Rhai o Gymry Lerpwl/Edmund Griffith
← Hugh Jones (Trisant) | Rhai o Gymry Lerpwl gan Anhysbys |
→ |
YR oeddwn wedi meddwl gorffen fy rhestr gyntaf o Gymry Lerpwl gyda'r gyfrol hon, i droi i ryw dre arall yn nechreu y gyfrol nesaf. Ond fel arall y bu. Y mae yno gymaint o gymhwynaswyr,—yn efengylwyr, yn feddygon, yn farsiandwyr, yn wleidyddwyr, yn athrawon,—fel y rhaid cael rhifyn neu ddau eto i gymeryd golwg ar eu bywyd. Ac feallai, cyn dod yn ol atynt, rhof gipdrem ar arweinwyr rhyw dref lai.
Parch. Edmund Griffith
Ond dyma ddarlun o un eto o Gymry Lerpwl yn y gyfrol hon. Y mae y Parch. Edmund Griffith yn ddyn helaeth, yn ddyn ysgwyddog, fel y byddis yn dweyd, yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na'r cyffredin; a hawdd iawn rhoddi cyfrif am hyn. Mewn lle o'r enw Tyddyn y Felin, yn Uwch Artro, yn agos i Harlech, ei ganwyd; ond ni chafodd ond rhyw ddeufis o fagwraeth yno, gan i'w rieni, sef John ac Elizabeth Griffiths, symud oddiyno i Dyddyn y Felin, Traws- fynydd. Nid yn aml iawn y gellir cael dau gartref fel hyn o'r un enw, ai e?. Nis gallesid symud i well lle am fwyd cryf ac iach, digon o laeth enwyn a_bara ceirch i wneud shot, caws ac ymenyn o waith car- tref, gwaith merched Trawsfynydd. 'Does dim diolch iddo fod yn ddyn cryf. Yno hefyd y cafodd ei addysg foreuol, yn hen ysgol y Llan—yr hon oedd ar y pryd o dan ofal yr ysgolfeistr medrus Mr. Ellis, yr hwn, 'rwy'n meddwl, sydd eto yn byw tua Penrhyn Deudraeth. Yr oedd yr ys- gol hon yn rhydd oddi wrth ddeddf caeth- iwed,—nid oedd yn rhaid myned i'w Hys- gol Sul hi, fel yr oedd arfer rhai ysgol- ion o'r un natur y dyddiau hynny. Ond dywedwyd wrthyf mai i dad Mr. Griffith y mae diolch am y rhyddid hwn. Wedi mynd drwy ysgol y Llan, y mae yn cael ei anfon i'r Liverpool Institute. Bu yno am ddigon o hyd i'w alluogi i ennill ei fywoliaeth,—cafodd le da mewn swyddfa masnachydd. Yr oedd erbyn hyn wedi gadael ei gartref, a'i hen gyfoedion; rhaid oedd iddo ddewis rhai newyddion. A dyma bwynt pwysig iawn yn hanes pobl ieuainc ar eu dyfodiad i Lerpwl. Y mae ffurfiad y cymeriad yn dibynnu, i fesur helaeth, ar ddewisiad cwmpeini. Yn eglwys Fitzclarence Street y disgynnodd coelbren. Edmund Griffith. Gwnaeth gyfeillion o bobl ieuainc yr eglwys yno, ymdaflodd i'r gwaith, y gwaith sydd gan yr eglwysi i'r bobl ieuainc ei wneud,—mynychu y Cyfarfodydd Gweddi a'r Seiat a Chymdeithas Ddadleuol enwog iawn a arferai fod yn yr eglwys hon, y cyfarfodydd darllen, a'r diweddar Dr. John Hughes, a Thomas Lloyd, yn athrawon arno. Y pethau yna a wnaeth weithiwr a duwinydd cryf ohono, ynghyd a gweithio gyda'r "Band of Hope." A pheth arall hefyd gwerth ei enwi,—efe oedd y llyfrgellydd yno am amser; ac ni fu yn fyr o wneud defnydd o'r llyfrau da oedd i'w cael yno. Rhwng popeth a'u gilydd fe dyfodd mor gryf fel ei dewiswyd yn flaenor yn yr eglwys, ac yno hefyd ei symbylwyd i ddechreu pregethu, a bu yn pregethu am rai blynyddau yn rheolaidd.
Y mae yn ddirwestwr o'r iawn ryw—ac yn gweithio yn galed gyda'r achos dirwestol, yn enwedig gyda'r plant. Bu yn Uwch Arolygydd temlau y plant am rai blynyddau, a chyn y gallasai ddal y swydd honno rhaid iddo fod yn Demlwr Da, ac yn wrthysmygwr; ond nid mater o raid oedd iddo, yr oedd felly am nad oedd yn credu mewn addoli duw'r myglys mwy na duw Bacchus. Y mae yn areithiwr mawr hefyd, ac yn gadernid i bob peth a'i duedd i godi moes a chrefydd.