Os ydwyf wael fy llun a'm lliw
← Does neb ond Ef, fy Iesu hardd | Os ydwyf wael fy llun a'm lliw gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) |
Pan sycho'r moroedd dyfnion maith → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
116[1] Cadarn i Iacháu.
M. C.
1 OS ydwyf wael fy llun a'm lliw,
Os nad yw 'mriw'n gwellhau,
Af at y Meddyg mawr ei fri,
Sy'n gadarn i iacháu.
2 O'm pen i'm traed 'r wy'n glwyfus oll,
Pob archoll yn dyfnhau:
Neb ond y Meddyg da i mi,
Sy'n gadarn i iacháu.
3 Os wyf heb rym i ddim sy dda,
Dan bwys fy mhla'n llesgáu,
Rhydd Iesu gryfder i'r di-rym;
Mae'n gadarn i'm iacháu.
4 O ddydd i ddydd caf nerth i ddal;
Mae'i ras yn amalhau :
Am hyn, nid anobeithiaf ddim,
Mae'n gadarn i'm iacháu.
Ebenezer Thomas (Eben Fardd)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 116, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930