Wedi bod yno am tua dwy flynedd, cafodd fynediad i Goleg yr Iesu, Rhydychen. Yr oedd Ab Ithel yno yr un adeg. Ar ol gorphen ei efrydiaeth, penodwyd ef i guradiaeth Treffynon, fel olynydd i'r mwynber Alun. Oddiyno, efe a symudodd i Bentir, Arfon.

Erbyn hyn yr ydoedd yn prysur wneyd ei farc fel bardd. Pan yn Mhentir yr anrhegwyd ef â'r englyn canlynol gan Dewi Wyn,—

"Morus sy'n Forus anfarwol,—Morus
Sy'n un mawr ryfeddol;
Ni fu ei enw ef yn ol,
Ond Morus anghydmarol."

Aeth o Bentir i Lanllechid, ac oddiyno i Amlwch, lle y bu yn gurad am bedair blynedd ar ddeg. Yn y blynyddau hyn yr ydoedd yn ymddyrchafu fel bardd ac awdwr, ond yn araf iawn y cafodd ei gydnabod drwy ddyrchafiad eglwysig. Daeth hyny o'r diwedd. Cafodd ei benodi i fywoliaeth Llanrhyddlad, lle y bu am y pymtheng mlynedd olaf o'i oes.

Daeth yn adnabyddus wrth yr enw "Nicander" yn y flwyddyn 1849, ynglŷn âg Eisteddfod fyth-gofiadwy y 'Berffro, pan y cafodd ei awdl i'r "Greadigaeth" ei dyfarnu yn oreu. Bu yn dra llwyddiannus fel ymgeisydd Eisteddfodol. Efe a enillodd y gamp ar y bryddest i "Brennus" yn Llangollen; "Yr Eneiniog" yn Ninbych; a "Moses" yn Nghaernarfon. Cyfansoddodd lyfr gwerthfawr ar "Y Dwyfol Oraclau; "Y Flwyddyn Eglwysig; "<ref>Ymddanghosodd adolygiad pur lym ar "Y Flwyddyn Eglwysig " yn y Traethodydd am 1846. Dywed yr adolygydd:—"Tuagat yr awdwr ei hun nid oes genym ond teimladau o garedigrwydd ac ewyllys da, eto yn gymysgedig â thosturi wrth weled un o'i dalentau ef, oddiwrth yr hwn y disgwyliem bethau gwell, wedi ei lithio mor bell gan y surdoes Puseyaidd." Ac ymhellach,—"Yn mlith meib yr awen, ystyrir yr awdwr yn fardd o gryn enwogrwydd, ac yn deilwng o efelychiad." Ond y mae yn condemnio ei emynau'n ddiarbed, ac yn enwedig ei emyn dan y penawd," Boreu Sul."—

"Rhedodd fy wythnos bron i gyd
Yn ngwaith y byd a'i gynwr';
Breuddwydiais, hefyd, drwy y nos,
Am waith yr wythnos, neithiwr.

"Ond heddyw torodd gwawr y Sul,
Trwy ffenestr gul f'ystafell;
O nef fy Nuw y daeth yn rhodd,
A'm bwth a drodd yn gangell."

Am y llinell sydd yn darlunio y "ffenestr gul," dywed yr adolygydd,—"Os yw tywyllwch sydd i'w ganfod yn amryw ranau o'r llyfr yn brawf digonol, gellid meddwl fod ffenestr ystafell ein bardd yn gul iawn, rywbeth yn debyg i ffenestri hen dai gynt, pan oedd heidiau o williaid yn llenwi y wlad, neu rwyll yn ystlys cell meudwy, ac nad oes ond ychydig iawn o oleuni yn dyfod ato. Er hyny, mae yn canu yn dra darluniadol." Ond ni ddigiodd wrth ei feirniaid, nac wrth y Traethodydd ychwaith. Yn y cyhoeddiad clodfawr hwnw yr ymddangosodd ei gyfaddasiad barddonol penigamp o ddamhegion Esop.<ref> ysgrifenodd gannoedd o erthyglau ac englynion i Gronicl Cymru; troes ddamhegion Esop ar gan; ac y mae ei ohebiaethau at Eben Fardd, ac eraill, yn mysg y pethau mwyaf doniol yn yr iaith.

Nid oedd yn bregethwr mawr, nac yn ym—adroddwr hyawdl, ond yr oedd, yn ei ddydd, yn un o ysgrifenwyr goreu y Gymraeg. Da fyddai genym weled rhywun yn rhoi adgyfodiad i rai o ysgrifau Nicander, yn enwedig ei ohebiaethau llenyddol i Gronicl diddan y dyddiau gynt.

II.

DEFFROWYD fi o'm dydd—freuddwyd. Clywais lais rhyw—un o borth y fynwent yn gofyn,—

Oes arnoch chi isio gwel'd yr eglwys? Mi fedra i gael y 'goriad rhag blaen.

"Na, diolch i chi, mae yr hyn y daethum i'w weled heddyw yn y fynwent,—beddrod Nicander. A ydych yn ei gofio ef?"

