Rhys Llwyd y Lleuad/Ar y Daith

Cychwyn Yno Rhys Llwyd y Lleuad

gan Edward Tegla Davies

Mewn Dyryswch

III

AR Y DAITH

CLYWSAI Dic a Moses lawer gwaith am bethau'n mynd "fel y fellten," ond ni ddychmygodd yr un ohonynt erioed y deuai adeg iddynt hwythau eu hunain deithio mewn gwirionedd cyn gynted â hynny. Eithr dyna eu hanes yn awr. Aent mor gyflym nes teimlo y gallent yn hawdd ddal y fellten gyflymaf a welsant erioed. Ni wyddent nad yw mellten yn symud, fel y gwyddoch chwi, ond mai ymddangos fel pedfai'n symud y mae. Pan fyddoch yn mynd mewn trên cyflym, ac yn pasio trên arall heb fod mor gyflym, ymddengys y trên hwnnw fel pedfai'n sefyll yn ei unfan, neu, yn wir, yn mynd yn ei ôl. A chredai Dic a Moses, pe pasient fellten, yr ymddangosai hithau fel pedfai'n sefyll, neu'n cilio'n ôl. A thybient mai profiad go ddieithr fuasai gweld mellten yn aros yn ei hunfan.

Yn syth tua'r lleuad yr aent, a chwyddai hithau'n gyflym fel y neshaent ati. Yn lle goleuo fwy fwy, tywyllai, a deuai rhyw ffurfiau rhyfedd i'r golwg ar ei hwyneb. Yn sydyn, fe'u teimlent eu hunain yn dechreu arafu. Yn y man llonydd- asant mor llwyr nes methu â symud dim, a dechreuasant droi yn eu hun fan yn y gwagle. Wrth droi gwelent, er eu syndod, leuad arall y tu ôl iddynt,—fwy na'r lleuad y cychwynasant iddi. Ac yr oedd dychryn Moses yn fawr iawn, a'i alar am ei fod erioed wedi cychwyn o'r ddaear yn fwy. Buont yno am ysbaid yn troi, a throi, a throi, yn eu hunfan,—

"Wel," ebe Moses toc, â'i galon yn ei wddf, mi ddeydodd mam wrtha i lawer gwaith,—'Moses bach, machgen i, paid byth â mynd i unman na feder neb ddwad o hyd i ti,' a dyma fi rwan yn methu dwad o hyd i mi fy hun."

"Moses," ebe Dic, rydwi'n teimlo fel yr hen ddafad ddu pan oedd y bendro arni hi." Eithr er siarad â'i gilydd, ni chlywent ddim un gair. Gwelent wefusau ei gilydd yn symud, ond er eu dychryn, ni chlywent ei gilydd yn dywedyd dim. Daeth arswyd mawr iawn trostynt, yn fwy felly gan na allent fynd nac yn ôl nac ymlaen,- dim ond troi, a throi, a throi, yn eu hunfan o hyd, fel cwpan mewn dwfr.

Bob yn dipyn dechreuodd Dic fwynhau'r peth. Troent a throent, gan wynebu ei gilydd a throi eu cefnau at ei gilydd bob yn ail ym mhob tro. Bob tro yr wynebent ei gilydd chwarddai Dic, ond gwnâi Moses big dlawd fel pe am dorri i wylo, eithr cyn cael amser i hynny, troai drachefn nes bod ei gefn at Ddic, a chan y troai Dic hefyd yr oedd ei gefn yntau at gefn Moses yr un pryd. Yr oeddynt yn echryslon o oer hefyd. Yr oedd eu dillad fel dillad haearn amdanynt. Nid oeddynt yn anadlu,-collasant eu hanadl oll cyn gadael y ddaear. Yr afalau lleuad a fwytasant a'u cadwai'n fyw. Pe gallasent anadlu rhewasai'r lleithter wrth eu ffroenau. Ond cewch weld eto nad oedd dim yno iddynt i'w anadlu.

Ac yno y buont am dymor hir yn troi a throi yn eu hunfan yn y gwagle. Fel y troent gwelent y ddwy leuad bob yn ail. Dechreuodd Moses wylo o ddifrif, ond rhewodd ei ddagrau'n gorn wrth ei lygaid. Mewn braw tynnodd y dagrau ymaith, ac edrychodd arnynt, ac er ei syndod ef a difyrrwch Dic, troai pelydr yr haul, a dywynnai drwy ei ddagrau, yn seithliw'r enfys ar ei ddwylo. A dyna ddifyrrwch, yng nghanol yr ofnau, oedd defnyddio'r dagrau fel gwydrau i edrych ar bopeth drwyddynt. Ac ymddangosai popeth drwyddynt yn llawer prydferthach nag o'r blaen.

