Na foed i'm henaid euog trist

Pan hoeliwyd Iesu ar y pren Na foed i'm henaid euog trist

gan Robert Owen (Eyron Gwyllt Walia)

Mae enw Crist i bawb o'r saint
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930

122[1] Digonolrwydd Aberth Crist.
M. S.

1 NA foed i'm henaid euog trist
Ond haeddiant Crist yn gyfran;
Ei aberth Ef, llawn ddigon yw
I feddwl Duw ei Hunan.


2 Os daw cydwybod lawn o dân,
Cyfiawnder glân, a'r gyfraith,
I'm gofyn mwy, fy ateb llawn
Yw'r Iawn a dalwyd unwaith.

3 Pwy draetha'n llawn ddyfnderoedd gwerth
Yr aberth a'i fendithion?
I ddyn caed heddwch nef yn ôl,
A Duw'n dragwyddol fodlon.

4 Rhyfeddir byth y geni'n dlawd,
Y byw dan wawd a chroesau,
Y dioddef cosb heb unrhyw fai,
A'r ufuddhau heb rwymau.

5 Yr uchel gân fydd "Iddo Ef! "
Trwy nef y nef yn seinio:
Yr ing, yr Iawn, a'r gwaedlyd chwys,
A felys gofir yno.


—Robert Owen (Eyron Gwyllt Walia)

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 122, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930