Rhobat Wyn/Diddigrwydd
← Y Llwybr Gynt | Rhobat Wyn gan Awena Rhun |
Clychau Piws a Gwyn → |
DIDDIGRWYDD
RHWYFO araf, araf rydd,
A'r môr las a thawel,
Pan fo gwres a gwrid y dydd
Yn cilio dros y gorwel.
Olion tywydd ar y bad,
A chreithiau'n dryfrith drosto,
Murmur tonnau yn fwynhad,
A serch yn sain y rhwyfo.
Rhwyfo araf—di-ystŵr,
A'r awel leddf yn felys;
Lleuad lawndeg uwch y dŵr,
A'i gwên yn dangnefeddus.