"Diaist i," ebe Dic rhyngddo ag ef ei hun, mae'r ddwy leuad yma'n bropor yn saith o liwie. Mi ddeydodd yr hen Robert Tomos y crydd nos Sul fod ene saith nefoedd yn bod, ond feddylies i ddim am y peth ar y pryd. Oedd o yn ei le, tybed, a phob un ei lliw ei hun,—neu wedi bod yn edrych ar y lleuad drwy ei ddagre yr oedd o?"

Daliasant i droi a throi, a Dic yn dal i feddwl am y seithliw oedd i'r ddwy leuad drwy ddagrau Moses,—

"Moses," eb ef, synnwn i ddim nad rhyw fath o ddwy nefoedd a welwn ni drwy dy ddagre di." Ond ni chlywodd Moses yr un gair.

"Mynd i'r nefoedd yr yden ni'n sicr ddigon iti, Moses," eb ef wedyn, " ond yn bod ni wedi stopio iddyn nhw benderfynu ym mhrun i'n rhoi ni. Gobeithio y byddwn ni hefo'n gilydd, beth bynnag. Ychydig o'r bechgyn a feddyliodd mai'r nefoedd fydde'n diwedd ni, ynte?" Ni chlywodd Moses air, ac nid atebodd air, dim ond dal i droi a gwneuthur pig dlawd bob tro yr wynebai Dic ac yntau ei gilydd.

Yr oedd Dic mewn cryn betruster. Meddyliodd lawer gwaith cyn gadael y ddaear, pe medrai ddringo'r mynydd uchaf i'w ben, y byddai yn ymyl y sêr. Ond nid oedd y sêr yn nes atynt yma, nac yn ymddangos yn fwy, nag yr ymddangosent iddynt pan oeddynt ill dau ar wyneb y ddaear.

"Does dim posib ein bod ni wedi dwad ymhell iawn," ebe Dic, "dydi'r sêr ddim yn edrych yn ddim mwy na dim nes."

Ond dyna rywbeth yn chwyrnellu heibio iddynt. Gwelsant mai carreg fawr ydoedd, fel pe buasai un o greigiau'r ddaear wedi mynd am dro i'r gwagle, fel hwythau.

"Lle peryg sy yma," ebe Moses wrth Ddic, ond ni chlywodd Dic yr un gair.

"Mi fase'n well gen i fod ar y ddaear yn treio deyd adnod yn y Seiat, na bod yn troi a throsi yma'n methu â deyd dim byd, ond nid pawb wyddost, sy'n dwad ar draws pethe fel hyn," ebe Dic. Eithr ni chlywodd Moses air, dim ond gweld ei wefusau'n symud.

Dyna ryw chwyrnellu heibio iddynt wedyn,—dwy neu dair o'r cerryg mawrion hyn oedd yn rhuthro heibio iddynt â chyflymder dychrynllyd. I gyfeiriad y lleuad fwyaf yr aent, ac yna ymhen tipyn gwelai Dic a Moses oleuadau fel y tân gwyllt a welir ar nos o rialtwch, yn disgleirio rhyngddynt â'r lleuad fawr. Dechreuodd Moses wylo eilwaith, ond rhewodd ei ddagrau gan gau ei lygaid mor dyn oni chafodd drafferth fawr iawn i'w rhyddhau. Os drwg cynt gwaeth wedyn. Yr oedd yn ddigon digalon troi yn ei unfan yn y gwagle ymhell bell uwchlaw'r ddaear, ond mwy digalon fyth oedd` bod felly heb weled dim. Ac yno y bu Dic ac yntau am ysbaid wedyn, yn troi, a throi, heb fedru mynd nac yn ôl nac ymlaen. A Moses yn ceisio dywedyd mai bod yn y Seiat oedd y peth brafiaf ar wyneb y ddaear, ac nid yn unig ar y ddaear, ond mewn unrhyw ran o'r greadigaeth fawr. Ceisiai ddywedyd hynny, ond ni allai, am na allai'r naill glywed y llall yn dywedyd cymaint â sillaf o un gair.

