Patrymau Gwlad/Rhodres
← Canu Gwreiddiol | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Barn Ymwelydd → |
RHODRES
PAN ddelo i "gwmni parchus"
Hen Gymro uniaith ofnus,
Ni thrônt, er medru iaith eu gwlad,
I'w siarad yn gysurus.
Ond pan ddêl Sais neu Saesnes
I gwrdd o "Gymry cynnes,"
Troi i'r Iaith Fain mae rhain yn rhwydd
O reidrwydd rhemp eu rhodres.