Rhai o Gymry Lerpwl/David Hughes

Hugh Jones Rhai o Gymry Lerpwl

gan Anhysbys

James Edwards

David Hughes

Ganwyd Mr. David Hughes yn Cemaes, Mon, yn y flwyddyn 1820. Cadwai ei dad a'i fam dy capel y Methodistiaid yn y lle uchod. Cyflawnasant eu dyledswyddau yn y cylch hwn yn gwbl foddhaol, heb ond ychydig os dim cydnabyddiaeth. Yr oedd y fam yn wraig rinweddol, ac yn neillduol o fedrus mewn trefnu eu hamgylchiadau i'r fantais oreu er budd ei phriod a'i phump plentyn. Y swm mwyaf o gyflog a dderbyniodd David Hughes y tad yn yspaid ei oes ydoedd naw swllt yr wythnos. Ar y swm hwn, a llai, y dygodd ei blant i fyny yn barchus, gan roddi rhyw gymaint o ysgol i bob un o honynt o'r fath ag oedd i'w chael y pryd hwnnw. Yr oedd y tad yn hynod am ei haelioni a chymeryd i ystyriaeth yr amgylchiadau. Rhoddai ddernyn o arian yn llaw pob un o'r plant i'w roddi mewn casgliad blynyddol, a rhyw gymaint o bres yn y casgliad misol gyda chysondeb difwlch. Diameu mai yma y cafodd David Hughes, Ieu., y wers gyntaf a'r wers fwyaf effeithiol, mewn haelioni. Y mae y tad a'r fam i'w rhestru ymhlith y dorf o wir gymwynaswyr dynoliaeth sydd wedi treulio eu hoes mewn dinodedd ac i golli mewn anghof hyd ddydd y cyfrif.

Wedi cael ychydig dros flwyddyn o ysgol, aeth David ieuanc i wasanaeth masnachol i Amlwch fel negesydd, ond nid hir y bu yn llanw y swydd hon na feddiannwyd ef gan awydd cryf i fod yn grefftwr. Rhoddodd ei rieni bob cefnogaeth i'r syniad, a chafodd fyned yn egwyddorwas o saer coed at un John Lewis a gadwai waith yng nghymydogaeth Llanfechell. Ni bu lawn ddwy flynedd yng ngwasanaeth y gwr uchod na chynhyrfwyd ef gan yr uchelgais i fyned i Lynlleifiad, a gwneyd enw iddo ei hun fel adeiladydd, gan y son am ryw Gymro wedi gwneyd hynny. Aeth i holi am long, a chafodd fod llestr fechan oedd yn arfer cludo nwyddau o Lynlleifiad i Amlwch ar fedr cychwyn. Gorfu iddo fod ar fwrdd y llong yn fore. Yr oedd yr hwyliau wedi eu codi pan y cyrhaeddodd, a buan y dechreuodd symud yn araf gyda'r llanw. Gyda theimladau cymysglyd y bu yn cerdded yn ol a blaen ar ei bwrdd, weithiau yn edrych yn ol yn hiraethus tua chartref, bryd arall yn edrych ymlaen yn galonnog tua'r dref fawr ag oedd cyn belled o Amlwch y pryd hwnnw i bob pwrpas ymarferol ag ydyw'r America o Lynlleifiad. Tynnid ei sylw ar brydiau gan y lluaws a'r amrywiol longau oeddynt naill ai yn gadael neu ynte yn cyrchu tua'r Afon Mersey, a dyfalai pa fath le a allai fod y dref yr oedd cymaint o drafnidiaeth iddi ac o honi, a'r un ag yr oedd yntau yn bwriadu ymsefydlu ynddi. Tra gwahanol oedd yn ddiameu i'r hyn ydyw yn awr, a thra gwahanol y drafnidiaeth y pryd hwnnw,—llongau hwyliau a welid yn symud ymhob cyfeiriad a.hynny ar y cyfan yn ddigon pwyllog, ac yn yn awr agerdd longau a welir yn rhedeg yn y naill gyfeiriad a'r llall. Ac os ydym wedi ennill mewn cyflymdra a defnyddioldeb yr ydym wedi colli mewn harddwch. Y mae golwg wir fawreddog ar long o dan ei llawn hwyliau yn symud yn esmwyth o flaen yr awel.

