Patrymau Gwlad/Canu Gwreiddiol
← Loes Hen Gymro | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Rhodres → |
CANU GWREIDDIOL
TYNNAL beirdd ein bro un adeg
Eu hysbrydiaeth oll ymron
Nid o anian, ond Gramadeg
Mawr Syr John.
Pe rhagwelsai'r Marchog hynny
Buasai'i groen i gyd yn ddrain,
Rhoisai'i gampwaith dysg i fyny
A rhoi siawns i'r beirddion brynu
Ei Ganiadau cain;
Ac ni chawsai weld yn nychu.
Lawer cymhleth gân,
Heb wlith awen yn ei gwlychu,
Swp o wreiddiau wedi sychu:
Stwff at ddechrau tân.