Per fydd dy gofio, Iesu da

Rhyw ŵr—rhyfeddol ŵr yw Ef Per fydd dy gofio, Iesu da

gan Bernard o Clairvaux


wedi'i gyfieithu gan Thomas Gwynn Jones
Hwn yw yr hyfryd fore ddydd
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
Sant Bernard o Clairvaux

137[1] Melys Cofio Iesu.
M. H.

1 PER fydd dy gofio, Iesu da,
A'r galon drist a lawenha;
Na'r mêl a'r mwynder o bob rhyw
Bod gyda Thi melysach yw.

2 Ni chenir cân bereiddiach ryw,
Nid mwynach dim a glywo clyw;
Melysach bryd ni wybydd dyn
Nag Iesu Unmab Duw ei Hun.


3 Ti obaith edifeiriol rai,
Ti wrth gyfeiliorn drugarhai;
A'th geisio, da wyt iddynt hwy,
I'r rhai a'th gaffo, gymaint mwy!

4 Ni ddywaid tafod yn y byd,
Nac iaith ysgrifen ynddo i gyd,
O'th ddilyn Di pa beth yw'r fraint :
A brofodd hyn a ŵyr ei faint.

5 Goleuni, pwyll, llawenydd bryd,
A ffynnon wyt i'r gwir i gyd;
Mwy wyt na phob boddhad dy Hun,
A mwy na holl ddymuniad dyn.

6 Dymunaf fil o weithiau Di:
Pa bryd y deui ataf fi?
Pa bryd y doi i'm llawenhau,
A'th roi dy Hun i'm llwyr foddhau?

St. Bernard, cyf. Thomas Gwynn Jones.

Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 137, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930