Rhodd Mam i'w Phlentyn/Dosparth VI
← Dosparth V | Rhodd Mam i'w Phlentyn gan John Parry, Caer |
Dosparth VII → |
DOSPARTH VI
G. I ba beth y'ch gwnaed chwi?
A. I wasanaethu Duw.
G. A ddylai plant wasanaethu Duw?
A. Dylai pawb.
G. Pwy sy'n rhoddi pob peth i ni?
A. Duw sy'n rhoddi pob peth i bawb
G. Oni ddylem ni ddiolch i Dduw am bob peth?
A. Dylem.
G. A ddylem ni weddio ar Dduw?
A. Dylem.
G. Am ba beth y dylem weddio arno?
A. Am faddeuant o'n pechodau.
6. A ddylem ni weddio am ddim arall?
A. Dylem weddio am ras i'n gwneud yn blant da, ac am bob peth fo arnom eisiau.
G. A ydyw yn hawdd gan Dduw i roi i ni y pethi a ofynom?
A. Ydyw i bawb, ac heb ddannod.
G. Yn enw pwy y dylem weddio?
A. Yn enw Iesu Grist.
G. Pwy sy'n gweddio?
A. Pob duwiol a weddia.