Prif Feirdd Eifionydd/Rhagair
← Prif Feirdd Eifionydd | Prif Feirdd Eifionydd gan Edward David Rowlands |
Cynhwysiad → |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Prif Feirdd Eifionydd (testun cyfansawdd) |
Rhagair.
MAE yn debyg nad oes ardal yng Nghymru gyfoethocach ei llenyddiaeth nag Eifionydd. Ond ychydig o gyfle gafodd ieuenctid yr ardal i astudio ei llenyddiaeth hyd yn ddiweddar. Ni roddid lle i'r pwnc yma. yn ysgolion y wlad, a dyna pam y mae llenyddiaeth Cymru mor ddieithr i lawer o'i phlant.
Ond o'r diwedd torrodd y wawr, ac y mae yr awr anterth yn prysur neshau. Rhoddir lle amlwg i lenyddiaeth Cymru ymhob ysgol deilwng o'r enw, drwy y wlad.
Fel prif-athro un o ysgolion Eifionydd, teimlwn. angen am lyfr i'r plant yn rhoddi ychydig o hanes y Prif-feirdd a detholion o'u gweithiau.
Felly i ysgolion a ieuenctid Eifionydd, yn bennaf, y darparwyd y llyfr yma; ond mae'r beirdd yn fwy na beirdd ardal, maent yn feirdd Cymru, a hyderaf y bydd y llyfr o ryw wasanaeth i lawer ardal heblaw Eifionydd.
Gwyr pob un a phrofiad ganddo mai gwaith anodd yw ysgrifennu i blant. Ceisiais roddi yr hanes yn syml fel y gallai y plant ei ddeall. Mae amryw o'r detholion yn rhy anodd i'r plant eu deall eu hunain; ond bwriadwn i'r cyfryw gael eu hegluro gan yr athrawon.
Gwelir fy mod wedi dilyn yr un orgraff, hyd y gallwn, yn y detholion ag a wnaethum yn yr hanes. Gwnawn hyn rhag dyrysu'r plant a pheri anhawster ynglyn a sillebu.
Mae y bennod ar y Cynganeddion ar yr un cynllun a'r un sydd yn y llawlyfr Awdl Dinistr Jerusalem " gan Mr. Lias Davies, Gwrecsam.
Mae fy nyled yn fawr i Myrddin Fardd am ddarnau anghyhoeddedig o waith Eben Fardd ac ereill, ac am lawer o gynorthwy.
Dymunaf ddiolch o galon i Mr. William George, Mr. D. H. Davies, Yr Orsedd Fawr, a Mr. E. Jones Griffith, Pwllheli, am ddarllen y Llawysgrif dros bwyllgor Eisteddfod Eifionydd, gan y trefnid arholiad ar y llyfr cyn y deuai o'r wasg; hefyd i Mr. L. D. Jones (Llew Tegid) am daflu golwg dros y Llawysgrif; ac i Mr. W. Glynn Williams, M.A., am ddarlun o'i dad, Nicander.
Felly, gyda llawer o bryder, cyflwynaf fy llyfr i ysgolion ac i ieuenctid fy ngwlad.
- E. D. ROWLANDS.
- CHWILOG,
- Alban Hefin, 1914.
- CHWILOG,