Glaniodd yn y dref fawr a dieithr ag oedd i fod yn gartref iddo am hanner canrif yng ngwyll y nos. Er ei fod wedi cael ychydig dros flwyddyn o ysgol, nid oedd ganddo ond ychydig Saesneg i wynebu tref fel hon. Yr oedd ganddo fel ereill i wynebu y rhagfarn oedd yn ffynnu y pryd hwnnw ac am lawer o flynyddau wedi hynny yn erbyn Cymry a Chymraeg. Ystyriai pob un a fynnai ennill unrhyw safle gymdeithasol parchus fod yn anhebgorol iddo naill ai gwadu ei genedl a'i iaith neu ynte eu hanwybyddu. Yr oedd aelodau seneddol ein gwlad naill ai yn Saeson neu ynte yn Gymry yn ceisio bod yn Saeson. Yr oedd bron pob swydd o fri yn cael ei llanw gan Sais neu ynte gan Gymro heb fedru Cymraeg. Nid oedd Cymru prin yn deilwng o sylw yn y prif


newyddiaduron Saesonig ond pan y digwyddent fod yn brin o destynau i chwerthin. Trwy ymdrech diflino gwladgarwyr o dalent ac athrylith y mae pethau wedi cwbl newid, yn gymaint felly fel y mae boneddwyr o Saeson sydd yn byw yng Nghymru yn dechreu ystyried y priodoldeb o ymgydnabyddu â'n hiaith a dysgu eu plant felly. Erbyn hyn y mae y Senedd yn gorfod cydnabod ein bodolaeth, a'r wasg Saesneg yn gorfod ymostwng i'n gwasanaethu. Yr oedd hwn yn un o'r anhawsderau a wynebai y Cymro pryd bynnag y penderfynai esgyn i anrhydedd fel gwladwr. Felly yr ydoedd ac felly y bu am flynyddau lawer gyda Mr. Hughes. Nid oedd ganddo ond ychydig sylltau yn ei logell, prin ddigon i dalu am ymborth a llety am dridiau pan y glaniodd y noswaith hon. Cododd yn fore drannoeth i ryfeddu at yr heolydd llydain a'r adeiladau enfawr, ac er fod dwy ran o dair o'r tir y saif y dref arno yn awr yn feusydd gwyrddleision, eto i fachgen o'r wlad heb fantais darluniau na desgrifiadau newyddiaduron yr oedd ei maintioli, ei harddwch, a'i phrysurdeb masnachol yn llethol. Nid oedd ganddo yr amser, fodd bynnag, i ryfeddu, llawer llai hiraethu, oblegid ymladd am fodolaeth oedd raid iddo bellach. Cafodd waith gyda Chymro am gyflog bychan, rhy fychan i dalu am lety ac ymborth. Daeth i ddeall fod cryn wahaniaeth rhwng bod yn saer gwlad a bod yn saer tref. Ymroddodd i'w waith gyda phenderfyniad a dyfalbarhad didroi yn ol, a chyn pen ychydig fisoedd nid oedd neb ar y gwaith yn derbyn uwch cyflog. Talodd sylw manwl i'r modd y dygid pob rhan o'r gwaith ymlaen. Defnyddiai ei oriau hamddenol yn bennaf i ddysgu mesuriaeth a changhennau ereill oedd yn dwyn perthynas a'i alwedigaeth, ac ni chollodd unrhyw gyfleusdra i ddyfod i wybod prisiau nwyddau adeiladu, a gwnaeth bob ymdrech i feddu syniad am werth gwahanol adeiladau. Wedi rhyw ddwy flynedd o weithio wrth y dydd, penderfynodd