Patrymau Gwlad/Diwygio Ein Diwygwyr
← Y Bardd a'i Waith | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Mwy Na Thâl → |
DIWYGIO EIN DIWYGWYR
MAE'N gwlad o hyd yn heigio o ddiwygwyr
Mewn crefydd a gwleidyddiaeth, moes ac iaith,
Mae ganddynt, un ac oll, eu brwd edmygwyr
I groch utganu eu diwygiadol waith;
Ond gwêl y doeth o'r diwedd mai hymbygwyr
Ydynt gan mwyaf, er y moli maith
Sydd arnynt; mynnwn amgen goleuadau
Na hud-lewyrnod gwelw ein diwygiadau.