Rhodd Mam i'w Phlentyn/Dosparth V
← Dosparth IV | Rhodd Mam i'w Phlentyn gan John Parry, Caer |
Dosparth VI → |
DOSPARTH V
G. Pwy a anfonodd Duw i achub pechaduriaid?
A. Iesu Grist.
G. Pwy ydyw Iesu Grist?
A. Duw a dyn.
G. Pa berthynas ydyw Iesu Grist i Dduw?
A. Mae efe yn Fab Duw.
G. Pa berthynas ydyw efe i ni?
A. Brawd a chyfaill goreu.
G. Beth a wnaeth Iesu Grist yn y byd?
A. Byw a marw drosom.
G, Ymha le y ganed Iesu Grist?
A. Yn Bethlehem.
G. Pwy oedd ei fam ef?
A. Mair.
G. Ymha le y bu Iesu Grist farw?
A. Ar Galfaria.
G. A gladdwyd ef?
A. Do; mewe bedd.
G. Ai yn y hbedd y mae efe etto?
A. Nage; efe a gyfododd,
G. Ymha le y mae efe yn awr?
A. Yn y nefoedd.
G. Beth yw cyflog pechod?
A. Marwolaeth.
G. Ydyw Duw yn maddeu pechod!
A. Ydyw.
G. Er mwyn pwy y mae efe yn maddeu?
A. Er mwyn Iesu Grist.
G. A oes modd i ni fod yn happus heb gael maddeu ein pechod?
A. Nac oes.
G. Ymha le mae Duw ya maddeu pechod?
A. Yn y byd hwn.