Prif Feirdd Eifionydd/O am râs i garu Iesu

Er nad wyf fi ond plentyn Prif Feirdd Eifionydd

gan Edward David Rowlands

Mae gennyf ddigon yn y nef

Caru'r Iesu.

O AM râs i garu Iesu,
Ac i wrandaw ar Ei lais—
I roi parch i'w orchymynion,
Ac i wneud pob peth a gais!
Gwyliwn wneuthur dim i'w ddigio,
Gan Ei fod yn un mor fwyn;
Gan Ei fod i ni yn fugail,
Byddwn ninnau iddo'n ŵyn.

O! mae Iesu'n fil mwy tirion
Nag yw tad, na mam, na brawd;
Er ein mwyn ac E'n gyfoethog,
O'i wir fodd fe ddaeth yn dlawd;
Boed i ninnau erddo yntau,
Yma'n dawel ddwyn y groes;
Na adawn ein Iesu tyner
Dros in' fynd dan lawer loes.

O! mae Iesu'n well na'r cyfan,
Yn y byd, ac yn y nef;
Ar ddeng mil y mae'n rhagori—
Rhosyn Saron ydyw ef:
Fe all ddod i galon plentyn
A bod yno'n byw o hyd,
A rhoi inni fwy llawenydd
Na holl bethau goreu'r byd.

—EBEN FARDD.


Nodiadau

golygu