Rhobat Wyn/Clychau Piws a Gwyn
← Diddigrwydd | Rhobat Wyn gan Awena Rhun |
Dafad ac Oen → |
CLYCHAU PIWS A GWYN
Os mynni weld eu tegwch,
Dos draw i fin y môr,
Lle mae y tir a'r tywod
Yn cadw yr ystôr.
Os mynni gael eu miwsig
Yn rhan ohonot ti,
Dos, eistedd yno'n dawel
A thyrd â'r gân i mi.