wella ei hun trwy gymeryd drysau a ffenestri i'w gweithio wrth y droedfedd. Gweithiai yn yr haf tra gyda'r gorchwyl hwn o bedwar o'r gloch y bore hyd wyth a naw o'r gloch y nos. Llwyddodd yn fuan i gasglu y swm o £ 80, a chyda'r cyfalaf hwn y dechreuodd fel adeiladydd. Prynnodd ddarn o dir ac adeiladodd chwech o dai arno, a chyda boddhad yr edrychai ar yr adeiladau wedi eu gorffen fel ei anturiaeth gyntaf. Cafodd mortgage ar y tai yn ol 5 y cant, ac ardreth yn ol 10 y cant, yr hyn a hyrwyddodd ei ffordd i adeiladu rhagor. Aeth rhagddo yn y cyfeiriad hwn nes o'r diwedd yr oedd yn gallu rhifo ei dai wrth y cannoedd. Wedi i sicrhau graddau lled helaeth o lwyddiant yn y cyfeiriad hwn dechreuodd adeiladu ystordai, ac adeiladodd werth cannoedd o filoedd o bunnau o'r cyfryw. Tua'r adeg yma torrodd rhyfel allan yn yr America, a pharodd hynny gryn atalfa ar ei lwyddiant. Dilynwyd hyn gan ddirwasgiad masnachol pwysig, ond a brofodd yn llethol yn y fasnach adeiladu. Teimlodd yntau oddiwrth y dirwasgiad fel yr oedd yn colli yn flynyddol am o chwech i saith mlynedd o £2,000 i £12,000 yn yr ystordai yn unig. Nid oes dim am a wyddom yn myned ymlaen mewn llinell union, ond o r naill eithaf i'r llall, o guriad y gwaed hyd at symudiadau trai a llanw y môr. Nid yw masnach yn eithriad i'r rheol, a bu craffder Mr. Hughes i weled hyn o fantais dirfawr iddo. Er na ddychymygodd y buasai pethau yn cymeryd cwrs mor eithafol, eto nid oedd heb ymbaratoi ar gyfer y trai. Llwyddodd i fyned trwy yr argyfwng yn anrhydeddus, ac o hynny cyfododd y llanw yn uwch uwch. Gwnaeth geisiadau mewn cyfeiriadau ereill. Bu yn masnachu mewn yd, a choll­ odd filoedd o bunnau yn yr anturiaeth. Ceisiodd wneyd i fyny am y golled trwy anturio yn y fasnach gotwm, collodd fil­ oedd yma drchefn. Ni bu ei golled yn y naill anturiaeth a'r llall yn ddim llai nag o £25,000 i £30,000. Penderfynodd o'r diwedd gyfyngu ei hun i'r fasnach ag yr oedd wedi llwyddo ynddi a'r un y gwydd­ ai fwyaf am dani. Meddai ar y synwyr a'r penderfyniad pan y gwelai ei fod yn colli mewn unrhyw gwrs i ddweyd wrtho ei hun,—"Hyd yma yr ai, a dim ymhell­ach." Pan ddaeth y dirwasgiad crybwyll­ edig cynhilodd ymhob cyfeiriad, lleihaodd ei dreuliau a gostyngodd ei gyfraniadau. Beiwyd ef am hyn, a dywedid ei fod yn cymeryd golwg llawer rhy gymylog ar bethau, ond yr oedd yn benderfynol beient a feiont y mynnai weithredu yn y fath fodd fel nas gallai neb estyn ei fys ato, ac awgrymu ei fod wedi peri colled, na chyflawni unrhyw weithred a fuasai yn y radd leiaf yn tueddu i daflu amheuaeth ar ei an­rhydedd fel boneddwr a Christion.

