Rhai o Gymry Lerpwl/James Edwards
← David Hughes | Rhai o Gymry Lerpwl gan Anhysbys |
John Hughes → |
Dr James Edwards
ANWYD Dr. James Edwards yn y Bala, Gorffennaf, 1855, yn fab ieuengaf Dr. Lewis Edwards, a brawd ieuengaf Dr. Thomas Charles Edwards,—dau olynydd eu gilydd fel prif athrawon Coleg y Bala. Yr oedd ei fam yn wyres i Thomas Charles o'r Bala, cychwynnydd yr Ysgol Sul yng Nghymru, ac un o brif sylfaenwyr y Feibl Gymdeithas. Nid bob dydd y deuir o hyd i ddyn wedi ei amgylchynu a chymaint o hynodrwydd a DR James Edwards,—hynodrwydd e i rieni, a mangre ei enedigaeth, y Bala, Athen Cymru. Yn ysgol ramadegol hynod y Bala y derbyniodd ei addysg cyntaf, ac eithrio ysgol yr aelwyd. Wedi hynny daeth i'r Liverpool Institute, ac yma y bu hyd nes y penodwyd ei Thomas frawd, Charles Edwards, yn yn athraw yn Aberystwyth. Yna symudodd i Aberystwyth, lle yr aroshodd am rai blynyddau. Wedi hynny, symudodd i Ysbyty St. Bartholomew, yn Llundain, ac yno y bu yn astudio hyd nes ei graddiwyd yn feddyg cymhwys. Yna dychwelodd i Lerpwl, ac ymsefydlodd yn Anfield, gan ddilyn ei alwedigaeth feddygawl, ac y mae er hynny tua deunaw mlynedd. O hynny hyd yn awr y mae wedi llanw swyddau pwysig iawn yn y dref, ac yn dal i'w llanw. O'r deunaw mlynedd, bu am naw mlynedd yn aelod o'r Bwrdd Ysgol yn Walton, ac nid aelod marw ydoedd; ni fuasai pobl Lerpwl yn cadw aelod diwaith am naw mlynedd ar y Bwrdd Ysgol. Y mae yn feddyg hefyd i amryw o'r Cwmnïau Yswiriol, megis y "Prudential" a'r "Abstainers and General." Hefyd y mae yn aelod o Bwyllgor y Genhadaetn Drefol, ac yn swyddog meddygol iddo. Yn ychwanegol at hyn y mae yn swyddog eglwysig yn eglwys Gymreig Anfield Road. Wrth son am hynodrwydd ei deulu, y mae un, a dweyd y lleiaf, hynodrwydd mawr yn perthyn iddo ef ei hun fel meddyg,—y mae yn llwyrymwrthodwr, ac wedi bod ar hyd ei oes felly. Gall yntau ddweyd ar y mater hwn, fel y clywais ei frawd hynaf yn dweyd wrth areithio ar ddirwest. Yr wyf, "ebai, " yn falch fy mod i yn gryf mewn un peth,—a hynny fel dirwestwr." Mae Dr. James Edwards yn falch ei fod yn ddirwestwr. Y mae ei briod hefyd fel y graig yn y mater h wn. Credaf mai yn gynil iawn, mewn a hynny achosion eithriadol, y gorchymyn Dr. Edwards wirodydd fel meddyginiaeth. Carem yn fawr weled y dydd na chaffo y diodydd hyn eu defnyddio ond yn ol cynghor meddygon profiadol a galluog a llwyddiannus fel Dr. James Edwards, a hyderwn y bydd i'n meddygon ymdrechu i argyhoeddi eu cleifion mai meddyginiaeth wael iawn ydyw y gwirodydd meddwol.
Sylwir fod y rhan fwyaf o Gymry Lerpwl a enwir yn y gyfres hon yn ddirwestwyr. Nid yw'n ormod dweyd fod y mwyafrif o Gymry ymdrechgar, arweiniol ymhob tref yn ddirwestwyr. Y mae hynny'n wir yn enwedig am Lerpwl. Yno y mae'r ddiod feddwol yn gwneyd anrhaith dyddiol. Yno, lle y mae rhai o bob cenedl wedi cydgasglu, lle mae nwydau heb ffrwyn yn ddigon aml, gwelir ei heffeithiau uniongyrchol ar eu amlycaf. Ond gwyr dyngarwyr Lerpwl am ei heffeithiau araf hefyd, gwelsant hi yn graddol ddifwyno cymeriad ac yn amharu gwaith aml fachgen ieuanc o Gymro gobeithiol. Clywais ddweyd lawer gwaith mai Cymry yw pobl oreu Lerpwl ac mai Cymry yw ei phobl waethaf. Ymysg ei harweinwyr mewn daioni,—yn noddwyr ysbytai ac ysgolion, moddion gras a chyfarfodydd llenyddol, a phob sefydliad dyngarol,—y mae Cymry yn amlwg oherwydd eu hymdrech, eu hynni, a'u haelioni. Ond os syrth Cymro, syrth yn isel iawn. Os cyll ei gariad a'i barch at grefydd a dirwest ei wlad, ofna ei gyfeillion ei weled yn suddo yn ddwfn iawn i amharch a thylodi a llygredigaeth. A dengys profiad maith mai nid ofer yw eu hofnau.