Prif Feirdd Eifionydd/Dewi Wyn o Eifion
← Annerch i Thomas Gwynedd | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Elusengarwch → |
DEWI WYN O EIFION.
DEWI WYN O EIFION
"Enaid awen yw Dewi,
Yn flaenaf y dodaf di."
—Pedr Fardd.
DYMA fardd arall a wnaeth Eifionydd yn enwog. Dodir Dewi Wyn bob amser yn rheng flaenaf beirdd Cymru. Mae yn anfarwol am fod ei waith yn anfarwol. Mae y rhan fwyaf o'i waith yn rhy anodd i chwi'r plant ei ddeall; ond o ddarllen yr hyn sydd yn llyfr yma cewch yn sicr ddigon o flas arno i wneud i chwi benderfynu darllen ei waith i gyd os cewch fyw i ddod yn ddigon hen i'w ddeall.
Mab i Owen Dafydd y Gaerwen oedd Dafydd Owen (Dewi Wyn). Saif y Gaerwen ym mhlwyf Llanystumdwy, ryw ychydig i'r gorllewin o orsaf yr Ynys, a bydd y lle yn enwog byth am mai yno y ganwyd Dewi Wyn; yno hefyd y bu yn byw y rhan fwyaf o'i oes, ac yno y bu farw.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1784, a bedyddiwyd ef yn eglwys Llanystumdwy. Ni cheir fawr o hanes ei rieni, ond dywedir fod ei fam yn wraig dalentog, ac fel y dywedodd rhywun," Mae mam dda yn well na chant o ysgolfeistri."
Bu Dewi Wyn yn yr ysgol gyda William Roberts yn Llangybi, a chydag Isaac Morris yn Llanarmon, ac wedi hynny yn Llanystumdwy a Phenmorfa.
Pan oedd yn yr ysgol ym Mhenmorfa, achwynodd bachgen, o'r enw Richard Morris, arno wrth ei athro, a chanodd Dewi iddo fel hyn:—
"Dic Morus, fradus, di-fri,—hen chwannen
Yn chwennych drygioni;
Y gwar cam a'r garrau ci,
Y grigwd, fe haeddai 'i grogi."
Nid oedd yr adeg yma ond deuddeg oed, a champ go lew i un mewn oed, heb son am blentyn, fuasai gwneud englyn digrif fel yr uchod.
Bachgen difrif a gweithiwr caled oedd Dewi yn yr ysgol, ac ystyriai y plant ef yn un galluog iawn ac yn ben arnynt oll. Yr oedd hefyd yn fachgen dewr ac yn arwr gan y bechgyn.
Ar ol ei gwrs addysg yn yr ysgolion enwyd, anfonwyd ef i ysgol ym Mangor-is-y-coed i orffen ei addysg. Wedi hynny daeth adref at ei rieni i'r Gaerwen i amaethu, a dyna lle bu, am y rhan fwyaf o'i oes, yn
"Amaethon boddlon a bardd,"
ac amaethwr llwyddiannus iawn oedd.
Parhaodd i ddarllen ac astudio, a rhoddodd sylw arbennig i rifyddiaeth, cerddoriaeth a hanes. Ond barddoniaeth oedd ei hoff bwnc, a dywed ei hun yn Awdl Amaethyddiaeth:—
Mynnai awen am ennyd,
Fy nghael i'w gafael i gyd."
Yr oedd i Ddewi Wyn frawd o'r enw Owen yn siopwr ym Mhwllheli. Collodd ei frawd ei iechyd a symudodd Dewi a'i fam ato i fyw. Bu Dewi Wyn yno am ddeng mlynedd, hyd nes marw ei frawd, ac yna dychwelodd i'r Gaerwen, lle bu byw hyd ddiwedd ei oes.
Sylwais o'r blaen ei fod yn prydyddu pan yn ddeuddeg oed, ac yn yr oedran ieuanc yma y cyfansoddodd "Gywydd y Farn"; ac nid oedd ond un-ar- bymtheg oed pan gyfansoddodd gywydd rhagorol ar "Fawredd Jehofa." Pan yn un-ar-hugain oed aeth son am dano drwy Gymru, drwy iddo ennill gwobr y Gwyneddigion am Awdl ar "Folawd Ynys Prydain." Yn fuan ar ol hyn enillodd wobr yn Thremadog am Awdl ar Amaethyddiaeth.
Yn y flwyddyn 1819 cyfansoddodd ei orchestwaith, sef Awdl ar "Elusengarwch," testyn Eisteddfod Dinbych.
Yn y flwyddyn 1820 cyfansoddodd "Awdl y Gweithwyr" yn yr hon y cyfeiria at Mr. Maughan a wnaeth ffordd newydd drwy ganol Eifionydd o Ffriwlyd i gyfeiriad Mynydd Cenin, ac a blannodd goed bob ochr iddi. Gelwir y ffordd yn "Ffordd Maughan "neu "Y Lôn Goed." Diwedda yr Awdl fel hyn:—
"A da'r cof wedi'r cyfan,
Maughan am goed,—minnau am gan."
Yr oedd Dewi Wyn yn nodedig o ffraeth ac yn hynod am ei atebion pert. Dyma i chwi ryw ychydig o enghreifftiau; hwyrach y byddant yn help i rai ohonoch wneud pennill neu wau cynghanedd. Yr oedd ganddo gi, o'r enw Pero, oedd yn hoff iawn o fwyta mwyar duon, a chanodd Dewi fel hyn iddo :—
"Mae Pero laes ei gynffon
Yn hela'r mwyar duon,
Gan feddwl mynd ond bod yn lew
Yn dew ar fwyar duon.