Coronwyd ei ymdrechion mewn mas­nach a llwyddiant y tu hwnt i'w ddisgwyl­iadau, ac erbyn hyn y mae wedi encilio o'r ymdrech i fwynhau byywyd yn ei oreu. Gallesid dweyd pethau dyddorol am dano yn ei helyntion masnachol, ond camgymeriad fyddai tybied mai yn y cylch hwn yr oedd goreu ei fywyd yn cael ei dreulio. Os oedd ei hen wedi ei neillduo i raddau helaeth i'w amgylchiadau bydol, yr oedd ei galon gyda diwygiadau cymdeithasol a chrefyddol; y pethau hyn oedd yn cyfan­soddi ei fywyd yn ystyr lawnaf y gair. Daeth sicrhau gwaith i fechgyn Cymru yn bwysicach yn ei olwg am flynyddau na gwneyd elw iddo ei hun. Aeth son ar led ei fod ef yn ogystal a Chymry ereill yn llwyddo fel adeiladwyr yn Llynlleifiad, a pharodd i'r son hwnnw i ddylifiad pobl ieuainc gymeryd lle o Gymru, ac yn enwedig o Fon, yn y gobaith y byddai iddynt hwythau lwyddo yr un modd. Ceid llawer bachgen yn gwynebu ar y dref fawr gyda'r bwriad a chan gredu y byddai iddo ymgyfoethogi gyda phrysurdeb heb fwrw'r draul, ac ystyried fod yn rhaid meddu pen­derfyniad, dyfal barhad, a grym cymeriad mewn trefn i lwyddo, a fod llawer yn ei chwenych ond ychydig yn ei chael. Nid yw yr hwn a goronir a llwyddiant ond un o gant. Y mae y rhai sydd yn llwyddo oblegid hynny yn dyfod yn adnabyddus; ond am y llu sydd ·yn methu, y maent yn colli o'r golwg, a'u lle nid edwyn ddim o honynt mwy. Yr oedd Mr. Hughes a'i ofal arbennig dros y bobl ieuainc a ym­fudai yno o Gymru, yn enwedig bechgyn Mon. Adeiladodd gapel Cranmer i'r am­can o gael y gweithwyr at eu gilydd y Sab­bathau a nosweithiau gwaith, a thrwy hynny eu cadw rhag myned ar ddisberod. Bwriadodd ar y cyntaf gasglu ato a der­byniodd £1 gan y Parch. Henry Rees, ond pan gyfarfyddodd Mr. Rees ymhen ychydig ddyddiau wedi hynny hysbysodd ef ei fod wedi adystyried y mater, a phender­fynu adeiladu y capel yn gwbl ar ei draul ei hun. Eglurodd i Mr. Rees mai gweith­wyr oedd bron yr oll o'r gynulleidfa yn cychwyn eu gyrfa yn y ddinas, ac heb gan­ddynt hyd hynny nemawr i'w roddi, a dychwelodd y £1 i'r gweinidog. Buan y llanwyd y capel, a bu yn rhaid ei helaethu. Yma y bu yn flaenor am rai blynyddau nes yr aeth yr addoldy a eisteddai o 500 i 600 o bobl yn rhy fychan. Symudwyd i le arall a rhoddodd werth yr hen adeilad tuag at adeiladu y newydd. Er ei holl drafferthion nid oedd neb yn fwy cyson yn y cyfarfodydd. Ceir ambell ddyn yn y byd yn llawn prysurdeb holl ddyddiau ei fywyd, heh ganddo awr i'w hebgor i wasanaethu cymdeithas yn wladol na chref­yddol, er y gellid yn rhwydd gyfyngu ei holl fasnach i gylch anfesurol fach,—bob amser yn rhedeg ond byth yn dal. Hollol wahanol ydyw hanes Mr. Hughes. Byddai ymhob cyfarfod gweddi a seiat. Perthynai i luaws o bwyllgorau; ac nid absenolai ei hun o un o honynt yn yr adeg brysuraf arno. Ac am y Sabbath yr oedd yn Sabbath iddo mewn gwirionedd. Wrth adael ei swyddfa y Sadwrn yr oedd yn cefnu yn gwbl ar ofalon a helyntion ei fasnach hyd bore Llun. Byddai yn gyson yn yr add­oldy dair gwaith y Sabbath. Nid oedd unrhyw swydd yn rhy ddistadl ganddo i ymgymeryd a hi, nac unrhyw waith yn rhy ddibwys ganddo i'w gyflawni os yn angenrheidiol. Yr oedd ei ofal dros holl aelodau y gynulleidfa, ac yn arbennig yr ieuenctyd. Bydd un engraifft yn ddigon i ddangos y modd y gofalai am yr ieuanc. Un bore Sabbath tra yr oedd hen weinidog o dymer ychydig yn afrywiog yn dechreu rhagym­adroddi, tynnodd bachgen ieuanc, newydd ddyfodiad o'r wlad, a eisteddai yn y sedd ganu lyfr allan o'i logell ac ysgrifenodd enw y pregethwr arno gyda'r bwriad yn ol ei arfer o ysgrifennu pennau y bregeth. Canfyddodd yr hen weinidog ef, a chan edrych yn llym arno, dywedodd,—

