Rhodd Mam i'w Phlentyn/Dosparth IV
← Dosparth III | Rhodd Mam i'w Phlentyn gan John Parry, Caer |
Dosparth V → |
DOBPARTH IV
G. Pa sawl math o blant y sydd?
A. Dau fath.
G. Pa rai ydyw'r ddau fath?
A. Plant da, a plant drwg.
G. Pa fath blant sy yn cymneryd enw Duw yn ofer?
A. Plant drwg
G. Pwy sy ya anafudd i'w tad a'u mam?
A. Plant drwg.
G. Pwy sy yn dyweud celwydd, ac yn tyngu?
A. Plant drwg.
G. Pwy sydd yu chwareu ar y Sabboth?
A. Plant drwg.
G. A raid i bawb farw?
A. Rhaid.
G. I ba le yr a plant drwg ar ol marw?
A. I uffern.
G. Pa fath le ydyw ufern?
A. Llyn yn llosgi o dan a brwmastan
G. Pwy ddichon warede plant rhag myned yno.
A. Iesu Grist.
G. Pa fath ydyw plant da?
A. Rhai yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrwg.
G. Pwy sy'n hoff o'u llyfr?
A. Plant da.
G. Pwy sy'n ufudd i'w rhieni?
A. Plant da.
G. A ddylech chwi oll fod yn blant da?
A. Dylem.
G. 1 ba le yr a plant da wedi marw?
A. I'r nefoedd.
G. Pa fath le yw'r nefoedd?
A. Lle gogoneddus a hyfryd.
G. Pwy fydd gyd a ni yno?
A. Iesu Grist, yr angylion, a'r saint.
G. A fydd pechod yno?
A. Na fydd, na phechod na phoen byth.