Oriau yn y Wlad/Pont Cwmanog
← Yr Hen Gymydogaeth | Oriau yn y Wlad gan Robert David Rowland (Anthropos) |
Haf-daith yn Lleyn → |
PONT CWMANOG.
FRO Geirionydd! cartref swyn,
Pa le mor fwyn i brydydd?
Llwyni deiliog, bryniau derch,
A llawer llanerch lonydd;
O flwydd i flwydd, mae'r wynfa dlos
Yn aros byth yn newydd.
Melus dianc enyd bach,
O'r ddinas afiach, drystiog,
Melus crwydro'r dedwydd dir,
Ar ddiwrnod clir, awelog,
A melus gorphwys, dan lâs nen
Ger hen bont bren Cwmanog.
Llithro mae y tawel li
O dani tua'r eigion,
Ac yna, yn y graian mân
Mae'n canu mwyn acenion;
A llawer pren canghenog, ir,
Ddelweddir yn ei ddwyfron
Siarad am y dyddiau fu,
Mae su y dŵr grisialog,
Dyddiau IEUAN gu ei gân,
Pan grwydrai'r glanau gwelltog,—
Cyn clywed rhu'r "Iorddonen ddofn "
Ac ofn ei dyfroedd tonog.
Ieuan fardd! dy gân, dy gŵyn,
Sy'n meddu swyn yr hafddydd,
Sibrwd sain dy enw di
Mae gloew li Geirionydd,
A chyd-ymdeithio oesau i ddod,
Wna'r ffrwd a chlod ei phrydydd
O dawel, gysegredig fan,
Wyt anwyl i'r awenydd,
Ac er i amser dynu'r llen
Dros gân ac enw'r prydydd,
Fe'th gedwir di, a'r hen bont bren,
Ar leni yr arlunydd.
Anwyl Gymru! cartref cain
Y mirain a'r mawreddog,
Hyfryd ydyw crwydro'n rhydd
Ar hyd dy froydd goludog;
A melus gorphwys dan lâs nen,
Ger hen bont bren Cwmanog.