Y mae y bachgen penddu yna sydd yn y sedd ganu yn tybied ei hunan yn glyfar iawn yn medru ysgrifenu yn yr odfa; fe fuasai yn fwy clefar pe buasai yn edrych arna i ac yn gwrando." Gwenodd y gynulleidfa a gwyrodd y bachgen ei ben hyd lawr gan gywilydd. Penderfynodd y gŵr ieuanc fyned i'r festri ar y diwedd i amddiffyn ei gam, ond croesawyd ef fel yr elai trwy y drws gan y gweinidog a'r ymadrodd, "Ie, dyma fo y bachgen smart hwnnw." Ac meddai hen flaenor o ymddangosiad stoicaidd ac mewn cydymdeimlad â'r gweinidog, Gwnaethoch yn iawn argyhoeddi y sort yma, y mae llawer gormod o hyfdra yn cael ei ddangos yn y gwasanaeth." Ar hyn aeth y gŵr ieuanc allan gan ddweyd, Boreu da welwch chwi mo hono i yma mwy i'ch blino." Cerddodd adref gyda'r argyhoeddiad nad oedd cyfiawnder yn cael ei weinyddu yn y llys crefyddol. Aeth ymaith heb ganfod ond y llinell salaf yng nghymeriad y gweinidog a'r swyddog. Penderfynodd modd bynnag nad elai i gapel mwy, hwyrach yr elai weithiau i gapel Saesneg er mwyn gallu dweyd ei fod yn myned i Ie o addoliad yn achlysurol. Y dydd Sadwrn canlynol derbyniodd air oddiwrth Mr. Hughes yn ei wahodd i w dy i swpera y noswaith honno. Aeth gyda theimladau cymysglyd. Derbyniodd bob caredigrwydd oddiar law y gwahoddwr, a chyda chydymdeimlad a thynerwch aeth dros helynt bore Sabbath. Cynghorodd ef i beidio digaloni pan y daw ambell rwystr ar ei ffordd gan nad o ba le y daw. Dychwelodd i'w lety y noswaith yn benderfynol o wneyd ei ddyledswydd yng ngwyneb unrhyw rwystrau a allai ei oddiweddyd. Aeth i'w Ie y bore Sabbath drarchefn a chariodd allan gynghorion Mr. Hughes, a llwyddodd ymhob cylch. Creda yn ddiysgog oni buasai am feddylgarwch a charedigrwydd ei gymwynaswr y buasai wedi myned ar y goriwaered, ac yn ol pob tebyg y tu hwnt i adferiad. Nid yw y gwasanaeth cyhoeddus a wnaed gan Mr. Hughes, er yn fawr, yn ddiau i'w gystadlu â'r gwasanaeth dirgel ac anghyhoedd a gyflawnwyd ganddo. Y mae, fodd bynnag, wedi ac yn llanw cylchoedd cyhoeddus er anrhydedd iddo ei hun a gwasanaeth i gymdeithas. Gwnaed ef yn Ustus Heddwch yn Llynlleifiad a Mon. Bu yn aelod o'r Cyngor Trefol yn y ddinas y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes ynddi, a llanwodd y swydd o Uchel Sirydd yn ei sir enedigol. Y mae ei haelioni at wahanol achosion yn adnabyddus, ac nid yn lluosogrwydd a maint y symiau a gyfrennir ganddo yn unig y mae yn dangos ei ragoriaeth, ond hefyd yn ei graffder i adnabod achosion teilwng o gefnogaeth, a'i ddoethineb mewn trefnu ei roddion tuag at y cyfryw. Un o'i roddion diweddaf ydyw y neuadd hardd ynghyd a darllenfa a'r ystafelloedd cyfleus ereill wedi eu dodrefnu yn gyflawn, a chyda y gwelliantau diweddaraf mewn adeilad a dodrefn, a gyflwynwyd ganddo ychydig yn ol i fod yn eiddo bythol i'w ardal enedigol. Yr oedd hyn yn ei fwriad ac yn nod ymgyraedd ato ymhell cyn iddo feddu y moddion angenrheidiol i allu cario allan ei gynllun i weithrediad. Y mae erbyn hyn yn 78 mlwydd oed, yn treulio misoedd yr haf yn ei balas hardd filldir o'r lle y ganwyd ef. Y mae wedi ymryddhau o bob gofalon, ac yn mwynhau bywyd tawel ac hamddenol, y cyfryw nas gall neb ei fwynhau ond ar sydd wedi cyflawni ei ddyledswydd mewn bywyd gan ateb cydwybod ger bron Duw a dynion. Ceir ei weled ar brydiau yn esgyn y bryn ger llaw i edrych ar y môr ac ar yr agerdd longau fychain a mawrion yn prysuro heibio, a hwyrach yn teimlo fod prysurdeb hefyd yn elfen mewn gorffwysdra. Pryd arall gwelir ef yn ei gadair gysgodol yn darllen y Tadau Methodistaidd neu un o'r cylchgronau Cymreig. Gyda'r hwyr ceir ef yn gyffredin ar ei led orwedd yn ei ddarllenfa yn darllen y Drysorfa neu esboniad ar wers y Sabbath, neu ynte wrth ei fwrdd yn gwneyd trefniadau ar gyfer rhyw bwyllgor neu gilydd. Nid yw byth yn segur ond yn hytrach yn gorffwyso mewn gwaith.