Does neb ond Ef, fy Iesu hardd
← Mi af ymlaen yn nerth y nef | Mor beraidd i'r credadun gwan gan William Edwards, Bala |
Os ydwyf wael fy llun a'm lliw → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
115[1] Golwg ar Groes Crist.
M. C.
1.DOES neb ond Ef, fy Iesu hardd,
A ddichon lanw 'mryd;
Fy holl gysuron byth a dardd
O'i ddirfawr angau drud.
2.'D oes dim yn gwir ddifyrru f'oes
Helbulus yn y byd
Ond golwg mynych ar y groes,
Lle talwyd Iawn mewn pryd.
3.Mi welaf le mewn marwol glwy'
I'r euog guddio'i ben;
Ac yma llechaf nes mynd trwy
Bob aflwydd is y nen.
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 115, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930