Pe byddai'r ynfyd gwirion,
Yn gwyro i hel llygeirion,
Fe ai yn llyfn ei flewyn llwyd,
Wrth fwyta bwyd bon'ddigion."
Un tro yr oedd Lewis Tomos yr hwsmon a Dewi Wyn yn y drol yn myned i nol mawn, a bachgen o'r enw Wmffra Owen yn certio. Aeth y gwas bach a'r drol yn erbyn cilbost adwy. Dwrdiai yr hwsmon yn enbyd, a'r gwas bach amddiffynnai ei hun; a Dewi, wrth wrando, ddywedodd fel hyn:—
"Mae Lewis, ddyn aflawen,
Am ffrae ag Wmffra Owen;
'Rwyf mewn ofn, a dweyd y gwir,
Y curant yn y Gaerwen."
Unwaith gofynnai i was, o'r enw Wil Parri, a oedd wedi gorffen rhyw waith, a phan atebodd hwnnw, dywedodd Dewi:—
"Wele purion Wil Parri
Gonest iawn a da gwneist ti."
Dywedai un o'r gweision ryw dro ar ddiwedd y cynhaeaf:—
"Y gwair a'r ŷd i gyd a gawd."
Ac ebe Dewi;—"Ie, ond bod
"Eisiau 'i ddyrnu a'i falu'n flawd,
A'i bobi'n fara i fagu cnawd."
Nid yw yr uchod ond ychydig o enghreifftiau i ddangos mor ddoniol a pharod ei atebion oedd y bardd.
Fel hyn y byddai Dewi yn ymddifyrru gyda'r gweision wrth gario mawn a lladd gwair a gweithio ar y fferm. Byddai ei feddwl weithiau mor llwyr ar farddoniaeth fel yr anghofiai ei hun. Un tro yr oedd wedi bod yn torri cawellaid o wellt medi, ac yr oedd ar ganol y grisiau yn y ty, yn myned i fyny i'r llofft a'r cawell ar ei gefn, pan waeddodd ei fam arno, "I b'le rwyt ti yn meddwl mynd?"
Gallech feddwl oddiwrth yr hanesion uchod nad oedd dim neilltuol ynddo mwy nag amaethwr arall ond ei fod yn dra doniol a ffraeth.
Ond pan gofiwch am ei awdlau godidog, gwelwch ei fod yn fardd tra enwog. Dyma ddywedodd Islwyn am dano, "Uchelfardd Eifion, genius mwyaf hil Gomer yn ol fy marn i." A dyna farn llawer heblaw Islwyn. Clywch hefyd fel y canodd Hiraethog am dano:—
"Ni wiw i Fôn am Oronwy
Owen mawr, i wneud son mwy;
Owen y Gaerwen gurawdd
Ei Howen hi'n ddigon hawdd.
O ni bu gan neb Owen
Gu erioed fel y Gaer wen!
Na Dewi chwaith—dweda'i chwi
Ar y gŵr wnai ragori;
Na Gwyn na Du, gwn nad oedd,
Allasai drwy'r holl oesoedd
Guro hwn, rwy'n gwir honni—
Un iawn oedd 'y Newi Wyn i!"
Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, ac yr oedd i'w feddwl nerth angherddol. Yr oedd ei sylwadau yn glir ac yn wreiddiol ar bob pwnc, ac yr oedd ymhell uwchlaw'r cyffredin ym mhob peth.
Yr oedd yn ddyn gonest a hael ac yn garedig iawn wrth y tlawd. Os am wybod y cwbl am dano, mynnwch gael traethawd Myrddin Fardd arno.
Nid oes dim a ddengys fawredd bardd yn well na'r lle gaiff ei ymadroddion yng nghof ei genedl. Ni ddyfynnir dywediadau yr un bardd yn amlach na rhai Dewi Wyn. Maent erbyn hyn megis diarhebion. Dyma i chwi rai ohonynt :—
I herio unrhyw un wrthbrofi'r hyn a ddywedir, defnyddir y llinellau hyn:—
"A wado hyn aed a hi,
A gwaded i'r haul godi."
Oni ddesgrifir y natur ddynol yn aml iawn gyda'r llinellau:—
"A phawb yn gall ac yn ffôl,
A ddygymydd a'i ga'mol?"
Cysurir y claf yn aml iawn trwy ddywedyd :—
"Gwybydd, dan law Dofydd Dad,
Nad yw cerydd ond cariad;
Yna o'i law, anwyl Iôn,
Wedi cerydd daw coron.'
Disgrifiwyd cyni'r tlawd filoedd o weithiau gyda'r geiriau hyn:—
Dwyn ei geiniog dan gwynaw,
Rhoi angen un rhwng y naw."
Bu farw nawn Sul, Ionawr 17eg, 1841, a chladdwyd ef ym mynwent Llangybi. Dywed Eben Fardd yn ei Gywydd i Langybi:—
Dyna fedd Dewi Wyn a fu—ben bardd
Heb neb uwch yng Nghymru;
Ond p'le mae adsain cain, cu,
Tinc enaid Dewi 'n canu."
Ar garreg ei fedd mae'r llinellau canlynol, o waith Ioan Madog, wedi eu cerfio:—
"Sain ei gain odlau synnai genhedloedd;
Hir fydd llewyrch ei ryfedd alluoedd;
Oeswr a phen Seraph oedd !—pen campwr,
Ac Amherawdwr beirdd Cymru ydoedd."