Prif Feirdd Eifionydd/Pedr Fardd
← Ffon y bardd | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Hynafiaid y Cymry → |
PEDR FARDD.
"Pedr Fardd pa awdwr fu
Mwy anwyl i emynu?"
—R. AP GWILYM DDU.
UN o'r penillion cyntaf a ddysgir gan blant Cymru yw yr un sydd yn dechreu gyda'r llinell brydferth,—
"Cysegrwn flaenffrwyth ddyddiau'n hoes,"
ac y mae ganddo y fath afael arnom fel y'i cenir gyda hwyl gan hen bobl, fel pe heb feddwl ei ystyr.
Eifionydd eto biau awdur yr emyn sydd yn dechreu gyda'r pennill nodir uchod, sef Pedr Fardd.
Ganwyd Peter Jones (Pedr Fardd) yn y flwyddyn 1775, mewn bwthyn diaddurn o'r enw Tan yr Ogof, ar ochr Carn Dolbenmaen. Pan oedd yn blentyn ieuanc symudodd ei rieni i fyw i Fryn Engan, ac oddi- yno drachefn i Langybi.
Dywedir fod ei dad yn brydydd pur dda, a bu hynny yn fantais i'r plentyn i ddysgu rheolau barddoniaeth. Dywed ei hunan yn ei annerch i Ddewi Wyn a Robert ap Gwilym Ddu:—
"Rhyw anghelfydd brydydd brau
O Eifionydd wyf finnau,
A phrydydd hoff ei rediad
Addfwyn, o hon, oedd fy nhad."
Yr oedd ynddo chwaeth at farddoniaeth pan yn blentyn. Dywedir iddo wneud yr englyn canlynol i'w chwaer pan yn bur ieuanc:—
Fy chwaer sydd ferch daer a dig,—un 'stormus
Rhyw sturmant anniddig;
Er bwrw ia a barrig,
Myn hon gael menyn neu gig."
Mae yn debyg i'w chwaer ei anfon i geisio enllyn—menyn neu gig, ar ddrycin oer yn y gaeaf.
Galwodd Dafydd Ddu Eryri yn nhy ei dad pan oedd y bardd tua phymtheg oed, a gofynnodd iddo wneud englyn i'r mis, sef mis Ionawr. Gwnaeth yntau yr englyn hwn:—
"Och! Ionawr, aml ochenaid,—o'th achos
A thuchan wna'r gweiniaid;
Cwyno herwydd ia cannaid,
Oer hin, a rhew blin, wna'r blaid."
Pan tua phump ar hugain oed symudodd i Lerpwl, a dyna lle treuliodd weddill ei oes.
Daliodd ar bob cyfleustra i ddiwyllio ei hunan, a daeth yn ysgolhaig gwych. Yna aeth i gadw ysgol; ond mae yn debyg y buasai yn well ganddo gael hamdden a thawelwch i farddoni, na bod yn Ysgolfeistr. Dyma fel y dywed yn ei annerch i Wilym Aled:—
"Och yn f'einioes na chawn fwyniant,—ysgol
A wasgai fardd methiant;
Gyda blin giwed o blant,
Egwan weithiau y'm gwnaethant.
"Lleisiau ni ewyllysiwn,—i'm dotiaw
O'm deutu fel cacwn;
Boddi mewn nadau byddwn,
Nychais i gan wich a swn.
"Gwaeddi A, B, mawr gri mor groes,—hyll wbain,
A sillebu trachroes;
I'm pen yr acen a roes
Hallt ias a holltau eisioes.
"O'r dwndwr a'r syfrdandod—y mynych
Ddymunais ryw gysgod;
Nid oes bardd yn dewis bod,
Yn nirfawr swn annorfod."
A fuoch chwi erioed yn meddwl fel y bydd "blin giwed o blant" yn poeni athro; a'r "nychu sydd gan wich a swn" pan yng nghanol eich dwndwr?
Mae yn debyg fod ar Pedr Fardd hiraeth am ardal ei febyd yn aml. Yn ei anerchiad i'w gyfeillion yn Eifionydd dywed:—
"Fy hen serchog fryniog fro,
Ni chaf ond prin ei chofio.
Aeth y Garn ymaith o gôf—
Bryn Engan bron i anghof:
Ac nid oes am oes i mi
Un gobaith am Langybi.
Fy enaid am Eifionydd
Mewn hiraeth ysywaeth sydd."
Pa ryfedd i fardd yng nghanol "crochlef yr holl dref draw" hiraethu am fryniau a llethrau Eifionydd, ardal nad oes ei phrydferthach yng Nghymru.
Y mae Pedr Fardd yn enwog fel crefyddwr, bardd a llenor. Bu yn flaenor yn eglwys y Methodistiaid, Pall Mall, Lerpwl, am dros ddeugain mlynedd.
Enillodd amryw o wobrwyon mewn Eisteddfodau, ac yn eu mysg y wobr am awdl ar "Roddiad y Ddeddf " yn Eisteddfod Aberhonddu yn y flwyddyn 1826.
Cyhoeddodd ei waith barddonol yn llyfr, a elwir "Mel Awen." Mae ei emynau ymysg goreuon yr iaith, a bydd ei enw yn fyw tra cenir emynau Cymraeg. Bu farw yn y flwyddyn 1845.