Pryd y caf, O! Arglwydd Iesu
← Y peraidd dir hyfrydlon | Pryd y caf, O! Arglwydd Iesu gan Daniel Rowland |
Rwy'n caru enw'r hyfryd wlad → |
674[1] Hiraeth am y Nef.
8. 33. 6.
1 PRYD y caf, O! Arglwydd Iesu,
Hyfryd le
Yn y ne'
Gennyt i drigiannu?
2 Pryd y caf fi ganu yng Nghanaan,
Lle nid oes
Poen na loes?
O! mor deg yw'r drigfan!
3 Pryd y caf fi, Arglwydd, ddirnad
Beth yw bod
Dan dy nod-
Gorwedd yn dy gariad?
4 Iesu, agor, Dwysog dwyfol,
Ddrws y nen
Led y pen:
Gwna fi o'r nifer nefol.
Daniel Rowland
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 674, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930