Pan hoeliwyd Iesu ar y pren

Er maint yw chwerw boen y byd Pan hoeliwyd Iesu ar y pren

gan David Jones, Treborth

Na foed i'm henaid euog trist
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
Crist wedi ei Groeshoelio. Eglwys Ein Morwyn o'r Saith Gofid, Dolgellau

121[1] Gorffennwyd.
M. S.

1 PAN hoeliwyd Iesu ar y pren,
Yr haul uwchben dywyllwyd;
Ond wele! yn y twllwch mawr
Daeth gwawr o'r gair "Gorffennwyd!"

2 Pryd y croeshoeliwyd Iesu cu,
Pyrth uffern ddu a lonnwyd;
Ond trodd y pyrth i siomiant trist
Pan lefodd Crist "Gorffennwyd!"

3 Pryd y dechreuodd Crist dristáu,
Telynau'r nef ostegwyd;
Ond dyblodd cân y drydedd nef
Pan lefodd Ef "Gorffennwyd!"

4 Holl lafur Crist trwy boenus daith
A'i galed waith ddibennwyd,
Pan roes, â'i olaf anadl gref,
Yr uchel lef "Gorffennwyd!

5 Mae Duw yn maddau a glanhau
Yn angau'r Oen a laddwyd;
A dyma waith efengyl gref—
Atseinio'r llef "Gorffennwyd!"

David Jones, Treborth

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 121, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930