Patrymau Gwlad/Mwy Na Thâl
← Diwygio Ein Diwygwyr | Patrymau Gwlad gan Thomas Jacob Thomas (Sarnicol) |
Ysgubwr y Stryd → |
MWY NA THÂL
Er ei helpu i aredig,
Hau, a chasglu'r ŷd,
Nid efo a fu'n garedig
Wrthyf, eto i gyd.
Do, fe'i helpais, er na syniais
Fod ei gof mor sâl;
Ond, os rhoed im well, derbyniais
Fwy na thâl.