"Mi glywas am dano, ond 'doeddwn i ddim yn byw ffordd yma pan oedd o yn berson y plwy "—a diflanodd o'm golwg.

Aethum i rodio yn mysg y beddau. Ychydig, mewn cymhariaeth, ydyw nifer y beddfeini a'r colofnau yn y fynwent hon. Y mae yma lawer "twmpath gwyrddlas," heb ddim cofnod i ddweyd hanes y marw. Chwiliais am englynion o eiddo Nicander, ond un yn unig a welais, ar fedd genethig ddeuddeg oed, yr hon fu farw yn 1864, ddeng mlynedd o flaen y bardd. Dyma fe:—

"Dros dro, mae'n huno mewn hedd,—yn dawel
Yn y duoer geufedd;
Daw drwy wyrth o byrth y bedd,
I felus fro gorfoledd."

Yn ymyl mur y fynwent, ar yr ochr sy'n gwynebu y môr, mae beddrod tri o forwyr, y rhai a foddwyd yn mis Tachwedd, 1811. Gerllaw iddynt y mae beddrod cadben llong—yr Osprey, o Lerpwl. Bu yntau foddi ar y noson gyntaf o Ebrill, 1853, tra yn ceisio glanio mewn bad yn y Borthwen. Yr oedd y llong wedi ei rhedeg i lawr yn oriau'r nos gan yr ysgwner Anne & Mary, o Aberteifi, ac y mae y geiriau a ganlyn wedi eu cerfio ar y gareg fedd,—

If the captain of the Anne & Mary had the humanity to lie by the
poor sufferers for a short time, it is thought their lives would be saved."

Ac yna ceir y penill hwn,—

"Dros donau heilltion moriais,
A hwyliais uwch y lli,
Trwy 'stormydd a thymestloedd,
Ar foroedd aethum i;
A thyma'r fan gorweddaf,
Mi gysgaf hun mewn hedd,
Hyd foreu'r adgyfodiad
Yn dawel yn fy medd."

Y mae y fynwent hon yn aneddle lonydd, er ei bod i raddau yn noethlwn a diaddurn. Nid oes yma yr un "ywen ddu ganghenog" yn dyst o oesau a fu; ni welir yma yr un helygen wylofus yn crymu uwchben y bedd, ond y mae cysgod mynydd y Garn yn tori grym ystormydd y gauaf, a swn y tonau yn y gwaelodion fel dyhuddgan hiraeth—fel cwyn coll.

Careg brydferth, seml, sydd yn noddi hunell Nicander, ac y mae tywod a chregin wedi eu dodi ar y bedd. Gorphwysodd y bardd oddiwrth ei lafur yn mis Ionawr, 1874. Gerllaw iddo, y mae croes fechan yn dynodi gorweddfa "Dorothy," merch fechan ei fab, yr hon fu farw yn ddeng mlwydd oed. Tyf y fil-ddail, y feillionen goch, a llygad y dydd oddeutu'r llanerch, a sua'r awel yn y glaswellt îr. Felly y mae oreu. Ceinion natur, yn hytrach nac addurn celfyddyd, ddylai gael prydferthu gorweddfa'r bardd. Gwena'r grug ar ymylon y fynwent. Gwelir bwthyn clyd, gwyngalchog, ar y llechwedd, a chlywir lleisiau iach y plant ar eu hynt i hel mwyar duon ar y twmpathau. Tywyna heulwen Medi ar fynydd y Tŵr yn y pellder, symuda cysgodion y cymylau Llwyd-wyn ar donau'r môr. Ac yma y gorphwys yr hyn oedd farwol o Nicander, " hyd oni wawrio y dydd, a chilio o'r cysgodau."

Tra yn sefyll ar y llecyn cysegredig, meddyliwn am linellau Islwyn, y rhai a gyfansoddwyd yn mhen ychydig ddyddiau ar ol clywed am farw'r bardd,—

"A gaf fi mwyach gu ofwyo Mon,
Gaiff cwmwl f'hiraeth oeri uwch dy fedd?
Gar fi goffhau dy felus awdlau,—son
Am d'oes o ddysg, ac am dy oes o hedd?
Gyferbyn gwelaf rosyn gloew ei fri,
A phlanaf ef ar fedd dy dangnef di.

"O Fynwy mynaf ofwy at dy fedd,
Caiff blodau Mynwy wylo gwlithion Mon
Bob boreu ar dy lwch, tra angel hedd
Yn cwyno gyda'r sêr, ar dyner dôn:
Ffarwel, Nicander hoff! Cawn gwrdd yn nghyd,
Mi wn, o gylch y bwrdd mewn gloewach byd."

Bellach, y mae'r ddau awenydd,—Nicander lawenfryd, ac Islwyn brudd-dyner, wedi cwrdd mewn "gloewach byd." Anwylwn eu coffadwriaeth. Melus fo eu hun,—y naill ar fynydd Islwyn, a'r llall yn y fynwent yn ymyl y môr.

Nodiadau golygu