Lledgredai Dic yntau, erbyn hyn, nad oedd y Seiat ddim mor anghyfforddus ag y tybiai, ac y buasai hyd yn oed gwres glasonnen y scŵl yn well na'r oerfel mawr yma. Eto, yr oedd y peth yma mor newydd fel na wyddai'n iawn pa un a hoffai ef ai peidio.

Dyna rywbeth yn chwyrnellu tuagatynt wedyn, ac ni wyddent pa eiliad y malid hwy'n chwilfriw. Dyna ddwy fraich yn sydyn amdanynt, ac i ffwrdd â hwy i gyfeiriad y lleiaf o'r ddwy leuad. Pwy a afaelai ynddynt ond hen ddyn y lleuad, wedi dyfod o hyd iddynt ar ei ffordd o'r ddaear.

Ac ymlaen â hwy. Fel yr aent ymlaen âi'r lleuad fawr yn llai o hyd, ac yn oleuach, a'r lleuad fach yn fwy a thywyllach. O dipyn i beth gwelent y lleuad fach yn mwyhau nes mynd yn fyd. Deuai mynyddoedd a dyffrynnoedd a gwastadeddau mawrion i'r golwg.

Mynd yn ôl i'r ddaear yr yden ni," ebe Moses wrth Ddic, dan wenu. Ac ar unwaith ag ef, dywedai Dic, yntau, yr un peth, ond ni chlywai'r naill mo'r llall yn dywedyd dim.

Diau fod mynyddoedd, a dyffrynnoedd, a gwastadeddau mawrion yn y byd a ymagorai o'u blaenau. Eithr fel y dynesent gwelent nad yr hen ddaear annwyl a adawsant ydoedd,- nid oedd yno na môr, na llyn dwfr, nac afon; na phren, na blodeuyn, na gwelltyn; nac anifail, nac aderyn, na phryf,-dim ond anialwch diderfyn, sych, yn llawn cerryg a chreigiau moelion a hagr. Ac am sŵn, nid oedd na siw na miw yn unman.

Rhoddodd yr hen ddyn, wrth ddynesu at y byd newydd hwn, drithro fel colomen. A disgynasant ill tri yn esmwyth ar ganol gwastatir.

"Ymhle yr yden ni, Rhys Llwyd?" ebe'r ddau hogyn gyda'i gilydd. Eithr ni chlywent leisiau ei gilydd o gwbl. Er hynny, gwyddai'r dyn ar eu gwefusau pa beth a ofynnent, a gwnaeth yntau ei wefus ar ffurf y geiriau,—"Yn y lleuad."

Buont gryn amser yn dyfod atynt eu hunain ar ôl y bendro a gawsant yn y gwagle. Syrthient bob gafael, bob tro y ceisient sefyll ar eu traed, fel y gwnewch chwithau wedi troi oddiamgylch yn chwyrn am beth amser. Wedi dyfod atynt eu hunain, o'r diwedd, yr oedd ganddynt gant a mil o gwestiynau i'w gofyn i'r dyn ynghylch helyntion y daith.

"Cyn i chi ddechre holi," ebe'r dyn, "diolchwch am eich bod chi wedi cyrraedd yn ddiogel. Pan ddois i ar eich traws chi yr oedd y Trobwll Mawr wedi dechre cael gafael ynoch."

"Trobwll Mawr," ebe Moses mewn braw, "be ydi hwnnw?"

"Mae'n anodd egluro," ebe'r dyn,—" a fuoch chi mewn trobwll neu lyn tro afon rywdro pan fyddai dau lif afon yn cydgyfarfod, ac yn ymladd â'i gilydd amdanoch, a chithe mewn peryg o gael eich sugno i mewn rhwng y ddau? Yr arwydd o'r peryg ydi eich bod chi'n dechre troi yn eich unfan yn y dŵr."

"Mi fum i unweth, yn afon y Ddôl, ac mi fu agos imi foddi," ebe Dic.

"Wel, roeddech chi yn y Trobwll Mawr rhwng dau fyd pan ddois i o hyd i chi, ond mi gawn esbonio'r peth eto," ebe dyn y lleuad,—"y cwbl a ddeyda i rwan ydi mai peth digon annifyr ydi rhyw droi rhwng dau fyd, a methu â setlo yn yr un, os nad peth digon peryglus hefyd."

"Rhywbeth tebyg i fod rhwng dwy stôl ar lawr?" ebe Dic.

"Ie," ebe dyn y lleuad.

A dywedent hyn oll â'u gwefusau. Ni chlywent ei gilydd yn dywedyd dim.

Nodiadau

golygu