Rhai o Gymry Lerpwl/Hugh Jones (Trisant)

Llew Wynne Rhai o Gymry Lerpwl

gan Anhysbys

Edmund Griffith

Hugh Jones (Trisant)

Y mae Mr. Hugh Jones (Trisant) yn debyg mewn un peth, beth bynnag, i luaws o wyr da ereill y dref yma—ganwyd ef yn sir Fon. Mab i amaethwr o blwy Llantrisant ydyw. Derbyniodd ei foreuol addysg yn ysgol y plwyf hwnnw; ac aeth oddiyno i ysgol Frytanaidd Llannerchymedd, ac oddiyno drachefn i Gaergybi, lle yr arosodd am tua dwy flynedd. Ac yn yr adeg yna y mae yn gadael ei wlad ac yn myned i wlad bell, sef Lerpwl, ond nid i fyw yn afradlawn, fel y mae llawer, er ein gofid, yn y blynyddau hyn, unwaith y cefnant ar dy eu tad a'u mam a'r hen flaenoriaid. Ond, o drugaredd, nid dyna y rheol; y mae yma gannoedd o bobl ieuainc o Gymru, yn feibion a merched, yn cadw i fyny anrhydedd, nid yn unig eu rhieni, a'r hen flaenoriaid, ond eu gwlad yn gyffredinol. Un o'r rhai hynny ydyw Trisant. Daeth yma yn hogyn ieuanc i ganol hudoliaethau a themtasiynau yr hen dref hon, ac yn nerth ei Dduw, a Duw eu dadau, fe'u gwrthsafodd oll. Nid hir iawn y bu yma fel gwas ychwaith, ond fe lwyddodd i ddechreu masnachu ar ei gyfrifoldeb ei hun; adwaenid ei fasnach am flynyddau o dan yr enw "Hugh Jones & Co., Contractors." Yn ystod yr adeg yna fe'i hetholwyd, gyda mwyafrif mawr, yn aelod o'r Bwrdd Lleol, adran Walton. Bu yn aelod am dair blynedd, ac yn ystod. y tair hynny llanwodd dair o wahanol. gadeiriau,— cadlair y Pwyllgor Gweithiol, y Pwyllgor Gwelliantol, ac wedi hynny gadair y Bwrdd; a chan iddo gael y fantais hon yr oedd mewn cyfle rhagorol i wthio rhyw welliantau a welai ef yn eisieu i'r golwg, a llwyddodd yn hyn i fesur helaeth iawn. Caiff yr anrhydedd heddyw o fod yn gychwynnydd i luaws o welliantau Gwelliantau perthynol i dai gweithwyr. ydynt ag y mae yn amheus iawn a, fuasent ar gael heddyw oni bai am weithgarwch di-ildio H. Jones drostynt. Yr ydym yn falch iawn o wyr fel Mr. Hugh Jones. Cynrychiola ddosbarth o Gymry sydd a llaw yn nadblygiad a llywodraethiad un o borthladdoedd pwysica.f y byd. Cynrychiola ddull y gwir Gymro, —cred mai ei grefydd a'i ddirwest yw yr esboniad ar lwyddiant dyn; a fod mawredd tref a chenedl wedi eu sylfaenu ar foesoldeb pur ac ar -egni dros yr hyn sydd wir a. iawn. Mae'r Cymro yn a.ml yn fardd da, ond yn sefyll gormod o'r neilldu i wneyd daioni yn ei ddydd. Dymunol yw cael ysgrifennu hanes un fedr gymeryd ei ran yn deilwng wrth lywodraethu amgylchiadau tref fawr.

Y mae yn swyddog eglwysig yng nghapel Bethlem; efe yw y trysorydd, a phena buasai ond am y gwaith hwn yn unig, y mae yr eglwys yn ddyledus iawn iddo ef, ynghyd a'u hysgrifennydd galluog, Mr. Hugh Edwards,—Cymro eto wedi dringo i fyny yn uchel iawn, efe yw prif ysgrifennydd pwyllgorau Corpholaeth y dref. Nid oes angen dweyd fod H. Jones yn fardd; ei enw barddonol yw "Tri­ sant;" ac fel diweddglo ar yr ychydig linellau hyn cyflwynaf y penillion olaf a wnaeth,

NAC OFNA, CRED YN UNIG.

Os yw'r ystorm yn gref yn awr,
A'r dyfroedd yn chwyddedig,
Clyw eiriau dy Waredwr mawr,­
"Nac ofna, cred yn unig."

Dros donnau geirwon bywyd brau,
A'r galon wan grynedig,
Mae ei lywodraeth E'n parhau,
"Nae ofna, cred yn unig."

Pan byddo d'enaid yn tristau,
A'th fron yn brudd siomedig,
Cci ganddo destyn llawenbau,
Nac ofna, cred yn unig.

Pan fyddo'r nos yn dywell iawn,
A thithau yn flinedig,
Mae ynddo nerth a goleu llawn,
"Nac ofna, cred yn unig."

Os ydyw cysgod angau'n ddu,
A'i wedd yn ddychrynedig,
Cei gwmni'r Archoffeiriad mawr,
"Nac ofna, cred yn unig."

Mae Crist yn Frenin ymhob man,
O! Geidwad bendigedig,
Fe'th ddwg o ddyfoder bedd i'r Ian,
"Nac ofna, cred yn unig."